³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sbec ar ddec

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Gwener, 26 Tachwedd 2010

Efallai eich bod wedi sylwi fy mod wedi bod braidd yn brysur dros y ddyddiau diwethaf! Os ydych chi wedi bod yn gwylio'r bocs neu'n gwrando ar y radio gallaf faddau i chi am feddwl eich bod yn gwylio "Attack of the Clones" - a phob un o'r diawled yn edrych ac yn swnio'n union fel fi!

Ble mae pethau'n sefyll o safbwynt S4C felly? "Stand off" yw'r disgrifiad gorau dwi'n meddwl.

Os nad yw John Walter yn dewis ymddiswyddo fel Cadeirydd yr Awdurdod - a hynny trwy lythyr i'r DCMS - fe yw Cadeirydd S4C. Does dim ots beth ddywedodd e wrth yr Awdurdod nos Fawrth na beth mae aelodau eraill yr Awdurdod wedi gwneud neu ddweud ers hynny. Y cyfan sy'n cyfri yw'r llythyr i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn yr ystyr hynny yn nwylo John Walter mae'r cardiau - neu'r 'sgrifbyn!

Mae statws Rheon Tomos yr 'is-gadeirydd' yn llai sicr. Mae'n ymddangos ei fod wedi cael ei ethol mewn cyfarfod (neu gyfarfod ffôn) nad oedd John Walter - y Cadeirydd - yn gwybod amdano. Os felly go brin fod y penodiad yn ddilys. Dyw'r ffaith bod aelodau'r awdurdod yn credu bod John Walter wedi ymddiswyddo yn gwneud dim byd i newid statws y cyfarfod ac mae 'na ddigon o gyfreithwyr a gwleidyddion ar yr Awdurdod a ddylai fod wedi sylweddoli hynny.

Un peth sy'n rhyfeddol yn hyn oll yw nad oedd aelodau'r Awdurdod yn gwybod eu bod mewn picl nes i un o swyddogion y Sianel ddarllen cynnwys y blog hwn iddyn nhw echddoe.

Trwy'r dydd, ddydd Mercher wnaeth neb o'r sianel gysylltu â John Walter i ofyn beth yn union oedd y sefyllfa. Doedd y Cadeirydd ddim yn cuddio. Roedd e yn ei gartref ac yn ateb ei ffôn. Mae'n rhyfeddod i mi na wnaeth neb siarad ac ef.

Mae hynny'n codi cwestiwn diddorol. Rwy'n cael ar ddeall nad hwn oedd y tro cyntaf i John Walter fygwth ymddiswyddo mewn cyfarfod o'r awdurdod. Oedd aelodau eraill yr awdurdod yn credu mewn gwirionedd ei fod wedi ymddiswyddo y tro hwn? Dyna maen nhw'n ei ddweud. Os felly pam peidio gofyn am gadarnhad o hynny o wybod bod gan John Walter "trac record" yn hyn o beth?

Ta beth mae'r digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf wedi rhoi terfyn ar fudandod aelodau'r awdurdod a swyddogion y sianel o safbwynt sgwrsio a newyddiadurwyr. Dyma i chi flas o'r hyn mae rhai ohonyn nhw'n dweud.

"Does 'na ddim rhaniad o fewn yr awdurdod - dim ond rhwng yr Awdurdod a'r Cadeirydd. Mae John wedi tanseilio ei Awdurdod ei hun"

"Mae'n gwbwl eglur i bawb bod John WEDI ymddiswyddo. Mae'n fater iddo fe wneud hynny'n swyddogol"

"Mae'r sefyllfa'n gwbl amhosib. Dydw i erioed wedi bod mor isel"

Ac yn olaf "Mae'n flin gen i - mi ydach chi wedi deialu'r rhif anghywir" medd llais digon cyfarwydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:55 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd gwionowain:

    mae llofruddiaeth y sianel yn un peth ond mae hunanladdiad yn beth arall!!!!

