Sefyll yn stond
Rwy'n ffaelu credu bod hi'n Ddydd Mercher cyn i fi wneud y rownds o stondinau'r pleidiau gwleidyddol ar y maes! Fel y byddwch chi'n disgwyl mewn Eisteddfod ac mewn ardal fel Glyn Ebwy mae 'na ddigon o fynd a dod ar stondinau'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Comiwnyddion.
Mae'n fwy o syndod efallai bod y Ceidwadwyr yn dweud eu bod wedi cael croeso ddigon cwrtais. Nid felly'r Democratiaid Rhyddfrydol gydag ambell i Eisteddfodwr yn diawlio'r blaid am glymbleidio a'r Torïaid yn San Steffan. "Doedd e ddim yn brofiad dymunol" oedd disgrifiad un aelod o'r blaid o'i sbel yn orchwylio'r babell.
Nid bod pob Democrat Rhyddfrydol yn cadw draw. Mae Aled Roberts wedi bod yn amlwg iawn o gwmpas y maes. Fe fyddai dyn yn disgwyl hynny gan arweinydd y Cyngor fydd yn croesawu'r brifwyl flwyddyn nesaf wrth gwrs.
Rwy'n gwbl sicr mai dyna yw'r unig reswm y mae Aled yn dymuno codi ei broffil ymhlith Eisteddfodwyr. Fe fyddai unrhyw gasgliad arall yn gwbl gyfeiliornus. Efallai.
Yn y cyfamser mae gen i un diweddariad bach i'r post ddoe lle gwnes i awgrymu bod Carwyn Jones yn cadw draw o babell Ysgol Treganna. Mae'n debyg bod y Prif Weinidog wedi cytuno i gwrdd â dirprwyaeth o'r ysgol y prynhawn yma.