Adrodd hanes
Rwy'n amau bod gwaith yr hanesydd Norman Davies yn gyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma.
I'r rheiny dydd ddim wedi dod ar ei draws ei waith roedd llyfr Norman Davies "The Isles" (1999) ynghyd a llyfr Linda Colley "Britons" (1992) yn gyfrifol am newid sylfaenol yn y ffordd y mae hanes yn ynysoedd hyn yn cael ei ddadansoddi. Tynnu sylw at fyrhoedledd Prydeindod a natur aml-genedlaethol yr ynysoedd hyn wnaeth Colley - ysgrifennu cyfrol yn croniclo'u hanes gan ddefnyddio'r persbectif hwnnw wnaeth Davies.
Os oes angen prawf o ddylanwad gwaith Davies does ond rhaid sylwi bod y term "English Civil War" wedi diflannu o lecsicon yr haneswyr ar ôl i Davies nodi bod hwnnw'n enw hurt a'r gyfres o ryfeloedd mewn tair gwahanol wlad.
Cefais gyfle heddiw i holi Norman am ei lyfr newydd "Vanished Kingdoms" ar gyfer fy rhaglen fore Sul ar Radio Wales. Llyfr yw hwn yn croniclo 'gwladwriaethau coll' Ewrop - yn fwyaf arbennig y rheiny sy'n cael y lleiaf o sylw gan haneswyr. Gellir synhwyro peth o'r cymhelliad yn y cyflwyniad i'r llyfr "I'r Anghofiedig - to those historians tend to ignore".
Gwladwriaethau'r hen ogledd, yn fwyaf arbennig Ystrad Clud, oedd prif destun y sgwrs. Cewch wrando ar Radio Wales neu brynu'r llyfr i ddysgu mwy am y rheiny - ond roedd pennod arall o'r llyfr wedi denu fy sylw hefyd sef un yn dwyn y teitl "Éire".
Mae cynnwys enw Gwyddeleg Iwerddon ar restr o wladwriaethau coll yn ymddangos braidd yn rhyfedd ar yr olwg gyntaf ond cyfeirio at sefydliad y Wladwriaeth Rhydd yn 1922 fel y cam cyntaf tuag at ddiflaniad wladwriaeth arall mae'r llyfr. Y Deyrnas Unedig yw'r wladwriaeth honno.
Hanesydd yw Norman Davies nid proffwyd ond o gofio bod y llyfr wedi mynd i'r wasg peth amser yn ôl mae ei ddamcaniaeth ynghylch effaith trafferthion yr Ewro ar y farn gyhoeddus yn Lloegr yn hynod o graff. Efallai y byddai'n syniad i Unoliaethwyr wrando ar ei rybudd bod y Deyrnas Unedig yn uchel iawn ar y rhestr o wladwriaethau sy'n debyg o ddiflannu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae'n bosib ar y llaw arall ei bod hi'n rhy hwyr.
Yn ein sgwrs mae Norman y mynd gam ymhellach nac yn y llyfr gan ddweud y gellid cymryd diwedd y wladwriaeth Brydeinig yn ganiataol erbyn hyn. Mater o bryd a sut yw e bellach. Y cwestiwn mawr nawr, meddai, yw pa elfennau o Brydeindod y mae pobol yn dymuno eu gweld parhau o fewn y gwladwriaethau newydd sydd ar y gorwel.
SylwadauAnfon sylw
Mi gyrhaeddodd y gyfrol swmpus yn y post y bore ma: 850 tudalen yn mynd ar drywydd gwladwriaethau coll ar hyd a lled y cyfandir. Ac ie, yn Gymraeg mae'r cyflwyniad: I'r Anghofiedig.
Fyddai ddim wedi cael amser i ddarllen y gyfrol erbyn fore Sul, ond edrychaf ymlaen i wrando'r sgwrs.
Mae'r llyfr ar fy rhestr Nadolig! Mae'r "Isles" yn gampwaith.