Maes Meddyliau
Weithiau wrth gyflwyno araith neu ddarlith mae syniad yn eich taro o'r unlle bron fel pe bai dweud pethau ar goedd yn procio'r meddwl. Fe ddigwyddodd hynny i Richard Wyn Jones ddoe. Dim ond wrth gyflwyno darlith y gwnaeth problem ynghylch y refferendwm datganoli nesaf ei daro.
Roedd Richard ar ganol gwneud y pwynt y byddai'n hynod o galed i'r naill ochor na'r llall yn y ddadl lunio negeseuon effeithiol gan fod y cwestiwn cyfansoddiadol mor gul. Byddai 'na ddim dewis felly ond esgus bod y bleidlais yn rhywbeth mwy nac oedd hi. Mae hynny i'w gweld yn barod gyda honiadau Carwyn Jones ynghylch cost ariannol pleidlais "Na" i Gymru a honiadau "Gwir Gymru" ynghylch y llwybr llithrig i annibyniaeth.
Y pwynt wnaeth daro Richard oedd hyn. Fe fydd y ddau ymgyrch yn derbyn talp o arian cyhoeddus gan y Comisiwn Etholiadol i gyflwyno eu dadleuon. Sur fydd y comisiwn yn ymateb felly os oes 'na gwynion bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno ffug-ddadleuon neu hyd yn oed i balu celwyddau ynglŷn â natur y bleidlais? Mae'n gwestiwn da a dydw i ddim yn gwybod yr ateb.
Mae Richard o'r farn bod y broblem yn deillio o'r ffaith bod refferendwm yn cael ei chynnal ynghylch pwnc nad yw haeddu pleidlais. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn adlewyrchu problem fwy sylfaenol ynghylch refferenda. Yn fwy nac mewn etholiad mae etholwyr mewn refferendwm yn aml iawn yn pleidleisio ar sail greddf neu ragfarn. Tasg yr ymgyrchoedd felly yw canfod rhyw resymeg neu ddadl i gyfiawnhau'r greddfau a'r rhagfarnau hynny - i'w gwneud nhw'n barchus os mynnwch chi.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth edrych ar ganlyniad achos llys yn yr Unol Daleithiau'r wythnos hon. Ar yr un diwrnod ac ethol Barak Obama fe bleidleisiodd etholwyr California mewn refferendwm i wahardd priodasau hoyw, priodasau oedd wedi eu cyfreithloni gan Lys Goruchel y Dalaith. O drwch blewyn y penderfynwyd y peth ond mi ydyn ni yng Nghymru yn gwybod o brofiad bod trwch blewyn yn ddigon mewn refferendwm!
Dyna fyddai ddiwedd y stori pe na bai'r canlyniad wedi hela dau gyfreithiwr i bendroni. Nid unrhyw ddau gyfreithiwr chwaeth ond y ddau wnaeth gynrychioli George Bush ac Al Gore wrth iddynt ddadlau ynghylch canlyniad etholiad arlywyddol 2000.
Poeni oedd y ddau bod gwrthwynebwyr priodasau hoyw wedi ennill y bleidlais trwy ddefnyddio dadleuon nad oeddynt yn ddilys na'n bosib eu profi a thrwy hynny wedi amddifadu dinasyddion o hawliau sydd wedi eu gwarantu gan gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Fe gychwynnodd y ddau achos wnaeth ddiweddu mewn gwrandawiad llys lle'r oedd disgwyl i'r ddau ymgyrch gyfiawnhau eu dadleuon. Ar ôl hir ystyried fe ddyfarnwyd yr wythnos hon nad oedd y dadleuon yr ymgyrch yn erbyn y priodasau yn rhesymegol nac yn ddilys. Oherwydd hynny fe ddylid diystyru'r canlyniad.
Mae hynny'n codi pwynt diddorol. Os oedd y Comisiwn Etholiadol yn barnu bod y naill ochor neu'r llall yn un o'r ddau refferendwm flwyddyn nesaf wedi defnyddio dadleuon ffug er mwyn ennill a fyddai hynny'n agor y drws i her gyfreithiol a pha ddyletswydd foesol neu gyfreithiol fyddai na ar wleidyddion i barchu'r canlyniad?