³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2011

Gornest y gleision

Vaughan Roderick | 13:25, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae'n hawdd anghofio weithiau bod y ras i arwain Ceidwadwyr y Cynulliad yn digwydd o gwbwl. Mae'r ddau ymgeisydd wedi bod yn ddigon parod i ymddangos gyda'i gilydd ac i ddadlau ar raglenni teledu ond go brin y gellir honni bod yr ornest wedi tanio dychymyg y genedl.

Mae'n bosib nad yw hi hyd yn oed wedi tanio dychymyg aelodau blaid. Yn ôl un ffynhonnell dim ond pymtheg o bobol oedd yn yr "hustings" rhanbarthol yn Aberystwyth. Cofiwch, gallai'r ffynhonnell fod yn anghywir. Deuddeg oedd yno yn ôl ffynhonnell arall ac mae Tomos Livingstone wedi clywed mai naw sy'n gywir - gan gynnwys un sbei o blaid arall.

Rhan o'r broblem yw bod y ddau ymgeisydd yn tueddu defnyddio cod wrth ddadlau. Yn arwynebol felly, mae'n ymddangos weithiau mai'r unig beth sy'n gwahaniaethu'r ddau yw eu statws priodasol!

Mewn gwirionedd mae pwyslais cyson Andrew RT Davies ar y ffaith ei fod yn "ddyn teulu" yn ddadlennol. Wedi'r cyfan yn yr oes hon pwy ar y ddaear sy'n credu bod bodolaeth gwraig a phlant yn gymhwyster angenrheidiol ar gyfer swydd?

Nifer o aelodau'r Blaid Geidwadol yw'r ateb i'r cwestiwn yna. Yr hyn mae Andrew yn gwneud trwy bwysleisio ei deulu ar bob cyfle posib yw danfon neges ei fod yn berson - ac yn Dori - traddodiadol. Os ydych chi'n credu bod y blaid yn San Steffan yn rhyddfrydol braidd a'r blaid yn y Bae yn giwed o genedlaetholwyr Andrew yw'r dyn i chi.

Ble mae hynny'n gadael Nick Ramsay felly? Wel, fel ymgeisydd y rheiny sy'n credu bod yn rhaid i'r broses o foderneiddio a Chymreigio'r blaid barhau ac na fyddai hynny'n digwydd pe bai Andrew yn eu harwain. Portreadir Nick Ramsay fel olynydd naturiol i Nick Bourne yn absenoldeb Jonathan Morgan. Gallai'r dacteg honno weithio er ei bod hi'n werth nodi wrth fynd heibio mai colli oedd hanes y moderneiddwyr yn yr unig etholiad blaenorol sef hwnnw rhwng Nick Bourne a Rod Richards.

Pwy sy'n debyg o ennill felly? Gyda'i gefndir amaethyddol ac ar ôl treulio misoedd yn ymgyrchu ar lawr gwlad Andrew heb os oedd y ffefryn clir ar ddechrau'r ras. Ond yn ôl y son mae Nick wedi profi ei hun yn wleidydd llawer mwy abl a seriws nac oedd rhai'n credu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl rhai gallai Nick hyd yn oed ennill pleidleisiau'r mwyafrif o'r rheiny sydd wedi mynychu'r dadleuon a sesiynau llai ffurfiol. Ond a fyddai hynny'n ddigon? Go brin a barnu o "hustings" Aberystwyth.

Traed Moch

Vaughan Roderick | 16:13, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011

Sylwadau (1)

.


Poster moch daear

Mae gen i deimladau cryfion ynghylch ambell i beth mae'r Cynulliad yn trafod. Rhaid bod yn garcus wrth ohebu ynghylch y rheiny a dewis geiriau'n ofalus. Yn ffodus dyw'r cynllun difa moch daear ddim yn un o'r rheiny.

Rwyf wedi darllen y ffeithiau moel am y niwed y mae'r diciâu yn achosi i amaeth yng Nghymru ond heb rannu poen ffarmwr wrth golli gyr. Ar y llaw arall dydw i ddim yn un sy'n rhamantu ynghylch moch daear ychwaith. Yn wir, fe dybiwn i, nad yw'r rheiny sydd wedi sefyll ar steps y senedd mewn gwisgoedd moch daear gyda'u posteri anthropomorffig wedi gwneud llawer o les i'w hachos.

