A Leanne Amoure
Un o raglenni newydd S4C sydd heb gael rhyw lawer o sylw yw cyfres Rhydian Bowen Phillips 'Fi di Duw'. Efallai bod pobol yn rhy brysur yn rhacsio ambell i raglen newydd arall i dalu sylw i gyfres fach ddifyr a dymunol!
Yn bersonol does gen i ddim uchelgais i fod yn ben ar y nefolaidd gôr ond rwyf am chwarae fersiwn bach arall o gêm Rhydian - un sy'n ymwneud â chorff sydd ychydig yn is na'r angylion - ond dim ond ychydig, cofiwch!
'Fi di Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru' yw'r gêm a'r bwriad yw ceisio dyfalu pa strategaeth y dylai'r blaid fabwysiadu yn sgil ethol Leanne Wood fel ei harweinydd.
Does dim angen bod yn athrylith i wybod sut bydd y pleidiau eraill yn ymateb i ddewis aelodau Plaid Cymru. Fe fyddant yn ceisio ei diffinio ym meddyliau'r cyhoedd cyn iddi hi ei hun gallu gwneud hynny. Mae hynny'n bolitics 101.
Fe fydd ymchwilwyr y pleidiau eraill yn chwilio trwy ei holl gyfraniadau yn y siambr a'i cholofnau yn y Morning Star a chyfnodolion eraill. Eu bwriad fydd canfod deunydd i geisio dylunio arweinydd newydd Plaid Cymru fel gwleidydd sydd allan o brif lif gwleidyddiaeth Cymru ac sydd allan o'i dyfnder.
Sut ddylai Plaid Cymru ymateb i hynny?
Mae rhan o'r ateb, dybiwn i, i'w ganfod ar wefan Leanne Wood ei hun. Roedd rhyddhau dogfennau polisi manwl fel ei chynllun i'r cymoedd yn fodd i gyfleu'r syniad ei bod yn wleidydd o sylwedd i aelodau Plaid Cymru. Pwy o wÅ·r faint o ddarllen oedd arnyn nhw -ond mewn sawl ystyr roedd ei bodolaeth yn bwysicach na'u cynnwys.
Fe fyddai'n gwneud synnwyr i ddilyn yr un trywydd yn ystod y misoedd nesaf ond mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â'r arweinydd newydd - rhywbeth fel maniffesto i fusnesau bach er enghraifft.
Mae'n rhaid i'r blaid dderbyn hefyd bod Leanne yn gallu bod yn wan mewn cyfweliadau. Gwyliwch Dragon's Eye neithiwr os am brawf o hynny. Dyw rhoi cyfeiriad gwefan ddim yn ateb i gwestiwn. Fe fydd yn rhaid iddi ddysgu'n gyflym sut mae delio â phobol fel fi!
Fe fydd angen paratoi trylwyr ar gyfer siambr y Cynulliad hefyd. Does ond angen edrych ar berfformiad arweinydd y Ceidwadwyr yn ystod sesiynau gwestiynau'r Prif Weinidog i sylweddoli nad yw siarad o'r frest neu ar fympwy bob tro yn syniad da.
Dyna ddigon am wendidau. Mae gan Leanne Wood gryfderau mawrion hefyd. Dyna'r rheswm y gwnaeth hi ennill y ras ac fe ddylai Plaid Cymru geisio manteisio arnyn nhw.
Does ond angen gwylio'r arweinydd newydd yn ymgyrchu i wybod ei bod yn dda iawn iawn wrth ddelio â phobol wyneb yn wyneb. Mae ei phersonoliaeth wresog a siarad di-flewyn ar dafod yn rhoi apêl naturiol iddi.
Trwy ymgyrchu ar y ffyrdd a'r caeau y mae gobaith gorau Leanne Wood o lwyddo i gynyddu apêl y blaid, dybiwn i. Gellid gadael peth o'r gwaith yn y Cynulliad i eraill er mwyn cael yr amser i wneud hynny. Mae 'na fwy o bleidleisiau i'w hennill ar y stryd fawr nac yn y Senedd!
'High risk - high reward' oedd y disgrifiad o Leanne Wood gan rai yn ystod yr ymgyrch. Rwy'n meddwl bod hynny'n gywir. Amser a ddengys p'un ai y bydd gambl aelodau Plaid Cymru yn talu ai peidio ond i'r arweinydd newydd a'i thîm nawr mae'r gwaith caled yn cychwyn.
SylwadauAnfon sylw
Edrych mlaen i weld y car crash politics sydd i ddod!
Cyfnod cyffroes i PC dwi'n meddwl. Ai fi yw e neu ydy hi'n edrych fel y Prif Weinidog yn Borgen?
Daria! 'A Leanne Amoure' - dim ond rwan dwi'n sylweddoli be sgen ti efo'r teitl, Vaughan. Ti'n haeddu rhosys cochion am hwnna.