Ym-geiswyr
Mewn rhai achosion mae'n debyg mai oedi er mwyn rhoi cyfle i aelodau seneddol wnaeth golli ym Mis Mai ystyried p'un ai i sefyll ai peidio oedd y bwriad. Mae hynny'n ddigon synhwyrol.
Fe fydd darllenwyr y blog hwn ym Mis Awst a darllenwyr y Western Mail y mis hwn yn gwybod bod y dacteg honno wedi gweithio yng Ngogledd Caerdydd lle mae Julie Morgan fwy neu lai wedi penderfynu rhoi ei henw ymlaen.
Nid felly y mae pethau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Mae'n debyg nad oes unrhyw ddiddordeb gan Nick Ainger mewn ymgeisio. Nid bod hynny'n gadael Llafur heb ymgeisydd credadwy.
Ar ôl llygadu sedd rhestr a cheisio cryfhau ei chefnogaeth ranbarthol trwy sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr Etholiad Cyffredinol mai'n debyg bod Christine Gwyther wedi penderfynu mae yn ei hen etholaeth y mae ganddi'r cyfle gorau o ddychwelyd i'r Bae. Nid bod Christine yn sicr o gael yr enwebiad. Wedi'r cyfan colli fu hanes Tamsin Dunwoody yng nghynhadledd ddewis Preseli Penfro.
Maria Battle yw'r enw arall sy'n cael ei grybwyll yn yr etholaeth ddeheuol.
SylwadauAnfon sylw
dwi ddim yn siwr bod "Christine Gwyther wedi penderfynu mae yn ei hen etholaeth y mae ganddi'r cyfle gorau o ddychwelyd i'r Bae" ond wedi orfod sefyll ar ol colli'r enwebiad am Gorllewin Abertawe