Un o'r problemau ynghylch y ddadl hon yw bod y ddwy ochor yn hawlio bod "y wyddoniaeth" yn gefnogol i'w safbwyntiau nhw. Y gwir amdani wrth gwrs yw nad yw'r fath beth ac "y wyddoniaeth" yn bodoli. Mae 'na ystod o astudiaethau a theorïau a dyw pigo'r rheiny syn ffafriol i'ch achos ac wedyn mynnu mai'r rheiny, a'r rheiny'n unig, sy'n cyfri, o fawr o gymorth i neb.

Yn wahanol i fyd gwyddoniaeth mae gan y byd gwleidyddol reolau pendant - gwirioneddau sy'n bosib eu profi y tu hwnt i bob amheuaeth. Un o'r rheiny yw hon.

"Elections have consequences and I won."

Mae'n rhai i mi gyfaddef fy mod yn credu bod hwn yn hen, hen ddywediad. O chwilio ar y we rwy'n canfod ei fod yn un diweddar iawn. Barak Obama a'i dywedodd yn 2008.

Un peth sy'n sicr - ni fyddai John Griffiths wedi gwneud y cyhoeddiad y gwnaeth e heddiw pe bai Llafur heb sicrhau digon o seddi yn y Cynulliad i osgoi gorfod ffurfio clymblaid. Yn wir pe bai 'na glymblaid mae'n debyg mae aelod o Blaid Cymru neu Ddemocrat Rhyddfrydol fyddai'n gyfrifol am y maes hwn.

Ar y llaw arall dyw'r datganiad ddim yn ymddangos fel cic i'r ystlys i mi. Mae amseru'r datganiad ac amserlen yr adolygiad yn awgrymu y bydd 'na benderfyniad y naill ffordd neu'r llall yn weddol fuan. Yn wir yn ôl y Gweinidog fe ddylai'r penderfyniad hwnnw ddod yn yr Hydref.

Beth fydd y penderfyniad? Mae'n bosib wrth gwrs bod y Gweinidog yn braenaru'r tir ar gyfer rhoi'r gorau i'r cynllun. Mae'r un mor bosib mai darbwyllo'r grŵp Llafur i gefnogi difa yw'r bwriad. Mae hi hyd yn oed yn bosib bod y Gweinidog yn bwriadu dilyn y cyngor gwyddonol!

A beth fydd y cyngor hwnnw? Dyma i chi ddyfyniad arall gan Mark Twain y tro hwn.

"There is something fascinating about science. One gets such wholesale returns of conjecture out of such a trifling investment of fact."

Bwriwyd unbardd, brad enbyd

Vaughan Roderick | 11:49, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae stori sydd wedi bod yn ffrwtian ers rhyw wythnos yn dechrau magu stem. Fe wnes ei chrybwyll ar y blog ac ar CF99 wythnos ddiwethaf ac fe balodd Rhiannon Michael ymhellach ar gyfer y safle . Erbyn hyn mae'r stori wedi cyrraedd tudalennau'r .

Ai ddim trwy'r cyfan eto ond yn y bôn yr honiad yw bod Aled Roberts wedi mynd i drafferthion etholiadol oherwydd iddo ddilyn dolen Gymraeg yn hytrach nac un Saesneg. Wrth reswm mae ymgyrchwyr iaith wedi eu cynddeiriogi gan y posibilrwydd mai dyna wnaeth ddigwydd.

Mae Rhiannon a finnau, a Martin Shipton o ran hynny, wedi bod yn weddol garcus ynghylch y stori yma am y rheswm syml nad ydym wedi gweld y dystiolaeth ysgrifenedig. Mae'n debyg bod y dystiolaeth honno yn bodoli ond ar hyn o bryd mae hi yn nwylo'r awdurdodau perthnasol.

