³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2011

Blocio Burnham

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011

Sylwadau (1)

Mae'n ddiwedd tymor yn y Bae. Cyn i unrhyw un yn o fy nghydweithwyr yn San Steffan waedu arnaf i, dyw hynny ddim yn golygu diwedd y tymor gwleidyddol. Mae'r senedd yn eistedd wythnos nesaf a chyda'r holl helynt hacio go brin y bydd yr haf yn un digyffro, hirfelyn tesog.

Serch hynny darlledir CF99 olaf y tymor heno ac mae'n anhebyg y bydd 'na 'Dau o'r Bae' yr wythnos hon oherwydd gweithredu diwydianol. Dylwn i nodi'r achlysur felly. Des i a bocs o donyts i'r gwaith i fy nghydweithwyr ond beth fedra i roi i chi, darllenwyr annwyl?

Wel mae gen i un stori fach i gynnig o'r 'ffynnon fach sy'n rhoi o hyd' - helyntion etholiadol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Chwi gofiwch efallai bod Eleanor Burnham wedi dweud wrth CF99 rhai wythnosau yn ôl bod yr holl sefyllfa yn "siambols" Nawr fe fyddai rhai yn dweud bod disgrifiad Eleanor yn un digon teg, ffeithiol hyd yn oed.

Nid felly oedd y blaid yn gweld pethau. Derbyniodd Eleanor tri llythyr, dau gan bwyllgorau sirol ac un gan y Prif Weithredwr ar ran y pwyllgor gwaith yn ei chyhuddo o ddwyn anfri ar y blaid. "Bringing the party into disrepute" oedd yr union eiriau.

Nawr mae llythyr fel yna gan amlaf yn gychwyn ar broses disgyblu ac efallai bod y blaid wedi gobeithio di arddel Eleanor er mwyn sicrhau nad hi fyddai'n derbyn sedd Aled Roberts pe bai hwnnw'n cael ei gau allan o'r Cynulliad yn barhaol. Efallai bod hynny'n wir er ei bod hi'n anodd credu y byddai'r blaid wedi gallu cwrdd â holl anghenion ei chyfansoddiad Bysantaidd mewn da bryd.

Ta beth am hynny, y cwestiwn sy gen i yw hwn. P'un sydd waethaf - galw rhywbeth yn siambols neu greu siambols - ac os oen na ddisgyblu i fod onid awdur un o'r llythyrau ddylai fod o flaen ei gwell am fethu sicrhau bod ymgeiswyr y blaid wedi eu henwebu'n gywir?

Crafu Pen

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011

Sylwadau (5)

Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi ysgrifennu fy mlogbost olaf ynghylch helynt John Dixon ac Aled Roberts! Nid felly y bu. Fe wnaethon ni daflu carreg i'r dŵr ar CF99 neithiwr sydd wedi achosi tipyn o storom - yn y rhithfyd o leiaf.

Cewch ddarllen y draw ar y safle newyddion ond dyma hanfod y peth.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud bod eu hystadegau yn awgrymu nad oedd neb wedi ymweld â'r dudalen Gymraeg ar eu gwefan, oedd yn cynnwys canllawiau i ymgeiswyr etholiadol, cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Dywedodd Rhydian Thomas ar ran y Comisiwn ar raglen CF99 ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru eu bod wedi casglu ystadegau ar faint o bobl ddarllennodd y ddogfen benodol yn Gymraeg a Saesneg.

Prynhawn dydd Mercher fe bleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad i adfer Aled Roberts i'w sedd yn y Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru wedi i ymchwiliad ganfod ei fod wedi cael ei gamarwain gan hen ganllawiau ymddangosodd ar wefan y Comisiwn.

Nawr os ydych chi'n gwrando ar y trydarwyr mwyaf eithafol mae sylwadau Rhydian yn awgrymu nad yw Aled Roberts yn dweud y gwir ynghylch dilyn cyngor Cymraeg y Comisiwn Etholiadol a bod Gerard Elias, Comisiynydd Safonau'r Cynulliad wedi bod yn esgeulus neu'n ddichellgar wrth baratoi ei adroddiad i'r Cynulliad. Mae'r rheiny yn gyhuddidau difrifol iawn.

Rwy'n meddwl bod angen pwyllo yn fan hyn a chofio bod yr Heddlu a'r Comisiynydd Safonau wedi edrych ar y dystiolaeth hon ac wedi penderfynu nad oedd o bwys.

Mae 'na esboniad cyfrifiadurol posib am hynny. Yn ôl pobol sy'n deall cyfrifiaduron llawer yn well na fi mae'n debyg na fyddai'r gwefan wedi cofnodi ymweliad o gyfrifiadur nad oedd yn defnyddio "java script" - ac mae hynny'n wir, ar y cyfan, am gyfrifiaduron sector gyhoeddus - cyfrifiaduron awdurdodau lleol, er enghraifft.

Ond mae pwynt pwysicach yn fan hyn. Fe fyddai Aled wedi peryglu ei drwydded fel cyfreithiwr a'i fywoliaeth trwy ddweud celwydd wrth yr heddlu. Ydy e'n gredadwy y byddai fe wedi gwneud hynny heb wybod os oedd modd ai peidio i'r comisiwn ddadbrofi ei honiad?

