³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwy Law yn erfyn

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan yng Nghaerdydd heddiw. Does dim byd anarferol ynghylch hynny. Ymhlith cyfarfodydd eraill fe fydd y Gweinidog yn cwrdd â'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn syndod chwaith.


Pam felly bod ambell i AC Torïaidd wedi mynd allan o'i ffordd i adael i newyddiadurwyr wybod bod y cyfarfod yn digwydd a bod yna "siarad plaen" i fod?

Does dim angen bod yn athrylith i ddeall y cymhellion dros y sibrwd nac i wybod ynghylch beth y mae'r 'siarad plaen' hynny i fod.

Mae canlyniadau'r arolwg YouGov diweddaraf wedi cyflawni ofnau gwaethaf y Ceidwadwyr Cymreig trwy gadarnhau bod trwch yr etholwyr yn credu bod Cymru'n dioddef mwy na'i siâr o doriadau. Hynny yw, mae negesau cyson Llafur Cymru, ac i raddau llai Plaid Cymru, yn taro tant ymhlith y cyhoedd.

Gadewch i ni adael y cwestiwn o gywirdeb y gosodiad i'r naill ochor. Y canfyddiad a'r naratif sy'n bwysig yn fan hyn.

Does dim dwywaith bod penderfyniadau megis cau Swyddfa Bassborts Casnewydd a rhoi'r gorau i gynlluniau Academi Filwrol Sain Tathan wedi creu gwythïen gyfoethog o ddicter ac anniddigrwydd y gall pleidiau Llywodraeth y bae ei gweithio flwyddyn nesaf. Peidied neb a meddwl nad yw eu ceibiau a'u rhawiau'n barod i wneud hynny. "They'll be there" fel byddai'r "Stand" yn dweud.

Mae natur y "siarad plaen" yn amlwg felly. "Dim rhagor o doriadau sy'n ymddangos yn anghyfartal" fydd y neges gyntaf. "Rhowch rywbeth i ni" fydd yr ail. Y "rhywbeth" yw prosiect cyfalaf mawr - a'r un amlwg yw trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe.

Mae'r lein honno yn rhedeg trwy ardaloedd lle mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth sylweddol yn draddodiadol a gallai gohirio'r cynllun fod yn drychinebus yn etholiadol. Faint o drychineb? Wel, mae un Aelod Cynulliad Ceidwadol yn ofni y gallai cyfanswm y Ceidwadwyr yn y cynulliad fod 'yn y rhifau sengl' ar ôl mis Mai.

Pe bai hynny'n digwydd wrth gwrs, does dim dwywaith y byddai cyfnod hir Nick Bourne fel arweinydd yn dirwyn i ben ac mae 'na ambell i arwydd bod y frwydr i'w olynu wedi dechrau.

Wrth gwrs, does 'na ddim byd o le os ydy llefarydd mainc blaen fel Andrew 'RT' Davies yn dewis ysgrifennu at ymgeiswyr ei blaid yn addo help llaw yn eu hymgyrchoedd. Serch hynny mae'n anodd credu nad oes 'na elfen o "Can di bennill mwyn i'th nain, fe gan dy nain i tithau" yn ei epistol.

Tybed a gafodd David Melding gopi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:33 ar 4 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Mond gofyn:

    O weld y pennawd a'r llun wrth ymyl eu gilydd roeddwn i'n amau dy fod ar fin cyfaddef fod gennyt ddarlun o Cheryl Gillian wrth ymyl dy wely di, Vaughan?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.