Ond pa awdurdodau yw'r rheiny? Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael gwybod gan yr heddlu bod y cyfan o'r dystiolaeth bellach yn nwylo Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghaerefrog. Mae ffynhonnell arall yn agos at yr ymchwiliad yn awgrymu mai peth o'r dystiolaeth yn unig sydd wedi ei drosglwyddo hyd yma nid y ffeil gyfan.

Os felly gallai'r Cynulliad wynebu sefyllfa hynod o anodd. Mae'n rhaid i'r Cynulliad gyrraedd penderfyniad erbyn diwedd y mis. Nid oes modd gohirio'r penderfyniad na'i newid wedyn. Y gobaith yw y bydd yr Aelodau yn gallu penderfynu ar sail cyngor cyfreithio y maen nhw eisoes wedi ei dderbyn a chrynodeb o ffeithiau'r ddau achos i'w baratoi gan Gerard Elias QC y comisiynydd safonau. Nid oes modd i'r crynodeb hwnnw gael ei baratoi na'i gylchredeg cyn i'r Gwasanaeth Erlyn gyrraedd penderfyniad ynghylch unrhyw droseddau posib.

Os nad yw'r heddlu a'r CPS yn prysuro felly gallai'r Cynulliad fod mewn sefyllfa o orfod pennu ffawd Aled Roberts a John Dixon heb asesiad annibynol a di-duedd o ffeithiau'r ddau achos. Fe fyddai hynny'n lletwith o dan unrhyw amgylchiad. Mae'r ffaith y gallai'r penderfyniad hwnnw fod yn achos o gamwahaniaethu ieithyddol yn gwneud y sefyllfa'n hunllefus braidd.

Draw dros y dwr i'r de

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011

Sylwadau (2)

Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd Plaid Cymru yn cynnal cyfweliadau i ddewis Prif Weithredwr ac er cymaint siomedigaethau diweddar y Blaid does dim prinder ymgeiswyr. Mae'n ymddangos bod 'na hen ddigon o bobol dalentog yn dymuno gweithio i'r blaid - mwy efallai na sy'n deisyfu sefyll drosti! Ta beth am hynny, fe fydd hi'n beth amser cyn i bwy bynnag sy'n cael ei benodi gwybod pa strategaeth y bydd y blaid yn ei dilyn yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Go brin y bydd y Blaid yn derbyn cyngor Dafydd Elis Thomas i osgoi syllu ar ei bogel ei hun a chyrraedd cytundeb clymblaid buan a Llafur. Ac eithrio Dafydd ei hun dydw i ddim yn synhwyro bod unrhyw un o fewn y grŵp yn deisyfu hynny. Efallai bod hynny'n esbonio'r pellter rhwng sedd 41 lle mae'r cyn-lywydd yn eistedd a seddi gweddill aelodau Plaid Cymru.

Mae'n anorfod bod unrhyw blaid sydd wedi dioddef etholiad siomedig yn treulio peth amser yn pwyso a mesur. Gellir gwneud hynny mewn un o ddwy ffordd. Y ffordd gyntaf yw'r un a ddilynwyd gan Lafur ar ôl yr Etholiad Cyffredinol sef cynnal etholiad am yr arweinyddiaeth gyda'r gwahanol ymgeiswyr yn cynrychioli'r gwahanol safbwyntiau. Y peryg wrth wneud hynny yw posibilrwydd nad yw'r person sy'n arddel y syniadau mwyaf poblogaidd yn arbennig o gymwys i fod yn arweinydd. Amser a ddengys a ydy hynny'n wir yn achos Ed Milliband.

Y ffordd arall o bwyso a mesur yw gwneud yr hyn mae Plaid Cymru'n gwneud sef gosod yr arweinyddiaeth i'r naill ochor a chynnal trafodaeth agored. Mae 'na beryg y gall hynny greu sefyllfa lle mae'n ymddangos bod plaid wedi troi ei chefn ar yr etholwyr ac ond siarad â hi ei hun. Dyw hynny ddim wedi digwydd yn achos Plaid Cymru. Dim eto, o leiaf, ond mae'r cloc yn tician.