Gofyn y cwestiwn ydw i a dyma i chi gwestiwn arall.

Os oeddech chi yn gwybod bod eich boss yn Llundain yn poeri gwaed am ffaeleddau ei swyddfa yng Nghymru a fyddech chi yn cael eich temtio i godi ambell i sgwarnog?

Dydd y Farn

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011

Sylwadau (1)

Mae dydd y farn ar fin cyrraedd i'r ddau Ddemocrat Rhyddfrydol sydd wedi eu gwahardd o'r Cynulliad. Mae 'na ddeufis ers i'r ddau golli eu cardiau adnabod a'u cyflogau. Aelod UKIP John Bufton sy'n bennaf gyfrifol am yr oedi. Pe na bai John wedi gwneud cwyn i'r heddlu fe fyddai'r sefyllfa wedi ei hen ddatrys. Nid beirniadaeth o John yw hynny - jyst ffaith.

Bellach mae adroddiad Gerard Elias ynghylch ffeithiau'r achos wedi ei ddosbarthu i Aelodau'r Cynulliad ac fe fydd yn ymddangos ar wefan y Cynulliad rhywbryd heddiw.

Ymateb un Ceidwadwr amlwg i'r adroddiad oedd mai "Ie i Aled ac na i John yw'r unig beth rhesymol i wneud"

Y rheswm am hynny yw'r cymalau yma yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau'r honiad a wnaed gyntaf yn y blog hwn mai methiant i ddiweddaru gwefan Gymraeg oedd wrth wraidd methiant Aled i ymddiswyddo o'r Tribiwnlys Prisiau.

 Ar 24 Mawrth 2011, wrth baratoi i gyflwyno ffurflenni enwebu ymgeiswyr y rhestr, siaradodd â Gareth Evans, Swyddog Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Ddinbych. Nid oedd y ddau wedi cwrdd na siarad â'i gilydd cyn hynny. Dechreuwyd y sgwrs yn Gymraeg gan Gareth Evans, a chytunodd yntau i anfon, drwy gyfrwng e-bost y diwrnod hwnnw, y linc ddiweddaraf at y canllawiau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr. Cadarnhawyd y ffeithiau hyn gan Gareth Evans.

 Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, defnyddiodd Aled Roberts y linc Gymraeg - sef yr un a ymddangosodd gyntaf o'r ddwy linc a anfonwyd yn yr e-bost - a dilyn trywydd y wybodaeth oni welodd fod sail yr anghymwyso yn parhau i fod o dan y linc at Orchymyn 2006. Cadarnhaodd Gareth Evans iddo anfon y lincs gan roi'r linc Gymraeg yn gyntaf oherwydd, yn sgîl y sgwrs rhwng y ddau ohonynt, yr oedd o'r farn y byddai Aled Roberts yn defnyddio'r fersiwn Gymraeg. Mae'n glir y byddai'r fersiwn hon wedi bod yn arwain yn anghywir at Orchymyn 2006 bryd hynny o hyd. Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn gallu cadarnhau na gwadu bod rhywun wedi ymweld â thudalennau Cymraeg ei wefan y diwrnod hwnnw.

ï‚· Felly, wedi bodloni'i hun nad oedd wedi'i anghymhwyso adeg ei enwebu, llofnododd ei ffurflen cydsyniad enwebu a'i chyflwyno ar 31 Mawrth 2011 (Atodiad 2).

ï‚· Ym mhob cam o'r broses o'i ddethol a'i enwebu, dilynodd Aled Roberts y canllawiau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol, canllawiau a adlewyrchwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

ï‚· Yn syth cyn llofnodi ei ffurflen enwebu, bodlonodd ei hun, drwy gyfeirio at y canllawiau a ddarparwyd yn Gymraeg ac a oedd yn ei gyfeirio at y linc anghywir bryd hynny at Orchymyn 2006, nad oedd wedi'i anghymhwyso.

 Ni chafodd y canllawiau Cymraeg eu cywiro tan ar ôl yr etholiad.

ï‚· Er bod y canllawiau Saesneg wedi'u newid i gynnwys linc at Orchymyn 2010 ar 11 Mawrth 2011, yr wyf yn derbyn bod Aled Roberts wedi troi at y fersiwn Gymraeg.

ï‚· Yn ychwanegol at hynny, yr oedd hawl ganddo i dybio y byddai'r fersiwn Gymraeg yn adlewyrchu'r fersiwn Saesneg ar bob adeg ac ym mhob agwedd.

ï‚· Er bod Gorchymyn 2010 yn bodoli ac y gellid bod wedi dod o hyd iddo drwy chwilio drwy'r gwefannau cyfreithiol perthnasol, yr wyf yn ystyried y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i unrhyw ymgeisydd wneud hynny pan oedd canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar gael.

ï‚· Felly, yn yr amgylchiadau dan sylw, yr wyf o'r farn fod Aled Roberts wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud wrth sicrhau nad oedd wedi'i anghymhwyso rhag cael ei enwebu neu ei ethol yn Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol.

A fydd hyn yn ddigon i achub Aled? Dwn i ddim ond mae'n werth nodi un peth bach. Fe lenwodd Aled - neu ei asiant - ei ffurflen gydsyniad yn Saesneg.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.