Y Rownd Olaf
"Dydw i ddim am golli hon - fe allai fod yn hanesyddol."
Nid yn aml y mae rhywun yn clywed yr ansoddair yn cael ei ddefnyddio ynghylch cynadleddau newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol. Cymerais felly mai cellweirio oedd fy nghyfaill nes iddo ychwanegu brawddeg arall. " Wedi'r cyfan" meddai "mae'n bosib mae hon fydd yr olaf am bum mlynedd!"
Nawr go brin, dybiwn i, yw'r posibilrwydd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dychwelyd i'r Cynulliad gyda llai na'r tri aelod sydd eu hangen i ffurfio grŵp swyddogol.
Serch hynny wrth i'r rownd olaf o gynadleddau cyn yr ymgyrch etholiad gael eu cynnal efallai bod 'na werth mewn mynd i fwy o fanylion nac sy'n arferol am y ddefod wythnosol hon.
Tair cynhadledd sy 'na ar fore Mawrth, un y Llywodraeth, yna un y Ceidwadwyr ac yna'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r tair yn cael eu cynnal un ar ôl y llall yn yr un ystafell yn ddwfn ym mherfeddion y Senedd.
Carwyn Jones ei hun oedd yn cymryd Cynhadledd y Llywodraeth. Mae hynny'n anarferol iawn. Fel rheol os ydy'r Prif Weinidog yn bresennol mae ei ddirprwy yno hefyd. Heddiw doedd dim son o Ieuan. Efallai bod hynny'n rhan o'r broses o ymbellhau rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Efallai bod ganddo bethau gwell i wneud.
Gyda Carwyn yn ceisio osgoi gwneud unrhyw bwyntiau pleidiol gwleidyddol digon cwta oedd y gynhadledd - ond nid sgorio pwyntiau yn unig bwrpas y sesiynau yma maen nhw hefyd yn gyfle i ganfod gwybodaeth.
Heddiw, er enghraifft gofynnwyd i Carwyn a fydd rheolau "purdah" etholiad y Cynulliad yn rhwystro'r DCMS rhag cyhoedd enw cadeirydd nesaf S4C. Na fyddi yn ôl Carwyn. Dyna un esgus yn llai felly am oedi sy'n ymddangos yn fwyfwy rhyfedd. Canfod siaradwr Cymraeg gyda chymwysterau cymwys ond nad oes ganddo fe neu hi gysylltiau ac S4C yw'r broblem mae'n debyg. Hwyrach y y dylid chwilio yn Nhrelew a Chwm Hyfryd!
Ymlaen a ni at y Ceidwadwyr felly neu yn hytrach i mewn a nhw atom ni! Nick Bourne oedd yn ateb y cwestiynau y tro hwn. Roedd e'n gwneud hynny gan wybod mai hwn efallai oedd y tro olaf iddo wynebu cwestiynau newyddiadurwyr yn y Senedd. Cyfaddefodd ei hun fod ei ddyfodol gwleidyddol yn dibynnu ar loteri rhestr y Gorllewin a'r Canolbarth ond roedd ymddangos yn ddigon addfwyn ynghylch y peth. Efallai bod yn gweld ffawd Mike German a Dafydd Wigley fel cynsail i';w yrfa ei hun!
Mae hi bron yn sicr y byddai Nick yn colli ei sedd rhestr pe bai Kirsty Williams yn colli Brycheiniog a Maesyfed. Fe gawn wybod a ydy hynny am ddigwydd yn ddigon buan. Yn sicr fe fydd y blaid yn cwffio'n galed ac fe gadarnhaodd y byddai Nick Clegg yn dod i Gymru i roi hwb i'r ymgyrch. Os hwb yw'r gair!
Dyna ni felly. Mae'r trydydd Cynulliad yn tynnu at derfyn ei oes ac ymgyrch ac etholiad difyr iawn ar fin cychwyn. Ar ôl cyfnod byr i ffwrdd rwy'n fach o fod yn ôl i sgwennu yn eu cylch
SylwadauAnfon sylw
Dwi wir yn pryderi y bydd gan Gymru lywodraeth fwyafrifol Lafur ar ôl mis Mai. Llywodraeth fydd yn creu dim newydd, fydd yn gwneud dim ond siarad rhethreg gwrth-Tori lled genedlaetholaidd ond heb gynnig dim yn ei le. Bydd addysg ac iechyd yn parhau i ddirywio a bydd dim lle deallusol na diwylliannol i'r rheini nad sy'n cyd-synio â'r naratif Lafuraidd Gymreig.
Wedi methiant a gwastraff miliynnau Amcan Un; llanast iechyd; cwymp yn safonnau addysg dwi ddim yn credu gall Gymru fforddio llywodraeth Llafur arall.
Gallai'r Toriaid ennill yn Nhrefaldwyn a Brycheiniog / maesyfed, ond colli eu dwy sedd Sir Benfro.
Os felly gallai Nick gadw ei sedd.
Croeso nôl Vaughan! Mae colled mawr wedi bod ar ôl y blog dros yr wythnosau diwethaf.