  • 2. Am 12:03 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Braf clywed nad yw Aelodau Awdurdod S4C bellach yn fud, a'u bod yn siarad gyda newyddiadurwyr. Tybed a gaf ofyn pryd y bydd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y ³ÉÈËÂÛ̳, Syr Michael Lyons, yn rhoi'r gorau i'w fudandod yntau ar y pwnc hwn gan deithio i Gaerdydd er mwyn wynebu cyfweliad?

  • 3. Am 12:11 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Cawlach os bu un erioed ac mae Iona nawr wedi taflu ei bag i mewn i’r cylch hefyd. Gobeithio cael llawn sach allan siŵr o fod!!

  • 4. Am 12:19 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd gwionowain :

    Dylai JWJ wneud y peth anrhydeddus a rhoi datganiad di-amod ei fod yn ymddiswyddo. Fel wyt ti yn dweud Vaughan mae'r berthynas rhwng yr Awdurdod a'r Cadeirydd wedi hen dorri i lawr.

    Y broblem yn hyn mae arana'i ofn ydi diffyg integriti JWJ - os yw am ymddiswyddo dylai fynd nawr yn lle gwneud bygythiadau - yn wir hefyd mae'n amhosibl iddo gynnig arweiniad i weddill yr Awdurdod. Gyda sefyllfa'r Cadeirydd yn amwys mae annibynniaeth S4C wedi ei osod yn aelodau eraill yr Awdurdod a dylai unrhywun sydd a lles S4C wrth galon eu cefnogi.

    Mae llawer o broblemau presennol S4C yn deillio o'r blynyddoedd o ddiffyg integriti yn y berthynas oedd yn bodoli rhwng JWJ a'r Prif Weithredwr ymadawedig Iona Jones. Yn sicr nid oedd gan y diwydiant teledu unrhyw hyder yn arweiniad yn yr arweiniad a afwyd gan JWJ a Iona Jones. Fel y dywedwyd yn y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mawrth roedd y rheolwyr wedi mynd yn 'hubristic' a bai y Cadeirydd oedd hynny.

    Rhaid i JWJ fynd NAWR!!!!!!

  • 5. Am 14:01 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd D.Glem:

    O ddarllen rhwng yn llinellau, mae'n amlwg JWJ wedi bod yn sbinio'n galed dros y deuddydd diwethaf. Ond mae'n amlwg hefyd nad yw'n gwadu ei fod wedi dweud wrth aelodau eraill yr Awdurdod ei fod yn ymddiswyddo, mond ei fod o wedyn wedi newid ei feddwl...? Ai dyna'r sefyllfa Vaughan? Os felly, ydi'o mewn difrif calon yn credu fod hyn y math yma o nonsens yn dderbyniol? Pan mae'r sianel mewn stad o argyfwng??

    John bach, er mwyn popeth, DOS!

  • 6. Am 23:31 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd GWYLAN:

    Onid yw'n bryd i newyddiadurwyr ddod o hyd i'r stori'n llawn?

  • 7. Am 12:09 ar 28 Tachwedd 2010, ysgrifennodd dewi:

    Cytuno a GWYLAN:

    Onid yw'n bryd i newyddiadurwyr ddod o hyd i'r stori'n llawn?

    - nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ a chwi Vaughan wedi delio yn dda a hyn- yn enwedig ar nos fercher ble roedd "rumour (JWJ wedi gadael) a counter rumour". Roedd y rhagles WTW ar S4C yn rhaglen gyda bron i ddim ffeithiau.
    Yn lle bod yn 'chummy' gyda pobol yr awdurdod a datgelu unrhyw stori yn drib-drab gawni ddim y stori llawn gwir yn fuan.

    Dyna pam dwin talu y £142 y.f!

  • 8. Am 18:53 ar 29 Tachwedd 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Rhywbeth gwahanol. Pam fod Jamie Owen yn cael yr hawl i gam-ynganu enwau? - Llancarfan oedd hi heno.

    Ai diogi sydd yma, neu ddewis penstiff, gwleidyddol i wneud hyn? Mae pawb arall ar Wales Today yn rhagorol yn hyn o beth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.