Cafwyd dau gyfraniad i ddadl Plaid Cymru yn rhifyn heddiw o'r Western Mail. Cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod traethodau Elin Jones ac Adam Price wedi ymddangos yn yr un rhifyn o'r papur. Roedd traethawd Elin yn barod i fynd wythnos ddiwethaf. Fe'i daliwyd yn ôl, fe dybiwn i, er mwyn peidio ymddangos fel ymateb i'r ffrwgwd ynghylch Ieuan Wyn Jones. Serch hynny mae'r cyd-ddigwyddiad yn enghraifft berffaith o broblem sy'n wynebu arweinydd nesaf Plaid Cymru.

Dyma i chi ddau draethawd - un gan un o'r ffefrynnau, os nad y ffefryn, i fod olynydd i Ieuan ac un gan rywun nad yw'n aelod etholedig o unrhyw gorff a sydd ddim hyd yn oed yn bwy yng Nghymru ar hyn o bryd. Traethawd pwy felly sy'n cael ei wthio i gornel o'r papur a pha un sy'n haeddu pennawd a llun enfawr yn ogystal â stori newyddion ar wahân?

Chin gwybod yr ateb. Adam Price sy'n serennu. Elin Jones sydd yn y cysgodion.

Hyd yn oed o gofio "bromance" Martin Shipton ac Adam Price mae'n awgrymu y gallai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod dan gysgod y Mab Darogan gan ymddangos fel arweinydd dros dro - rhyw stiward yn gofalu am Gondor nes i'r Brenin ddychwelyd.

Fe wynebodd yr SNP broblem debyg yn etholiad 2007 wrth geisio canfod rolau ymgyrchu cymwys i Alex Salmond, oedd yn aelod yn San Steffan, a Nicola Sturgeon, arweinydd grŵp y Blaid yn Holyrood. Yn y diwedd fe luniwyd cyfaddawd trwy ddylunio Alex Salmond fel "darpar brif weinidog" y blaid.

A fyddai Plaid Cymru yn ystyried cymryd cam tebyg? Mae hynny'n fater iddyn nhw ond mae Adam yn broblem yn ogystal ag yn ased enfawr i Blaid Cymru.

Cornel y Beirdd

Vaughan Roderick | 09:51, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

"Ffwdan wedi ei chreu gan y cyfryngau" dyna yw'r ffrwgwd ynghylch absenoldeb Ieuan Wyn Jones o'r senedd yn ôl Plaid Cymru. "Symudwch ymlaen" medd Bethan Jenkins. Iawn fe wnaf i ond dim ond ar ôl rhoi 'r gair olaf i Siencyn bardd llys y blog hwn.

Cwyno am wyliau cynnar - ein Ieuan
wna niwed digymar
i'w blaid, a rhaid bod trydar
"awr i fynd" nid "au revoir"!

Achub Aled (a John efallai)

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Iau, 9 Mehefin 2011

Sylwadau (2)

Dydw i ddim yn sicr y dylwn i gyfaddef hyn ond fe wnes i freuddwydio am Eleanor Burnham ar y noson cyn agoriad y Cynulliad. Yn y freuddwyd roedd Eleanor yn gwisgo cythraul o het i guddio'i wyneb a rhyw sut llwyddodd i ymuno a gorymdaith yr aelodau i mewn i'r siambr.

Breuddwyd oedd hi, dwi'n meddwl. Ar y llaw arall dyw Eleanor ddim yn celu'r ffaith ei bod yn awchu dychwelyd i'r Bae tra'n mynnu, wrth reswm, ei bod hi'n cydymdeimlo'n fawr ac Aled Roberts yn ei gystudd.

Sut mae pethau'n sefyll felly? Y peth cyntaf i ddweud yw bod y cloc yn tician. Fe fydd cynigion y Democratiaid Rhyddfrydol i ganiatáu i Aled Roberts a John Dixon cymryd seddi yn y Cynulliad yn cael eu trafod ar ddydd Mercher, Mehefin 29ain. Does dim modd eu gohirio. Os nad yw'r Cynulliad yn eu cymeradwyo fe fydd y ddau allan.

Er mwyn bod ac unrhyw obaith o gario'r dydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesi bysedd y bydd digon o amser cyn y dyddiad cau i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu ac i Gerard Elias QC baratoi'r cyngor cyfreithiol annibynnol sydd wedi ei gomisiynu gan Swyddfa'r Llywydd.

