Addas a Phriodol
Mae'r newyddiadurwyr wedi bod yn ôl y Bae ers rhai wythnosau ond heddiw mae'r rhan fwyaf o wleidyddion wedi dychwelyd i'r senedd. Os oedd unrhyw un ohonyn nhw wedi bod yn colli Carwyn Jones fe gafwyd dos ddwbl o'r Prif Weinidog yn y siambr y prynhawn yma. Cyn ei sesiwn gwestiynau arferol fe wnaeth Carwyn ddatganiad ynghylch y ddamwain yng ngwaith glo Gleision gan roi cyfle i aelodau dalu teyrngedau cwbwl addas a phriodol i'r dynion a'r timau achub.
Addas a phriodol. Haws dweud na gwneud.
Mae delio gyda digwyddiad o'r fath yn beth hynod o anodd i aelodau etholedig. Fel dywedodd Bethan Jenkins yn siambr heddiw does 'na ddim cynllun gwaith neu god ymddygiad i lywio ymddygiad cynrychiolwyr yn y fath amgylchiadau. Fe fyddai gwneud dim neu ddim digon yn ennyn beirniadaeth lem. Os gwnewch chi ormod mae 'na beryg y bydd pobol yn amau eich bod chi'n godro'r sefyllfa er mwyn sicrhau mantais wleidyddol.
Yn y cyd-destun hwnnw cafwyd ambell i sylw ciaidd a chwbwl annheg ynghylch Peter Hain a Bethan Jenkins am fod mor uchel eu proffil yn ystod y dyddiau wedi'r ddamwain.
Yn achos Peter mae peth o'r bai am y feirniadaeth arnom ni'r newyddiadurwyr am gyfeirio ato fel y "Llefarydd Llafur ar Gymru". Gwell yn y sefyllfa yma fyddai cyfeirio ato fel "Aelod Seneddol Castell Nedd" er mwyn gwneud ei rôl yn fwy eglur.
Mae Peter wedi cynrychioli Castell Nedd ers ugain mlynedd ac mae fe a'i deulu wedi bwrw gwreiddiau yno. Nid dyn a siwtces yw Peter ond arweinydd yn ei gymuned sydd wedi ei ethol droeon gyda mwyafrifoedd enfawr. Pwy gwell i siarad dros y gymuned ac i leihau'r baich ar y gwasanaethau achub trwy ymddangos ar sianel ar ôl sianel a gorsaf ar ôl gorsaf fel llefarydd ar ran yr ymdrech i achub y dynion?
Yn yr un modd treuliodd Bethan, sy'n byw yn ardal, oriau lawer yn rhoi cysur a chymorth i'r teuluoedd. Unwaith yn rhagor roedd yn gwbwl naturiol iddi siarad ar ran ei chymuned. Mae hynny'n rhan o rôl aelod etholedig.
Addas a phriodol.
Teg yw bod yn sinigaidd am wleidyddiaeth weithiau ond mae sinigiaeth rhai yn ystod y dyddiau diwethaf yn dweud mwy amdanyn nhw nac am y gwleidyddion yng Nghwm Tawe.
SylwadauAnfon sylw
Mae'n bosib fod nhw wedi cael mwy o sylw ar y cyfryngau na fyddai'n arferol oherwydd diffyg presenoldeb Ysgrifennydd Cymru (wnes i ddim gweld unrhyw gynrychiolydd arall o Lywodraeth San Steffan chwaith).
Un peth sy'n sicr - mi fydd y gwleidyddion lleol dal yno yn y gymuned ymhell ar ôl i Sky News adael.
Lle mae'r "³ÉÈËÂÛ̳ impartiality" yn y blog yma?
Nid eich rol chi ydy i ddeud barn y rheini oedd yn erbyn Hain, a rhai oedd yn cytuno a Hain? Yna i adael i ni ddod i ganlyniad? Nid brawddegau fel "ond mae sinigiaeth rhai yn ystod y dyddiau diwethaf yn dweud mwy amdanyn nhw nac am y gwleidyddion yng Nghwm Tawe".
Symptom hefyd o or-gyfryngu trychinebau y dyddiau yma? Mae'r ffaith bod cymaint o ffyrdd o gyfathrebu newyddion drwy gydol y dydd yn golygu bod llawer gormod o ofyn am pyndits i lenwi gofod. Ac wrth gwrs mae Twitter yn golygu bod pob newyddiadurwr, gwleidydd ac aelod o'r cyhoedd sydd eisiau dweud eu dweud yn gallu gwneud hynny gan olygu bod cacoffoni o bobol yn ceisio rhoi'r diweddaraf.
O ystyried hyn, ac o ystyried lefel isel yr ymddiriedaeth sydd gan bobol at wleidyddion a newyddiadurwyr yn sgil sgandalau treuliau/hacio, oes ryfedd bod pobol yn syrffedu ac yn gweld yr ochr sinigaidd weithiau?