Sgandalus
Dydw i ddim yn gwybod pam ond am blaid fach mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr wedi bod yng nghanol nifer sylweddol o sgandalau ar hyd y blynyddoedd. Efallai bod diffyg grym a phŵer tan yn ddiweddar wedi gadael gormod o amser ar eu dwylo ar hyd y blynyddoedd!
Amser a ddengys a fydd hanes Chris Huhne yn cael ei ychwanegu at bantheon y sgandalau ond go brin bod y stori hanner mor ddiddorol â helyntion Lloyd George neu Jeremy Thorpe.
Am resymau cyfreithiol amlwg nid nawr yw'r adeg i drafod trafferthion Chris Huhne ond gellir nodi un peth. Mae profiadau'r gorffennol yn awgrymu nad oes yn rhaid i lys gael gwleidydd yn euog o unrhyw drosedd er mwyn rhoi terfyn neu o leiaf taflu cwmwl dros ei yrfa.
Yn achos Lloyd George a'r arfer o werthu anrhydeddau hanner can punt o ddirwy oedd y gosb dderbyniodd Maundy Gregory - yr unig berson i gael ei erlyn o ganlyniad i'r sgandal. Roedd y gost i enw da 'Dewin Dwyfor' llawer yn fwy na dirwy Gregory.
Hawdd anghofio hefyd mai 'dieuog' oedd y rheithfarn ar ddiwedd achos Jeremy Thorpe, David Holmes a'r ddau gymeriad 'lliwgar' yna o Borthcawl John Le Mesurier (nid yr actor!) a George Deakin. Dwn i ddim ai'r cyhuddiadau o berthynas hoyw yntau'r bod ci wedi ei saethu oedd y sioc fwyaf i'r cyhoedd ar y pryd. Y naill ffodd neu'r llall doedd dim modd i Jeremy Thorpe adfer ei enw da.
Beth bynnag ddaw yn y llys felly dyw pethau ddim yn argoeli'n dda i yrfa Chris Huhne ac mae 'na un gwahaniaeth rhwng achosion Lloyd George a Jeremy Thorpe a'r un presennol. Dyw Chris Huhne ddim yn arweinydd ei blaid. O drwch blewyn etholiadol mae'r Democrataid Rhyddfrydol wedi cael dihangfa!