³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Eneth Gath ei Gwrthod

Vaughan Roderick | 13:27, Dydd Iau, 4 Tachwedd 2010

Un o nodweddion mwyaf amlwg y Cynulliad o'r cychwyn cyntaf yw'r nifer o fenywod sy'n aelodau. Yn y cynulliad cyntaf roedd union hanner yr aelodau'n fenywaidd a hon oedd un o'r ychydig ddeddfwrfeydd yn y byd lle'r oedd cynrychiolwyr y ddwy ryw yn agos at fod yn gydradd o ran eu niferoedd.


Y rheswm penna am y nifer uchel o fenywod oedd bod Llafur a Phlaid Cymru wedi llunio rheolau dewis ymgeiswyr oedd wedi eu hanelu at sicrhau cydraddoldeb. Y ddadl oedd mai dim ond trwy reolau felly yr oedd modd cyrraedd y nod ond na fyddai eu hangen yn y tymor hir. Unwaith yr oedd cydraddoldeb wedi ei sicrhau fe fyddai pob rhagfarn a rhwystr yn diflannu.

Dyna oedd y ddadl, o leiaf. Dydw i ddim yn gwybod ym mha Afallon yr oedd y bobol oedd yn ei chredu yn byw. Yr un lle "does neb yn y jêl a bywyd yn fêl", o bosib!

Roedd synnwyr cyffredin yn awgrymu y byddai anghyfartaledd yn ymddangos yn y Cynulliad pe bai'r rheolau yn cael eu llacio cyn i gyfartaledd gael eu sicrhau mewn rhannau eraill o fywyd cyhoeddus. Dyna'n union sy'n debyg o ddigwydd flwyddyn nesaf.

Dydw i ddim wedi gweithio'r ffigyrau allan ond mewn cynhadledd ddewis ar ôl cynhadledd ddewis mae dynion wedi eu dewis i olynu menywod sy'n gadael y cynulliad. Mae hynny'n wir yn achosion Lorraine Barrett, Jane Davidson, Karen Sinclair, Irene James a Val Lloyd ar y meinciau Llafur. Dynion hefyd sy'n debyg o gynrychioli'r seddi sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Janet Ryder, Eleanor Burnham, Jenny Randerson a Trish Law.

Mae 'na ambell i sedd lle y gallai menyw olynu dyn ond dim llawer ac mae'n ddigon posib y bydd nifer y dynion yn tynnu am ddwy ran o dair o'r aelodau yn y Cynulliad nesaf.

Does dim angen bod yn athrylith i ddeall y rheswm am y ffenomen hon. Os nad oes 'na reolau cydraddoldeb os ydy'r mwyafrif llethol o gynghorwyr a phwyllgorwyr Cymru yn ddynion fe fydd dewisiadau'r pleidiau yn adlewyrchu hynny.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:31 ar 4 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Elin:

    Fe gyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) adroddiad yn rhybuddio am hyn flwyddyn yn ol: "Mas Critigol: Effaith a Dyfodol Cynrychiolaeth Menywod yng Nhynulliad Cenedlaethol Cymru" - i'w weld ar wefan yr IWA.

  • 2. Am 16:15 ar 5 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Helen:

    Eironig iawn yn achos Trish Law, a hithau wedi olynu ei gw^r, y diweddar Peter Law, a safodd, ac ennill, fel ymgeisydd annibynnol oherwydd ei wrthwynebiad i 'wahaniaethu cadarnhaol' o du'r Blaid Lafur!

    Gyda llaw, nid peth newydd o gwbl yw gwahaniaethu cadarnhaol - adeg arholiad yr 11+, er mwyn cyfartalu niferoedd y bechgyn a'r merched a basiai, doedd dim rhaid i'r bechgyn wneud mor dda â'r merched yn yr arholiad, a hynny fel pe bai'n gydnabyddiaeth o'r gwahaniaeth ym mherfformiad bechgyn a merched sydd hyd heddi'n destun trafod.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.