³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y trothwy

Vaughan Roderick | 11:48, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Rwyf wedi bod ar dipyn o 'grand tour' o Gymru dros y dyddiau diwethaf. Roeddwn i yng Nghaernarfon dros y Sul i recordio rhaglen Tudur Owen. Dwedai ddim byd mwy am hynny ac eithrio fy mod wedi joio mas draw ac y byddai S4C mewn llawer gwell cyflwr pe bai ganddi ragor o raglenni o'r un safon a rhai Tudur.

Cyn hynny fe wnes i alw draw i Aberystwyth i holi Elystan Morgan ar gyfer rhaglen yn edrych yn ôl ar refferendwm 1979. Er gwaetha'r nosweithiau hirion roedd Elystan yn mwynhau'r frwydr ynghylch y mesur AV yn Nhŷ'r Arglwyddi. Lleihau nifer y seddi Cymreig sy'n ei boeni nid y refferendwm wrth reswm ond roedd e'n ddigon parod i ddefnyddio pob arf posib i rwystro'r mesur.

Un o'r arfau hynny oedd cyflwyno gwelliant digon tebyg i 'welliant Cunningham' wnaeth osod trothwy yn refferendwm 1979. Roedd hwnnw'n golygu bod yn rhaid i ddeugain y cant o'r etholwyr gefnogi datganoli cyn i gynulliad gael ei sefydlu. Yn y diwedd doedd y trothwy ddim yn berthnasol yng Nghymru ond fe ohiriwyd datganoli yn yr Alban am ugain mlynedd gan nad oedd y mwyafrif o'i blaid yn ddigonol.

Mae'r trothwy a gynigiwyd yn y Refferendwm AV ychydig yn wahanol. Deugain y cant o'r etholwyr yn bwrw eu pleidlais y naill ffordd neu'r llall yw'r trothwy y tro hwn. Yn ddamcaniaethol felly fe allai 20%+1 o'r etholwyr yn ddigon i sicrhau'r newid.

Fe dderbyniwyd y gwelliant yn NhÅ·'r Arglwyddi o fwyafrif o un. Mae'n sicr bod Elystan ei hun yn mwynhau'r eironi fod pleidlais arweinydd 'Ie' 1979 yn allweddol i'r fuddugoliaeth honno.

Mae 'na eironi arall wrth gwrs. Fe fyddwn i'n betio fy nhÅ· na fydd y bleidlais ar Fawrth y 3ydd yn cyrraedd y trothwy a osodwyd ar gyfer y refferendwm AV. Ni fydd hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth gan brofi, os oedd angen prawf, bod pleidleisiau o'r fath ym mhell o fod enghreifftiau o 'ddemocratiaeth bur'.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:17 ar 8 Chwefror 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    Hmm, ddim yn hoffi hyn.

    Unwaith fydd y busnes trothwy yma'n dod mewn bydd yn cael ei ddefnyddio o hyd er mwyn cadw'r status quo. Trothwy ar gyfer refferendwm arall i Gymru rhywbryd yn y dyfodol er enghraifft? Hmm. Os nad yw pobl yn pleidleisio yna does dim hawl ganddynt i ddisgwyl clywed eu llais.

    Ddweden i fod Elystan (dyn dwi'n ei barchu) wedi gwneud cam â Chymru gyda hyn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.