Y Set Fawr
Dyw trefniant y seddi yn siambr y Cynulliad ddim bob tro yn gweddu i niferoedd y pleidiau. Dyw e hi ddim yn anarferol felly i weld "un dyn bach ar ôl" ar yr ochor anghywir i ryw eil neu'i gilydd. Ond hyd yn oed os ydy hynny'n digwydd mae'r aelod yn weddol o agos at weddill ei blaid. Nid felly y tro hwn.
Yng nghornel pellaf y meinciau Llafur y mae sedd 41 - y sedd yr oedd Rhodri Morgan yn eistedd ynddi ar ôl rhoi'r gorau i fod yn Brif Weinidog. Hon yw sedd Dafydd Elis Thomas yn y pedwerydd Cynulliad ac mae'n golygu bod y cyn-lywydd wedi ei wahanu o weddill aelodau Plaid Cymru nid dim ond gan aelodau Llafur ond hefyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Nid felly oedd pethau i fod. Mae'n debyg bod cynllun gwreiddiol y Comisiwn wedi gosod Dafydd gyda'i blaid ond bod fe'i hun wedi gofyn am y newid.
Dydw i ddim yn gwybod beth sydd mor arbennig am sedd 41 yng ngolwg Dafydd neu am ba reswm yr oedd e'n amharod i eistedd gyda'i gyd-bleidwyr ond teg dweud bod rhai o'r rheiny yn poeri gwaed ynghylch y peth.
SylwadauAnfon sylw
Dywedodd DEL ar Dragon's Eye bod y Dem Rhydd yn gwneudd ffys hefyd. Unrhyw wybodaeth?