³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pensiwn a phris platinwm

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am y problemau mae'r Ceidwadwyr wedi achosi iddyn nhw eu hun trwy addo cynyddu'r gyllideb iechyd yn unol â chwyddiant pe bai nhw'n llywodraethu yn y Bae.


Un o'r problemau mwyaf yw gorfod ymateb i bob un cyhoeddiad gan y Llywodraeth mewn meysydd eraill gan esbonio pam yn union y byddai'r Ceidwadwyr yn torri mwy yn y meysydd hynny a pham na fyddai'r torriadau hynny yn cael effeithiau difrifol ar wasanaethau.

Cafwyd enghraifft berffaith o hynny heddiw pan gyhoeddodd y Llywodraeth fanylion y setliad Llywodraeth Leol. Am y tro cyntaf i mi gofio - ac rwyf wedi bod yn dilyn y ddefod arbennig yma am chwarter canrif - cafwyd dim siw na miw o gŵyn gan y cynghorau.

Mae'r rheswm am hynny'n amlwg. Er bod eu nhw'n wynebu toriadau flwyddyn nesaf maen nhw'n llai nac oedd y cynghorau'n disgwyl a llawer iawn yn llai na'r toriadau sy'n wynebu cynghorau Lloegr.

Sut felly y byddai Ceidwadwyr y Cynulliad yn esbonio i'w cyd-Geidwadwyr ar Gyngor Mynwy, er enghraifft, eu bod yn derbyn gormod o gyllid o'r coffrau canolog?

Fe geisiodd Nick Bourne ateb y pwynt hwnnw heddiw trwy son am wastraff mewn llywodraeth leol a'r angen i gynghorau gydweithio mwy. Fe dorodd Darren Millar i mewn i ymosod ar yr hyn alwodd yn "platinum plated pensions" gweithwyr Llywodraeth Leol.

"Platinum plated pensions" ei eiriau fe - nid fy rhai i. Gadewch i ni edrych ar bensiynau gweithwyr cyngor felly.

Yn ol undeb "" £4,000 y fwyddyn yw gwerth pensiwn Llywodreath Leol ar gyfartaledd. £2,600 yw'r ffigwr i fenywod. Faint o blatinwm y byddai hynny yn prynu? Dim llawer! $1,700 yr owns oedd pris y metal yn y marchnadoedd heddiw.

Wrth gwrs mae maint pensiwn unrhyw weithiwr yn dibynnu ar faint ei gyfraniadau a hyd ei wasanaeth. Mae gweithwyr Llywodraeth Leol yn cyfrannu hyd at 7.5% o'u cyflog tuag at eu pensiwn. Am bob blwyddyn o wasanaeth mae'r gweithiwr yn ennill 1/60 o'i gyflog mewn pensiwn. Hynny yw fe fyddai rhywun oedd wedi gweithio i gyngor am 40 mlynedd yn derbyn 40/60 neu dwy ran o dair o'i gyflog mewn pensiwn.

Sut mae hynny'n cymharu â'r cynllun sydd ar gael i aelodau cynulliad - pobol fe Darren Millar? Mae llawlyfr y gronfa yn . Mae'r telerau wedi newid ar hyd y blynyddoedd ond dim cymaint â hynny.

Mae Aelod Cynulliad sy'n dewis talu 6% o'i gyflog mewn i'r gronfa pensiwn yn derbyn 1/50 o'i gyflog am bob blwyddyn o wasanaeth. Mae hynny'n dipyn mwy hael na'r gronfa llywodraeth leol. Ond mae gan Aelodau'r Cynulliad ddewis arall. Mae 10% o'r cyflog yn prynu 1/40 o bensiwn yn flynyddol.

Beth pe bai Darren Millar wedi dewis ymuno a'r gronfa bensiwn ar y telerau hynny pan gafodd ei ethol i'r cynulliad prin bedair blynedd yn ôl? Erbyn hyn fe fyddai eisoes wedi sicrhau pensiwn uwch nac mae'r rhan fwyaf o gyn-weithwyr llywodraeth leol yn ei dderbyn yn ôl ffigyrau Unite.

"Platinum plated". Fy ngeiriau i y tro hwn.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:01 ar 23 Tachwedd 2010, ysgrifennodd cath:

    Ar ôl 25 mlynedd, rhaid dy fod yn un o'r tri (chwedl Tony Travers LSE) sy'n deall y setliad?

  • 2. Am 17:20 ar 23 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ydw, ond dydw i ddim yn dweud!

  • 3. Am 09:07 ar 24 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Pensiwn 30/60 ti yn siarad amdano fan hyn

    Mae rhan fwyaf o weithwyr cyngor yn cynnwys athrawon ond ar delerau 40/80 sef gorfod talu i mewn am 40 mlynedd i gael hanner cyflog mewn pensiwn!

    "Platinum plated" ie i Darren Miller a'i gyfoedion ond ddim i weithwyr cyffredin

  • 4. Am 09:41 ar 24 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am gywiro, Alun. Rwy'n ymddiheuro am y camgymeriad - ond fe wyt ti'n dweud mae dy gywiriad yn cryfhau'r pwynt.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.