Problemau Prifysgol
Mae'n bosib nad oes 'na gysylltiad rhwng ymchwiliadau Ciaran Jenkins a rhaglen 'Week In Week Out' i Brifysgol Cymru a phenderfyniad y corff hwnnw i roi'r gorau i oruchwylio a dilysu graddau colegau eraill. Mae'n bosib hefyd mai cyd-ddigwyddiad llwyr oedd bod y cyhoeddiad wedi dod deuddydd cyn darlledu rhaglen ddiweddaraf Ciaran. Posib ond annhebyg.
Dyma ddisgrifiad gwefan ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru o'r rhaglen fydd yn cael ei darlledu nos yfory; "Foreign students are taught how to lie and cheat their way to a UK visa." Cofiwch wylio - fel maen nhw'n dweud.
Mae yn ceisio rhoi sglein ar bethau trwy ddweud hyn.
"Ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i ailffurfio addysg uwch yw'r uno, a bydd yn creu un sefydliad integredig gyda'r gallu strategol i helpu Cymru i gyflawni potensial llawn ei buddsoddiad mewn dysgu, ymchwil ac arloesi a chefnogi strategaethau Economaidd Llywodraeth Cymru."
I bob pwrpas Prifysgol reit fach yn Ne Orllewin Cymru fydd "Prifysgol Cymru" o hyn ymlaen. Mae hynny'n codi llwyth o gwestiynau. Dyma rai ohonyn nhw.
Beth fydd yn digwydd i enwau UWIC a Phrifysgol Cymru, Casnewydd - y ddau goleg sy'n defnyddio enw Prifysgol Cymru ond nad ydynt yn rhan o 'r Brifysgol "newydd"? Ac wrth gyfeirio at UWIC beth fydd yn digwydd i'r cyrsiau y mae'r coleg hwnnw yn gorywchwylio mewn canolfannau eraill yn enw "Prifysgol Cymru"?
Beth yw dyfodol Gwasg y Brifysgol - pwy fydd yn ei chynnal a beth fydd ei pherthynas a phrifysgolion eraill Cymru?
Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu enw da'r graddau y mae pobol yn astudio ar eu cyfer ar hyn o bryd?
Pa hawl foesol sydd gan y Brifysgol newydd i asedau fel Gregynnog ac arian ac eiddo a ewyllysiwyd i'r corff ar hyd y blynyddoedd?
Sawl cwestiwn felly - ond fe fydd gan y Brifysgol gwestiynnau hyd yn oed yn anoddach i'w hateb yn ystod y dyddiau nesaf.