Darllen y perfeddion
Yn amlach na pheidio mae manylion arolwg yn cynnwys ambell i berl a dyw hwn ddim yn eithriad.
Fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth ddilyn y ffrae rhwng Angharad Mair a'r Byd a'r Bedwar ynglÅ·n ag arolwg YouGov ynghylch S4C yn ymwybodol o ba mor ddadleuol y mae defnyddio is-setiau o grombil arolwg yn gallu bod! Serch hynny dyw cofnodi canlyniadau is-setiau ddim yn ddibwrpas yn enwedig os mae'r bwriad yw ceisio canfod patrymau o fewn y sampl gyfan.
Mae arolwg ICM, er enghraifft, yn cynnwys canlyniadau ardaloedd cyngor Cymru fel is-setiau. Gyda llai na hanner cant o bobol yn rhai o'r setiau hynny mae'r canlyniadau unigol yn weddol ddi-werth ond mae'n bosib defnyddio'r cyfan ohonyn nhw i ganfod a ydy patrwm daearyddol y gefnogaeth i ddatganoli wedi newid ers refferendwm 1997.
Beth yw'r sefyllfa y tro hwn felly? Ai yn y cymoedd a'r ardaloedd Cymraeg y mae cryfder yr ymgyrch 'Ie' y tro hwn gyda'r ochor 'Na' chryfder yn siroedd y dwyrain?
Mae'r ateb yn ddiddorol. Mae'r ochr "Ie" ar y blaen ym mhob un ardal cyngor ond mae hi ar ei chryfaf yng Ngheredigion, Wrecsam, Conwy. Pen-y-bont, Casnewydd a Gwynedd - yn y drefn yna.
Mae tair o'r ardaloedd hynny yn rhai wnaeth bleidleisio yn erbyn datganoli yn 1997.
Yn ôl ICM mae'r gefnogaeth gryfaf i'r ymgyrch 'Na' yn Sir Benfro, Powys, Caerffili, Bro Morgannwg a Thorfaen. Roedd Caerffili yn fuddugoliaeth bwysig i gefnogwyr datganoli yn 1997.
Mae'n amlwg o'r ffigyrau nad yw patrwm 1997 o hyd mewn bodolaeth yn wir mae'n anodd canfod unrhyw fath o batrwm daearyddol o gwbwl - ac eithrio un.
Mae 'na eithriadau ond mae'n ymddangos bod y gefnogaeth i ddatganoli yn uwch mewn ardaloedd sy'n cael eu cynrychioli gan aelodau proffil uchel - yn enwedig os ydy'r aelodau hynny yn eistedd ar feinciau'r Llywodraeth.
Mae'n gwneud synnwyr perffaith os feddyliwch ch am y peth. Gyda fawr o neb eto yn deall y cwestiwn mae atebion yr etholwyr yn dibynnu ar eu canfyddiad o'r Cynulliad ac mae'r canfyddiad hwnnw yn dibynnu i raddau ar berfformiad yr aelod lleol.
Mae hynny'n awgrymu i mi y gallai apeliadau a negeseuon personol gan aelodau fod yn bwysig yn y refferendwm ac mai camgymeriad fyddai i'r ymgyrchoedd ddibynnu'n llwyr ar neges a ddeunydd ymgyrchu cenedlaethol.
SylwadauAnfon sylw
Ahem Vaughan.
Mae yna margin of error (beth bynnag y term Cymraeg) o 14% ar sampl o 50. Golyga hyn bod 14% y naill ochr neu'r llall i'r 'canlyniad'yn ystadegol 'gywir'. 'Dwi'n amau bod yna 28% o amrediad rhwng yr uchaf a'r isaf ymysg cynghorau Cymru.
Wrth gwrs bod hynny'n gywir parthed unrhyw ardal unigol ond o fewn sampl gyfan mae edrych ar batrymau yn ddigon dilys.
Gan fod y ansicrwydd +/- (y margin of error) o'i natur yn wahanol ym mhob ardal fe fyddai patrwm 97 yn amlygu eu hun gydag ambell i eithriad pe bai o hyd yn bodoli.
Er mwyn iddo beidio gwneud fe fyddai'n rhaid i'r +/- fod yn gyfan gwbl "+" yn y siroedd "na" ac yn gyfan gwbwl "-" yn y siroedd ie.
Efallai bod gennyt bwynt, ac y byddai disgwyl cael gogwydd y naill ochr a'r llall o'r canolrif, ond mae ymhel ag is setiau yn gallu bod yn beth digon perygl.
Fel rheol mae cwmniau yn polio tua 1,000 o bobl. Y rheswm am hyn ydi bod MOE o 3% yn cael ei ystyried yn dderbyniol. Weithiau byddant yn mynd i'r drafferth o bolio 3,000 neu 5,000 hyd yn oed. Ar un olwg mae hyn yn beth rhyfedd i'w wneud - 'dydi sampl o 5,000 ddim llawer mwy cywir nag un o 1,000, ac mae'n amlwg yn llawer drytach mynd ar ol llawer mwy o bobl.
Y rheswm am bolio niferoedd sylweddol, bron yn ddi eithriad, ydi bod y cwmni polio eisiau digon o sampl i allu edrych ar is setiau yn ystyrlon. Rwan, chdi, nid fi sydd efo ffigyrau'r pol diweddaraf. Petaet yn cymharu'r siroedd Ia a Na fel dau is set mi fyddai gen ti MoE o tua 4%. Mae hynny yn llawer gwell na 14%.
