Gigio! Acronym rhyfedd y Gwasanaeth Iechyd
"Cenedlaethol" meddwch chi, meddaf fi ac meddai hanner dwsin o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn ystafell newyddion y ³ÉÈËÂÛ̳.
A beth yw'r term Cymraeg am y "National Health Service"? "Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol" wrth reswm. Dyna beth fi'n dweud a sgwennu. Dyna mae'r hanner dwsin o Gymry Cymraeg yna'n dweud a dyna'r term, yn ôl google, y mae ystod eang o unigolion, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn ei ddweud.
Pam felly mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r acronym GIG ar gyfer y gwasanaeth? Go brin mai camdreiglad sy'n gyfrifol. Mae 'gwasanaeth' ac 'iechyd' yn eiriau gwrywaidd wedi'r cyfan. O ble mae'r ail 'g' yna'n dod felly?
Google yw ein cyfaill unwaith yn rhagor. Trwy ddefnyddio hwnnw cawn ddysgu mai "Gwasanaeth Iechyd Gwladol" yw'r cyfieithiad cywir o "National Health Service" yn ôl cyfieithwyr y Cynulliad a'r Llywodraeth. Mae'r peiriant chwilio yn gallu canfod miloedd ar filoedd o enghreifftiau o'r term - er eu bod nhw bron i gyd yn dod o ddogfennau swyddogol a gynhyrchwyd yng nghrombiliau Tŷ Hywel a Pharc Cathays.
Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm ieithyddol i esbonio'r cyfieithiad. Cofiwch rwy'n mentro fy lefelau-o gradd 4 (iaith) a gradd 2 (llenyddiaeth) yn erbyn pobol sydd â graddau a doethuriaethau yn dod allan o'u Bedwyr Lewis Jonesys!
Mae'n ymddangos i mi fod yr esboniad mwyaf tebygol am y cyfieithiad rhyfedd hwn yn un gwleidyddol. Rwy'n amau bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad gwreiddiol wedi trwytho ei hun ym mhregethau Gwynfor Evans ynghylch y gwahaniaeth rhwng gwlad a chenedl. Gan fod y "National" yn "National Health Service" yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig defnyddiwyd y term "gwladol". Wedi'r cyfan yn ôl diwinyddiaeth Talar Wen gwladwriaeth nid cenedl yw Prydain.
Fe wna i adael y cwesitiwn o b'un ai y dylai cyfieithwyr adael i'w gwleidyddiaeth effeithio ar eu gwaith ai peidio i'r naill ochor. Os ydy pobol yn mynnu dweud "Teyrnas Gyfunol" yn lle "Teyrnas Unedig"... wel, rhyngddyn nhw a'u hansoddeiriau!
Pwynt arall sy gen i yn fan hyn. Hyd yn oed os oedd y "National" yna yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig (neu gyfunol) yn 1948 go brin fod hynny'n wir bellach.
Proffwyd heb anrhydedd yw . Mae ei waith yn fwy cyfarwydd y tu allan i Gymru nac yn ei wlad ei hun. Rhoddodd Julian oes o wasanaeth fel meddyg teulu yng Nglyncorwg gan rannu meddygfa gyda'r cyn-weinidog iechyd Brian Gibbons. Ond mae Julian yn llawer mwy na meddyg. Mae'n wleidydd, yn hanesydd, yn awdur toreithiog a dyn sy'n darlithio ynghylch polisi iechyd yn y cylchoedd academaidd uchaf. Mewn sawl ystyr ef yw ceidwad ffydd y gwasanaeth iechyd. Fe ddylai ei lyfr "" fod yn darllen gorfodol i bawb sy'n ymddiddori yn y maes.
Mae'r llyfr yn dadlau bod sylfaen athronyddol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu yn deillio'n llwyr o brofiadau trigolion maes glo'r de ac mai dim ond y gwasanaeth yng Nghymru sy'n glynu at yr egwyddorion hynny hyd heddiw. Hynny yw, yn ôl un ddylai wybod, mae gwasanaeth iechyd Cymru yn gyfan gwbwl gwahanol i'r hyn sy'n bodoli yng ngweddill Prydain.
Mewn geiriau eraill mae'n wasanaeth iechyd Cenedlaethol Cymreig. Trafodwch.
SylwadauAnfon sylw
Ynrhyw fwriad i fynd ar ol Yswiriant Gwladol hefyd?
Ond mae hwnnw yn gyfundrefn Brydeinig
"meddai hanner dwsin o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn ystafell newyddion y ³ÉÈËÂÛ̳"
Dyna gyfuno dau gas beth gan gyfieithwyr,
sef:
cyfieithiadau/bathiadau gan "rhywun yn y swyddfa sy'n siarad Cymraeg"
a'r geiriau "ond dyna beth sydd ar safle'r ³ÉÈËÂÛ̳"
Dwi'n meddwl mai 'Gwladol' sy'n gywir. Mae 'National' yn y Saesneg yn cyfeirio at Brydain ond mae hynny'n nacau cendligrwydd Cymru ac yn peri dryswch dros beth yw'r 'cenedlaethol' yn yr NHS.Yn sicr, i sefydlwyr yr NHS nid Cymru yw'r 'cenedlaethol' ond Prydain.
