Y darlun ar y mur
Mae'n debyg nad yw Pwyllgor Celf TÅ·'r Arglwyddi yn denu rhyw lawer o sylw. Go brin fod newyddiadurwyr na'r cyhoedd yn ysu i fynychu'r cyfarfodydd neu ddarllen y trafodion. Serch hynny mae'r pwyllgor, sy'n penderfynu pa ddarnau o gelf sy'n cael eu harddangos yng nghyffiniau'r siambr uchaf, yn rhoi cyfle i'w haelodau'n hatgoffa o ryw ddigwyddiad neu berson o'r gorffennol.
Mae'r Farwnes Gale, sy'n aelod o'r pwyllgor, wedi gwneud yr union beth hynny trwy drefnu bod darlun o Margaret Haig Thomas, Is-Iarlles Rhondda yn cael ei arddangos yn yr Oriel Frenhinol o hyn tan y Nadolig.
Rhaid i mi gyfaddef nad oedd yr enw'n gyfarwydd i mi. Roeddwn wedi clywed am ei thad D.A Thomas - ond dim ond oherwydd mai ef oedd cyd-aelod Rhyddfrydol Keir Hardie yn etholaeth ddwbl Merthyr ac Aberdâr.
Wrth gwrs, os ydych chi'n anwybodus ynghylch unrhyw un yn hanes Cymru mae y Llyfrgell Genedlaethol yn gymorth hawdd mewn cyfyngder!
dysgaf fod Margaret wedi ei geni yn 1883 a'i bod wedi goroesi suddo'r Lusitania/ Priododd yn anghymwys cyn cael ysgariad - rhywbeth anarferol iawn yn y 1920au. Roedd hi hefyd yn wraig fusnes gan gadeirio sawl cwmni a'r "Institute of Directors". Roedd hynny hefyd yn anarferol ar y pryd.
Mae hynny i gyd yn ddifyr ond ei rhan yn y frwydr dros hawliau merched yw'r peth mwyaf diddorol. Dyma ddywed y bywgraffiadur.
"Ymunodd â'r Women's Social and Political Union a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd dros bleidlais i ferched. Neidiodd ar astell modur H.H. Asquith yn St. Andrews . Dysgodd sut i roi tân mewn blychau post cyhoeddus a gweithredu yng Ngwent nes cael dedfryd mis o garchar ym Mrynbuga. Gan iddi wrthod bwyta, fe'i rhyddhawyd ar ôl pum niwrnod...
... Pan fu farw ei thad etifeddodd hithau'r is-iarllaeth yn unol â darpariaeth arbennig a wnaed gan Lloyd George pan ddyrchafwyd ei thad i'r is-iarllaeth ac yntau heb etifedd gwryw. Cyflwynodd hithau ddeiseb am gael gwŷs i Dŷ'r Arglwyddi yn 1920, ac er fod yr Arglwydd Hewart a'r Pwyllgor Breiniau o blaid, o dan arweiniad yr Arglwydd Birkenhead pleidleisiodd mwyafrif mawr y Tŷ yn erbyn caniatäu ei chais."
Fe gafodd Margaret gymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwydd yn y diwedd - ac mae ei llun hi yn ôl yna nawr. Rwy'n rhyfeddu nad oeddwn yn gwybod yr hanes. Diolch i Anita Gale rwy'n gwybod e nawr.