Mae'r awgrym olaf yn un da.
Y rheswm am beidio gwneud hynny oedd bod y siroedd yn amrywio o sarbwynt maint eu poblogaeth ac felly maint y sampl. Roedd creu map-data sydyn felly yn ffordd gynt o wenud pethau. O gymryd cyfartaledd syml o'r siroedd ie a na (hy un nad yw'n cymryd poblogaeth i ystyriaeth) mae'r nifer sy'n bwriadu pleisleisio "Ie" yn 60.3% yn siroedd ie 1997 ac yn 57.5% yn y siroedd "na". Mae hynny i fi yn awgrymmu nad yw patrwm '97 yn bodoli i unryw raddau sylweddol erbyn hyn
Diolch - diddorol.
Mi ga i gip ar y mater draw ar fy mlog i maes o law.
Mae dy ddadansoddiad o ddalanwad aelodau proffil uchel o fewn ardaloedd lle mae'r gefnogaeth yn uchel yn un diddorol ond calanogol iawn. Doeddwn erioed wedi sylweddoli effaith a dylanwad ein dau aelod y cynulliad o Gasnewydd yn ein Dinas. Da iawn Rosmery a John!
Gobeithio nawr y gwelwn gefnogaeth go iawn yn datblygu ar y strydoedd amser ymgyrchu a bod y pleidiau i gyd yn dod allan i helpu a nid gadael e fel yn 1997 i un plaid (fach)......gyda David Davies a'i dad ar flaen y gad, yn ffyrnig yn erbyn datganoli ac yn rhedeg yr ymgyrch Na. Byddan nhw wrthi eto....ac yn dylanwadu heb os!
Clartiau Casnewydd yn pleidleisio 'IE'? Anhygoel, da iawn bois!
Dwi'n mynd i anwybyddu prif gwestiwn yr arolwg am y tro, achos bod hi'n ddiddorol gweld y canranau ym mhob sir a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg (gweler isod am y rhifau). Ond os dwi'n deall yn iawn, mae ateb pob person wedi'i bwyso yn ôl y tebygolrwydd y byddai'r person hwn yn pleidleisio yn y refferendwm.
Os felly, oes modd i ni gael y rhifau crai? Dw i'n deall bod y niferoedd yn gymharol bychan, a'u bod yn dangos atebion pobl a oedd wedi ateb rhifau ffôn wedi'u dewis ar hap, sy'n gallu bod yn wahanol i'r boblogaeth gyffredinol mewn ardal. Ond fe fyddai'n ddiddorol fodd bynnag.
Rhugl% (Cyfanswm)
71% (41) Gwynedd
44% (27) Ceredigion
35% (23) Môn
28% (60) Gâr
19% (32) Ddinbych
18% (39) Conwy
10% (29) Fynwy
10% (40) Benfro
10% (105) Caerdydd
09% (44) Powys
09% (78) Abertawe
07% (46) Casnewydd
06% (48) Castell Nedd PT
06% (51) Y Fflint
05% (79) Rhondda CT
05% (44) Wrecsam
04% (24) Bl Gwent
03% (40) Bro Morgannwg
02% (57) Caerffili
00% (44) Pen y Bont
00% (19) Merthyr
00% (31) Torfaen
12% (1001) CYFANSWM
Hefyd ydy'r rhifau ar dudalen 33 o'r adroddiad wedi'u pwyso? Maen nhw'n dangos gwybodaeth o'r Gymraeg yn erbyn oedran a phethau eraill. Diddorol gweld bod nifer y siaradwyr tua 12% yn eithaf gyson ymhlith pob oedran rhwng 18 a 64, ond bod y canran sy ddim yn rhugl ond sy'n siarad "digon i ymdopi" yn llawer uwch yn yr oedran 18-24.
Dw i'n cymryd bod y cwestiynau i gyd wedi'u holi yn Saesneg? Byddai'n ddiddorol gwybod i ba raddau mae hynny'n effeithio ar yr ateb!
Sori Vaughan, ond dwi'n ategu barn Blogmenai ynglyn a pheryg darllen unrhywbeth i fewn i'r ystadegau sirol.
Ewch mewn bach yn bellach i'r 'perfeddion'.
Maent yn nodi pa ganran o'r ymatebion o wahanol siroedd sy'n siarad Cymraeg. O gymryd y ffigurau, mae'n debyg fod 70% o bobl Ceredigion yn siaradwyr Cymraeg, a bod mwy o Gymry Cymraeg rhugl yn sir Fynwy nag ym 15 o siroedd eraill Cymru.
Mae random variation anferthol yn yr ystadegau sirol yma.
Dwi'n credu fod rhywbeth yn dy gasgliad, gyda llaw, ond dyw'r ffigurau ddim yn cynnig unrhyw gefnogaeth i'r syniad. Dy'n nhw ddim chwaith yn awgrymu nad yw patrwm 1997 yn dal i fodoli. Cawn weld am hynny. Trueni fod rhanbarthau YouGov ddim yn dilyn y patrwm yma, gan fod amrediad digon hir o'r canlyniadau yna erbyn hyn i wneud rhywfaint o gasgliadau lleol yn ystyrlon.