Yn ôl yn Bae
Dyma fi yn ôl yn y Cynulliad ar ôl hoe fach. Nid bod yr awyrgylch o newydd-deb wedi disbyddu. Gyda bron i chwarter yr aelodau yn newydd-ddyfodiaid mae'n teimlo braidd fel diwrnod cyntaf blwyddyn ysgol newydd gydag aelodau yn crafu eu pennau wrth geisio cofio'r ffordd i'w swyddfeydd.
Nid bod y gwleidydda heb gychwyn wrth reswm. Cewch ddarllen ar y dudalen newyddion am ymdrechion Carwyn Jones i ffurfio llywodraeth a'r stranciau ynghylch swydd y Llywydd. Y cyfan ddywedaf i am y rheiny yw bod Carwyn wedi chwarae ei law bron yn berffaith a bod y Ceidwadwyr wedi gor-chwarae eu llaw hwythau trwy geisio sicrhau'r swydd i Angela Burns heb sgwario'r peth gyda'r gwrthbleidiau eraill.
Rosemary Butler a William Graham yw'r cyfuniad tebygol newydd yn swyddfa'r Llywydd. Yn ôl Tomos Livingstone hwn fydd y tro cyntaf i William gael y profiad o weithio i Fwtler - yn hytrach na chyflogi un! Jôc yw hynny - efallai!
Ta beth , mae Carwyn yn llygad ei le i oedi ychydig cyn ceisio cyrraedd cytundeb gydag un neu fwy o'r pleidiau ynghylch llywodraethu Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Tra bod rhai yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awchu am glymblaid er mwyn dianc rhag stigma "Con-Demiaeth" fe fydd angen peth amser ar Blaid Cymru i ystyried ei hopsiynau. Fe fydd Carwyn yn ymwybodol y caiff e well bargen os oes modd chwarae'r ddau bartner posib yn erbyn ei gilydd. Mae aros a disgwyl yn gwneud synnwyr perffaith felly.
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru yn llyfu eu clwyfau ac yn cychwyn ar ei "dadansoddiad" o'r hyn aeth o le. Un targed yw cyfansoddiad Bysantaidd y blaid a'i fôr o bwyllgorau rhanbarth a thalaith, ei Chyngor Cenedlaethol a'i Phwyllgor Gwaith.
Yn yr hen ddyddiau roedd cynhadledd Plaid Cymru yn treulio oriau bob blwyddyn yn "twtio'r" cyfansoddiad. Nid gor-loddesta oedd yr unig reswm i gynrychiolwyr gadw draw o Neuadd y Brenin ar fore Sul! Doedd cynigion megis "yng nghymal 27(ch)ii yn lle 'etholaeth' rhoddir 'rhanbarth' " ddim yn apelio at lawer o bobol ac eithrio dyn o'r enw Richard Fatorini o Borthcawl - yr unig berson oedd yn deall y peth.
Efallai'n wir ei bod hi'n amser i Blaid Cymru foderneiddio ei chyfansoddiad. Yn sicr mae Ieuan Wyn Jones a'i ragflaenwyr wedi cael amser caled, gan y Pwyllgor Gwaith yn arbennig, ar adegau. Mae'n wir i ddweud hefyd nad yw hanfod y strwythurau wedi newid ers dyddiau Saunders Lewis a'u bod yn glogyrnaidd a dweud y lleiaf.
Ar y llaw arall go brin y gellir beio'r cyfansoddiad am amharodrwydd yr etholwyr i gefnogi'r blaid.
SylwadauAnfon sylw
Mae'r Cyngor Cenedlaethol yn llawer tebycach o roi amser caled i rywyn nag ydy y Pwyllgor Gwaith sydd gen i brofiad ohono; mae'n debyg fod hynny yn rhan o'r broblem.
Cwestiwn sy gen i, a dwi ddim wedi clywed dim trafod am y peth hyd yn hyn, ond oes yna fwy neu lai o aelodau'r Cynulliad newydd yn siarad Cymraeg?
Digon prin oedd y Gymraeg dan ofal Llywydd Cymraeg ei iaith, felly mae'n debyg mai llai byth glywn ni dan ofal Llywydd a Dirprwy Lywydd di-Gymraeg.
Dydw i ddim wedi eu cyfri - ond tybiwn bod y niferoedd tua'r un peth. Er tegwch mae Rosemary Butler wedi dechrau defnyddio'r Gymraeg wrth lywyddu yn ddiweddar. Mae'n debyg ei bod yn siarad yr iaith fel plentyn ac wedi bod yn gweithio i ail-afael ynddi.