Wn i ddim os dwi'n prynu'r jingoistiaeth NHS yma chwaith. Y jingoistiaeth sy'n sôn am 'ein NHS' gyda'r gwasanaeth iechyd yn dod yn rhyw symbol o genedligrwydd. Dydw i ddim chwaith yn gweld unrhyw beth arbennig o Gymreig ynoddi, fel petai hynny ynddo'i hun yn ei wneud yn fwy cyfiawn neu gwedd neu dyngarol.
Gwasanaeth iechyd yw'r NHS. Dyna i gyd. Mae yno i wasanaethu anghenion iechyd pobl sy'n byw ym Mhrydain. Dydy ddim yn berffaith, mae gwasanaethau gwell ar sawl cyfri yn Ffrainc neu'r Almaen neu'r Iseldiroedd. Ond gwasanaeth ydyw, y maen tramgwydd mwyaf i'r NHS ac i'n iechyd ni fel pobl yw'r obsesiwn gyda'r 'National' yma. Mae'r dadlau tiriogaethol, jingoistaidd yma dros y 'national' yn golygu fod unrhyw drafodaeth am y gwasanaeth iechyd wedi ei liwio'n gyfangwbl gan geidwadaeth, dogma ac ar adegau siofinisiaeth.
Da o beth fyddai ail-enwi'r NHS yn 'HS' neu 'GI' a'i adael yno er lles ein iechyd i gyd.
Ai yw'r "gwladol" yn cyfeirio at "wedi'i wladoli" (nationalised). H.y. perchnogaeth yw'r ffocws a'r gwrthgyferbyniad a'r preifat (yn hytrach na'r lleol)? Erbyn feddwl, onid y Saesneg sy'n anghywir. Ai "State Health Service" fyddai'n well. Swnio fwy at ddant Bevan ac Atlee i fi. Os felly, mae angen symud y post 'ma o flog Vaughan i flog Bethan ;)
Efrogwr
Gweler Y Termiadur
national (of nation, not state) cenedlaethol ans
Y Termiadur
national (of state) gwladol ans
Y Termiadur
co, na ti off 'to yn defnyddio termau gwallus fel 'y deyrnas unedig' yn hytrach na'r hollol amlwg 'deyrnas gyfunol' ys gwelir ar fy 'mhasbort' newydd sbon (beth ar y ddaear sy'n bod a'r term 'trwydded teithio' pwy a wyr)
Ble yden ni'n sefyll ar y Parciau Cenedlaethol? A yw'r rheini yn 'genedlaethol'?
Does dim gwell na thrafod defnydd o iaith i ddenu ymateb nagoes?
Mae'r 'gwladol' yn dangos ei fod yn perthyn i'r wladwriaeth, nid i wlad na chenedl.
Mwy o sylwadau ar enw'r Wasanaeth Iechyd nac ar unrhyw bwnc ers achau...
National yn yr ystyr o 'nationalised' (sef be, yn y bon, ddigwyddodd i wasnaethau iechyd fel sawl peth arall yn 1945), felly gwladol = 'wedi ei wladoli'.
Gweler gwaith gan yr academydd o'r Alban, Nicola McEwen, am y syniad o "state welfare nationalism". I bob pwrpas mae hi'n gwneud yr un pwynt mewn theori ag y'ch chi wedi gwneud, Vaughan.
Dewi, mae'r sylwadau yn anelu am y record! Trafodaeth ynghylch R Tudur Jones a'i agwedd tuag at fudiad Adfer sy'n dal honno credwch neu beidio. Mae'r pynciau rhyfeddaf yn denu sylwadau! Diolch i bawb am yr esboniadau. Fel y dwedais i lefel-o gradd 4!
eb, dwi dal wedi drysu er yr holl esboniadau. Oes unrhyw un yn gwadu mai'r "Bwrdd Glo Cenedlaethol" oedd y cyfieithiad cywir o "National Coal Board"? Beth yw'r gwahaniaeth?
A phan ydym wrthi, pam o pam na all y ³ÉÈËÂÛ̳ ddefnyddio 'gwefan' yn lle'r clogyrnaidd 'safle ar y we'? Dyna mae pawb arall yn ei ddefnyddio!
I ychwanegu at sylwad Carwyn Tywyn mae'r dadansoddiad o 'banal nationalism'. Gweler fod llawer o'r drafodaeth ar yr NHS yn cwympo o fewn y diffiniad yma.
I mi, 'national / 'cenedlaetho' = Cymru. Brydain = gwladol. Y drwg ydy fod y drafodaeth yn y Saesneg yn aml methu gwahaniaethu rhwng cenedl a gwladwriaeth. Felly, gwelid penawdau camarweiniol fel 'Estonia/Armenia/Croatia - The new nations of Europe' pan fod y cenhedloedd wedi bod yno dros milenia, y wladwriaeth sy'n newydd.