Mae'r amserlen yn dyn ond dim yn gwbwl amhosib ac mae pawb sydd ynghlwm a'r peth yn ymwybodol o'r tic-tocian yn y cefndir.

O gymryd bod y darnau'n disgyn i le cyn y ddwy bleidlais y dasg sy'n wynebu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn argyhoeddi mwyafrif o Aelodau Cynulliad mewn pleidlais rydd i faddau pechodau'r ddau.

Yn hynny o beth mae'n ddiddorol bod pwyslais cynyddol yn cael ei roi ar y gwahaniaethau rhwng y ddau achos. Mae 'na ddau reswm am hynny.

Y rheswm cyntaf yw'r ffaith syml eu bod nhw yn wahanol i'w gilydd. Doedd Aled Roberts ddim yn elwa'n ariannol o fod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisiau. Roedd John Dixon ar y llaw arall yn derbyn lwfans bychan fel aelod o Gyngor Gofal Cymru. Yn bwysicach efallai, mae'n ymddangos bod Aled wedi gwneud llawer fwy o ymdrech i gydymffurfio a'r rheolau a bod ei ai fethiant yn deillio o leiaf yn rannol o gyngor gwallus a methiant i ddiweddaru dolen yn y fersiwn Gymraeg o'r cyngor hwnnw.

Gellir crynhoi ail reswm y blaid dros bwysleisio achos Aled Roberts mewn dau air. Burnham ac Eleanor yw'r geiriau hynny ond nid o reidrwydd yn y drefn honno!

Does dim dwywaith bod Eleanor wedi cael ei brifo'n ddifrifol gan y ffordd y mae'r blaid wedi ei thrin yn ddiweddar neu o leiaf y ffordd y mae Eleanor yn credu iddi gael ei thrin. Dyna sydd wrth wraidd ei sylwadau diweddar ynghylch y blaid ac yn fwyaf arbennig Kirsty Williams.

Pe bai Eleanor yn dychwelyd i'r Bae felly fe fyddai hi ar y gorau yn broblem i Kirsty. Ar y gwaethaf mae rhai yn y blaid yn ofni y gallai hi groesi'r llawr i ymuno a'r Ceidwadwyr neu hyd yn oed Llafur. Ni fyddai Eluned Parrot, yr ail ar restr Canol de Cymru, yn achosi'r un trybini.

Beth fyddai'n digwydd felly pe bai'r ymdrechion i achub Aled yn methu - a dyw pethau ddim yn argoeli'n dda - a fyddai na fodd arall i rwystro ailddyfodiad Eleanor?

Wel yn ddamcaniaethol fe fyddai diarddel Eleanor o'r blaid cyn iddi allu cymryd y llw yn fodd i wneud hynny. Dyna yw'r opsiwn niwclear ond mae'n annhebyg y bydd y botwm coch yn cael ei wasgu. Yn gyntaf, go brin fod 'na ddigon o amser i fynd trwy brosesau disgyblu cymhleth y blaid. Yn bwysicach na hynny mae'n debyg y byddai'r effaith ar ddelwedd gyhoeddus y blaid a'r gwrthdaro mewnol ar lawr gwlad hyd yn oed yn fwy costus na chaniatáu i Eleanor gyflawni'r ddihangfa wleidyddol fwyaf gwyrthiol i mi ei gweld.

Ar awyr y bore mae arogl coffi...

Vaughan Roderick | 10:29, Dydd Iau, 9 Mehefin 2011

Sylwadau (2)

Nes i wrando arni er mwyn cael pennawd i bost ddoe roeddwn i wed anghoio gystal gân oedd "Rue Saint Michelle". Mae gen i deimlad y byddaf yn cloddio am ambell i bennawd arall yn y gân honno dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mae amseru'n bopeth mewn gwleidyddiaeth, medden nhw ac yn sicr roedd amseriad absenoldeb Ieuan Wyn Jones o'r cynulliad yn hynod anffodus - iddo fe o leiaf. Mae'n fel ar fysedd ambell i un arall o fewn y blaid.

