³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Diwrnod tân gwyllt

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010

Mae'n fis ers i ni ddathlu Noson Guto Ffowc - os mai dathlu yw'r gair cywir. Yn achos y Cynulliad gellid dadlau mai heddiw yw'r ŵyl tân gwyllt go iawn. Mae 'na gyfres o straeon yn debyg o dasgu a ffrwydro yn ystod y dydd heddiw. Post agored yw hwn. Byddaf yn ychwanegu ato yn ystod y dydd.

Bant a ni felly.

Mae ffigyrau PISA newydd eu cyhoeddi. Rhain yw'r mesuriadau swyddogol ynghylch cyflwr ein hysgolion. Dengys y ffigyrau bod Cymru ar ei hôl hi ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers yr adroddiad diwethaf yn 2006. Mwy am hyn yn y man.

Y prynhawn yma fe fydd y Cynulliad yn trafod y mesur iaith. Ysgrifennais ddydd Gwener am welliannau Bethan Jenkins i'r mesur gan ddweud hyn.

"Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant.
Y cwestiwn nawr yw a fydd eraill o rengoedd Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny?"

Mae'n ymddangos ar hyn o bryd mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'dim llawer'.

10.20 Mae Leighton Andrews newydd ryddhau datganiad ynghylch PISA. Mae ei eiriau'n ddigyfaddawd. Mae'r ffigyrau'n 'annerbyniol' a dyw e ddim am gynnig esgusodion. Mae'n ysgolion yn dioddef o 'fethiant systemig' yn ôl y gweinidog. Beth fydd gan Carwyn Jones i ddweud yn ei gynhadledd newyddion diwedd tymor, tybed?

10.55; Fe fydd y Mesur Iaith yn un 'gyfreithiol gadarn' medd Carwyn gan ychwanegu y byddai gwelliannau Bethan Jenkins yn "codi cwestiynau cyfreithiol'. Gallwn gymryd nad yw'r Llywodraeth am ildio felly.

A beth am PISA? Mae'r Llywodraeth am ystyried y data'n ofalus cyn llunio rhaglen weithredol medd Leighton Andrews ond yn ôl y gweinidog mae llawer o'r bai 'yn yr ystafell dosbarth'. Onid yw hynny'n amlwg?

11. 55. "Stynt cyhoeddusrwydd" yw gwelliannau Bethan Jenkins yn ol y Denmocratiaid Rhyddfryfol ond fe fydd y blaid yn pleidleisio drosto "os ydy'r gwelliant yn cvael ei symud yn y diwedd". Methiant Leanne Wood i symud gwelliannau a chyflwynwyd ganddi yn y pwyllgor sydd wrth wraidd sinigiaeth y blaid.

12.25 Gwelliant newydd gan y Llywodraeth i'r Mesur Iaith - reit debyg i un Bethan Jenkins ar yr olwg gyntaf. Mae'n dweud hyn; Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15

12.55 DATGANIAD AR Y CYD GAN YR ATHRO RICHARD WYN JONES AC EMYR LEWIS

"Rydym yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi dwyn y gwelliant hwn gerbron. Mae'r datblygiad cyffrous hwn ar y munud olaf yn dangos bod gennym yng Nghymru Lywodraeth sy'n gwrando ar ei phobl ac yn ymateb yn gadarnhaol i farn ei hetholwyr. Diolch i'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones ac i'r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins am eu harweiniad a'u gweledigaeth. Dyma gam hanesyddol sy'n mynd i osod sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Eisiau byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg y mae pobol wedi'r cyfan, nid protestio ynghylch yr iaith byth a hefyd. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod yr hyn gyflawnwyd heddiw. Carem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn llythyru, yn e-bostio, yn ffonio, ac yn cyfarfod â'r Aelodau Cynulliad er mwyn eu cymell i gefnogi'r egwyddor ganolog o statws swyddogol cyflawn i'r iaith Gymraeg. Bydd pawb yn gallu cysgu'n dawel heno. Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb pob copa walltog tuag at y Gymraeg yn parhau a hyderwn y bydd modd i ni i gydweithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol iach i'n hiaith."

13.55 Fe wnes i ddweud y byddai 'na dan gwyllt heddiw. Woosh! Bang! Mae John Walter Jones yn gadael S4C yn syth.

14.05 Pigion o lythyr ymddiswyddiad JWJ (yn Saesneg yn unig ac wedi ei theipio ar Remington, mae'n ymddangos);

"The situation pertaining at S4C cannot be allowed to continue. Clearly there are those that are reluctant to allow the organised change that you and I agreed upon in November to take place."

"The current obsessions by some with issues neither related to content nor output is saddening, but it must be realise that whilst a myriad different agendas exist, S4C is broadcasting programmes of which it can be rightfully proud. The vast majority of staff are dedicated to delivering success for S4C."

14.30 Gallwch wylio dadl y Mesur Iaith ar

15.30 Datganiad Cymdeithas yr Iaith;

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg gan ddweud mai mesur yn cynnwys statws swyddogol i'r Gymraeg yn ogystal a hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yr oeddent wedi ymgyrchu amdano, nid mesur gor-gymhleth fel a fydd yn cael ei basio y prynhawn yma.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llawenhau fod llawer o welliannau yr oeddent wedi galw amdanynt wedi eu gwneud yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys hawl i unigolion apelio yn erbyn penderfyniad sy'n cyfateb i hawl cyrff a chwmniau i apelio yn erbyn safon a osodir arnynt i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Dywedodd Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

'Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl. Serch hynny, nid dyma'r mesur rydym wedi ymgyrchu amdani oherwydd nid yw'n mynd i'r afael â'n prif bryderon am sefyllfa'r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Mae egwyddor graidd yn parhau i fod ar goll yn y mesur. Nid yw'r llywodraeth wedi sicrhau hawliau yn unol â'i haddewid. Mae gormod o amser wedi ei wastraffu yn trafod am statws yr oedd cymaint o gonsensws amdano'n barod, yn lle meddwl am ddeddfwriaeth blaengar i Gymru. Y cam synhwyrol nesaf yw i fynd i'r afael â'r berthynas ymarferol rhwng bobl Cymru â'r Gymraeg. Mae'r mesur hwn yn grymuso swyddogion, ond nid yw'n grymuso dinasyddion yn yr un modd, a bydd diffygion y mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol. Mae hefyd yn fesur hynod gymhleth ac mae pryder gwirioneddol gennym ynghylch sut y bydd modd ei weithredu er lles y Gymraeg a phobl Cymru. Mae'r gyd-berthynas rhwng statws a hawliau yn ddiymwad, ac mae'r grym y byddai gan hawliau i sicrhau fod y safonau'n gweithio'n effeithiol yn ddiymwad yn ogystal. Fel y saif y mesur ar hyn o bryd, does dim egwyddor yn gyrru'r safonau. Hawliau yw'r unig beth fyddai'n ymrymuso pobl ac yn newid hyn. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru.'

1700 Mae'r Mesur Iaith wedi ei basio...ac mae JWJ ar Post Prynhawn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:36 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd gwionowain :

    Dwi wedi fy hoelio i'r rhyngrwyd a twitter heddiw Vaughan..dwi'n gobeithio bydd y sioe tan gwyllt yma cystal a'r addewid rwan!!!

  • 2. Am 12:51 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Aled:

    @ diweddariad 1225

    Felly mae'r Llywodraeth wedi derbyn dadl yr ymgyrchwyr/caredigion? Sut fyddai'r Cymal yn llifo wedyn?

  • 3. Am 13:54 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Emlyn Uwch Cych:

    I ateb cwestiwn Aled, dyma sut fydd dechrau Cymal 1 yn edrych:

    1 Statws swyddogol y Gymraeg

    (1) Mae statws swyddogol i‘r Gymraeg yng Nghymru.
    (2) Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol— ayyb

  • 4. Am 13:54 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd GWYLAN:

    Newydd ddarllen datganiad RWJ ac EL. Blydi hell! Ydy’r ddau wedi bod mas ar y pop bore ‘ma. Braidd dros y top dwi’n credu.

  • 5. Am 14:26 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd GWYLAN:

    13.55 Mae John Walter Jones yn gadael S4C yn syth. . . . . . Ond a fydd e nol cyn pedwar?

  • 6. Am 14:57 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Dewi:

    "1) Mae statws swyddogol i‘r Gymraeg yng Nghymru.
    (2) Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol— ayyb"

    Oes yna statws swyddogol i'r Saesneg yng Nhymru felly?

  • 7. Am 16:36 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    All rywun gweud wrtha'i siwd ma rhifau PISA yn cymharu gyda phethau eraill syudd wedi'u gweud yn ddiweddar ynglyn ag addysg Gymraeg? HY, ydy safonau Cymru wedi codi ond yn arafach na gweddill y byd? Neu ydyn nhw wedi gostwng, er gwaethaf beth mae'r cynulliad wedi bod yn gweud wrthon ni? Gan fydd pawb yn son am y £500 o wahaniaeth rhwng gwariant Cymru a Lloegr, oes 'na gymhariaeth deg rhwng gwariant Cymru ac ardal gyffelyb o Loegr? Mae'n anodd iawn gwneud unrhyw fath o sylw ystyrlon o'r ffigyrau heb wybod y fath rhifau.

  • 8. Am 18:36 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Huw:

    Vaughan.. beth wyt ti'n meddwl ?? 2010 yn Oes Aur arall i Gymdeithas yr Iaith?

    Dwi wedi bod yn aelod CYIG yn y gorffenol pell ond wedi cael give up ers talwm gan feddwl bod yr holl beth yn berthyn i'r llyfr hanes bellach. Ond mae CyIG wedi llwyddo unwaith blymin eto i gael y deddf yma, beth yw hwn y 3ydd Deddf Iaith i'r Gymdeithas gwythio twyodd ers y 60au? Son am dal ati!

    Trefnodd CyIG demo enfawr yn Gaerdydd dros S4C cwpl o wythonsau nol.. Es i ddim i hwnna ond es i Demo mawr y Gymdeithas yn glaw mwya ofnadwy yn Gaernarfon Sadwrn diwethaf yn erbyn torriadau gwario gyda siaradwyr yn cefnogi o Undebau a hyd yn oed y Blaid Lafur!!

    Dwi wedi ail ymuno CYIG yn diwedda ond heb neud dim sbray peintio eto.

    Vaughan ti'n son o hyd am be di be efo pleidiau gwleidyddol ond beth yw dy farn expert am Y Gymdeithas? Beth am bostio dy feddyliau rhywbryd?

    I'r Gad!

  • 9. Am 21:33 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Sibrydion yn mynd o gwbas bod JWJ wedi ei glymu i fyny lawr y lloches a ydyw Parc Ty Glas, ac yn cael ei gorfodi i ysgrifennu'r llythyr!.

    Ffantisiol? ar ol bob dim sydd wedi digwydd swnim yn syny os fysa hwn yn cael ei ddatgelu!

    @GWYLAN: cytuno, gwelliant da. Ond braidd over-the-top oedd RWJ- ella mewn hwylia da am fod "Welsh Politician of the Year" ymlaen?!
    Gyda llaw Vaughan, ydych chwi wedi gweld "tweet" Peter Black?:
    "At Welsh Politician of the Year awards. Apparently not true Jenny Willott is communicator of the year"

    a ydy'r Dem's Cymru'n anhapus ar Dem's Llundain!?!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.