Dwi'n amau y defnyddir 'National' health service in rannol am ei fod yn swnio'n fwy agos atoch na 'state health service' - er, dwi'n meddwl y gallem ni gael trafodaeth aeddfetach a mwy pwrpasol petai'r SHS fyddai ganddom yn hytrach na'r NHS.
Meiriona - Safwe fydda i'n ei ddefnyddio.
Mae camsyniadau neu amwysterau ieithyddol fel hyn wedi digwydd droeon o'r blaen ac yn dyst i'n amharodrwydd ni (neu amharodrwydd y rhai sy'n dal neu'n gweinyddu grym yng Nghymru) i hawlio statws cenedlaethol llawn i sefydliadau Cymru.
Hefyd mae diffyg gafael ar gystrawen naturiol y Gymraeg, ac ildio i feddylfryd y Saesneg yn halen ar y briw (adferwch y cerydd i bob sylwebydd chwaraeon sy'n amharchu ein clustiau pan ddywed "Y Cwpan Rygbi'r Byd" a'r cyffelyb).
Ond am resymau mwy difrifol, mae'n gas gennyf y trosiad (ac mae'n siŵr gen i mai trosiad yw) 'Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ³ÉÈËÂÛ̳' (³ÉÈËÂÛ̳ National Orchestra of Wales): beth sy'n bod ar Gerddorfa Genedlaethol Cymru? Neu'n fwy perthnasol, Cerddorfa Cymru? Ac yn lle Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Cynulliad Cymru?
Am yr un rheswm y mae Rwsia newydd blannu ei baner o dan moroedd anghysbell y gogledd eithaf, mae termau ar gyrff cenedlaethol yn bwysig, maent yn hawlio tirogaeth y meddwl yn ogystal â chylchoedd grym ac atebolrwydd.
Mae'n braf bod cyfle wedi codi i dynnu sylw at enghraifft lle mae'r Gymraeg yn gallu bod yn fanylach na'r Saesneg.
Achos bod yr iaith fain yn holl-bresennol, rydyn ni'n gallu cael ein twyllo i gredu bod pob gair ac ymadrodd yn gywir, ond 'state health service' fyddai'r disgrifiad gorau o'r NHS, ac mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhagori fel term.
Mae yna Swyddfa Ystadegau *Gwladol* hefyd, cofiwch, a byddai mwy o ddefnyddio ar 'gwladol' yn beth da - os perthyn i'r wladwriaeth ac nid i un o'r cenhedloedd sy'n rhan o'r wladwriaeth yw'r ystyr.
Cofiwch hefyd mai peth newydd yw cyfieithu arbenigol yng Nghymru, ac allwn ni ddim disgwyl i bopeth fod yn gwbl gyson bob tro, ac felly mae'n rhaid goddef ambell 'cenedlaethol' fel yn y bwrdd glo ers lawer dydd, hyd nes i bobl ddod i arfer a'r angen i hollti blew.
Mae gan y Saesneg wladwriaeth, senedd, barnwriaeth etc i bennu ystyr geiriau ers cenedlaethau. Ers degawd yn unig y mae gyda ni Gynlleied, felly mae manwl-gywirdeb a chysondeb yn mynd i gymryd tipyn o amser eto, sbo.
Cyfieithiadau neu led-gyfieithiadau yw llwyth o gynnyrch gwefan y Newyddion (ac adroddiadau Radio Cymru) wrth gwrs, ac fel cyfieithydd fy hunan, rwy'n credu ei bod yn drueni nad oes yna well arbenigrwydd Cymraeg ar gael yn y ³ÉÈËÂÛ̳. Er enghraifft, chi byth yn gweld neb o'r ³ÉÈËÂÛ̳ ar gyrsiau hyfforddi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, nac yn dilyn Tystysgrif Prifysgolion Aber a Bangor, ydych chi?
Byddwn i'n cytuno gyda sawl un o'r cyfranwyr uchod sydd o'r farn mai 'gwladol' sydd orau, gan mai gwasanaeth sy'n perthyn i'r wladwriaeth yw e ac nid i genedl. Wrth gwrs, mae'r gwasanaeth yn prysur ymrannu bellach wrth i'r gwledydd ddilyn eu polisïau iechyd eu hunain, ond stori arall yw honno...
A mynd yn ôl at bwynt gwreiddiol Vaughan sef bod yr acronym yn rhyfedd. Yn sicr fyddwn i ddim yn dweud bod GIG yn cyfleu gwasanaeth iechyd i'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg. Gig yw rhywbeth dyw Meic Stevens ddim yn troi lan ar ei gyfer yn Steddfod. Mae hyn achos ar y cyfan dyw acronymau ddim yn gweithio yn Gymraeg (heblaw am ambell un fel TGAU). GLLEM unrhyw un? CLlLC? BILLau? BBaCHau? ARGH!
Hael yw Hywel ar bwrs y wlad, nid ar bwrs y genedl