Hynny yw pe bai Ieuan wedi colli agoriad brenhinol neu ryw ddefod arall mewn cyfnod lle'r oedd ei arweinyddiaeth yn gadarn fe fyddai 'na dipyn o embaras ond heb os, fel yn achos Rhodri Morgan a Seremoni Goffa D-Day yn 2004 fe fyddai Ieuan wedi goroesi fel arweinydd. Mae codi cwestiynau ynghylch ac awch a chrebwyll yn nyddiau machlud gyrfa yn wahanol iawn.

Dyw e ddim yn syndod bod rhai o aelodau'r blaid bellach yn teimlo y dylai Ieuan roi'r gorau i'r arweinyddiaeth yn gynt nac oedd e'i hun yn bwriadu.

Er bod Ieuan wedi gadael ambell i ddrws yn agored trwy ddweud y byddai'n ymddeol o'r arweinyddiaeth "rhywbryd yn ystod hanner cyntaf y Cynulliad" y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o fawrion y blaid o'r farn mai ymhen rhyw flwyddyn y byddai Ieuan yn rhoi'r ffidl yn y to. Nid pawb oedd yn hapus ynghylch yr amserlen ond roedden nhw'n fodlon ei derbyn. Mae hynny wedi newid.

Hyd y gwn i does neb yn dymuno gweld Ieuan yn ymddiswyddo yn syth gan roi'r argraff ei fod yn gwenud hynny oherwydd digwyddiadau'r wythnos hon. Fe fyddai hynny yn rhoi 'scalp' i'r pleidiau eraill ac yn dwyn anfri ar ben gwleidydd y mae'r mwyafrif llethol o bleidwyr o hyd yn ei hoffi ac yn ei barchu.

Eto i gyd mae 'na nifer cynyddol yn credu y dylai arweinydd newydd gael ei ddewis eleni. Mae ambell i ymgeisydd posib eisoes yn braenaru'r tir ar gyfer yr ymgyrch trwy gynyrchu erthyglau a syniadau ynghylch dyfodol y blaid. Roedd un erthygl felly i fod i ymddangos heddiw. Mae'n debyg ei bod wedi ei dal yn ol oherwydd helyntion Ieuan.

Ydy Ieuan yn sylweddoli hyn wrth iddo frecwasta yn ne Ffrainc? Dwn i ddim. "Wake up and smell the coffee" fel maen nhw'n dweud.

Ar y Rue Saint Michelle...

Vaughan Roderick | 15:16, Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011

Sylwadau (8)

Ymddiheuriadau am y diffyg blogio'n ddiweddar. Rwyf wedi bod ar wyliau. Roeddwn i yn ôl ar gyfer y seremonïau agoriadol, wrth reswm. Peth ffôl iawn byddai colli'r rheiny!

Fe ddylai unrhyw un sy'n credu nad yw absenoldeb arweinydd Plaid Cymru o'r ddefod yn cyfri wrando yn ôl ar raglen ffonio i mewn Radio Wales heddiw i ddeall cymaint yw'r dicter ymhlith cyfran, o leiaf, o'r etholwyr. Nid brenhinwyr pybyr neu wrthwynebwyr gwleidyddol Plaid Cymru yw'r bobol hynny i gyd chwaith.

Fe ddysgodd Rhodri Morgan wers boenus adeg coffau glaniad D-Day yn 2004 fod 'na ambell i ddigwyddiad y mae pobol Cymru yn disgwyl i'w harweinwyr cenedlaethol eu mynychu.

Mewn un ystyr mae'r adwaith yn arwydd o bwysigrwydd y Cynulliad a'i arweinwyr gwleidyddol ym meddyliau'r etholwyr erbyn hyn. Efallai dylai Cenedlaetholwyr ymhyfrydu yn y ffaith bod pobol yn poeni am yr agoriad ac absenoldeb Ieuan Wyn Jones i'r fath raddau. Serch hynny am ryw reswm rwy'n amau nad yw deiliaid ail lawr TÅ· Hywel yn slochian siampen nac unrhyw win drudfawr arall o Ffrainc y prynhawn yma.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.