³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blogio a blagio

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011

Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ac mae pedair blynedd yn oes yn hanes y rhith fyd. Un o nodweddion mawr etholiad 2007 oedd ffrwydrad y blogiau. Fe ddaeth y rheiny a chyffro i'r ymgyrch cyn chwarae rhan reit bwysig yn y deuddeg wythnos ryfedd hynny pan oedd y pleidiau wrthi'n ceisio ffurfio llywodraeth.

Mae pethau'n wahanol iawn y tro hwn. Yn rhannol mae hynny'n adlewyrchu twf safleoedd fel Facebook a Twitter ac mae'r un ffenomen yn amlwg mewn amryw o wledydd. Cynhaliwyd cynhadledd yn Llundain wythnos ddiwethaf er enghraifft gyda'r teitl "Blogging: Yesterday's news?"

Ond os ydy'r blogiau braidd yn fflat y tro hwn mae hynny hefyd i raddau yn adlewyrchiad o ymgyrchoedd cenedlaethol gan y pleidiau sydd wedi bod yn ddigon solet ond ychydig yn ddi-sbarc. Rwyf wedi dod i'r casgliad bod hynny'n gwbl fwriadol.

Gan fod David Cornock wedi dewis dyfynnu Mario Cuomo ar ei flog yntau rwyf am ail-adrodd geiriau gwleidydd Americanaidd arall yn fan hyn. Tip O'Neill, llefarydd TÅ·'r Cynrychiolwyr yn y saithdegau a'r wythdegau wnaeth fathu'r dywediad "all politics is local". Mae hynny'n arbennig o wir am etholiadau Cynulliad.

Dydw i ddim am ail-adrodd hen bregeth ynghylch natur rhannol gyfrannol system bleidleisio'r cynulliad ond mae'r cysylltiad rhwng y canran o'r bleidlais y mae plaid yn ei ennill yn genedlaethol a'r nifer o seddau fydd ganddi yn y Cynulliad yn ddigon bregus.

Yn 2007 er enghraifft roedd cyfanswm pleidleisiau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr o fewn ychydig filoedd i'w gilydd. Enillodd y Cenedlaetholwyr bymtheg sedd a'r Torïaid ddeuddeg. Yn yr un modd mae'n hawdd dychmygu sefyllfa y tro hwn lle gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill 8-9% o'r bleidlais a chadw bron y cyfan o'u seddau neu golli bron y cyfan.

Mewn etholiad cynulliad mae ymgyrchu lleol a thargedu adnoddau yn gwbl allweddol. Am y rheswm hynny dydw i ddim yn llwyr ddiystyru ymdrechion gan ambell i blaid i blagio am ganlyniad annisgwyl mewn ambell i etholaeth - De Clwyd neu Geredigion, er enghraifft.

Ond os mai'r lleol sy'n allweddol pa bwys i'r ymgyrch genedlaethol?

Rwy'n tybio bod y strategwyr wedi dilyn cyngor Hippocrates - "Yn gyntaf, gochelwch rhag gwneud niwed". Pwyll piau hi.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:02 ar 27 Ebrill 2011, ysgrifennodd dewi:

    Oes na really rwbath i flogio am?. Etholiad HYNOD o ddiflas, gobeithio fydd y nos iau/dydd gwener yn well!

    Er gwybodaeth- gret gweld chi ar AM.PM heddiw, ac yn ambasador *fantastic* i'r iaith Gymraeg gan galw pencadlys y ³ÉÈËÂÛ̳ yn "Landaff", tybio a fydd y chi yn mynd yn ol i galw Caernarfon yn Caernarvon ayyb!?!

  • 2. Am 08:53 ar 28 Ebrill 2011, ysgrifennodd Idris:

    Ydi'r ffaith fod pobl yn tueddu i gyfeirio at Etholiadau Cynulliad yn y lluosog, yn wahanol i'r Etholiad Cyffredinol unigol, yn adlewyrchiad o natur fwy lleol y cyntaf ysgwnni? H.y 40 o etholiadau bychain, yn hytrach nag un mawr?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.