Croen y Ddafad Felen
Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn gallu bod yn un difyr i wylio - ond nid pob tro am y rhesymau cywir! Mae'r pwyllgor yn gorfod ystyried unrhyw ddeiseb ac arni fwy na deg o enwau - trothwy isel sy'n golygu bod bron unrhyw un yn gallu ei chyrraedd.
Heddiw roedd y Pwyllgor yn trafod deisebau ynghylch Gwarchodfa Natur Penrhos, Caergybi, ffordd osgoi Llandeilo, trafnidiaeth gymunedol ac un o'r enw "". Yr olaf wnaeth ddenu sylw newyddiadurwyr er bod arni llai nac ugain o lofnodion. Dyma mae'n ei dweud.
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud datganiad yn cefnogi byd amaeth Cymru drwy gomisiynu a chodi cerflun parhaol o ddafad yn y Senedd.
Cadw wyneb syth ac ysgrifennu at y Llywydd i ofyn ei barn wnaeth aelodau pwyllgor. Dewis gofyn i wleidyddion gwnes i. Roedd Andrew RT Davies yn reit gefnogol i'r syniad ar yr amod nad oedd yn arian cyhoeddus yn cael ei wario. Roedd Kirsty Williams yn bryderus ar y llaw arall na fyddai'n bosib sicrhau cytundeb amaethwyr ynghylch pa frid o ddafad y dylid ei bortreadu.
Yn bersonol dydw i ddim yn meddwl bod y syniad yn un gwael. Mae mae 'na ddau gofeb yn ymwneud a'r diwydiant glo yng nghyffinau'r Senedd - pam peidio cael un yn dyrchafu amethyddiaeth? Gallaf yn hawdd ddychmugu rhyw Alun Mabon neu Iago Prydderch o ffigwr yn sefyll ar stepiau'r senedd yn gwylio ei braidd!
Roeddwn i'n son ynghylch hyn wrth foi eithaf crand sy'n gweithio i Dorïaid y Cynulliad y bore 'ma.
"Mae Gwlad Groeg yn cwympo mas o'r Eurozone ac mi wyt ti'n mwydro ynghylch cerflun o ddafad" oedd ei ymateb yntau.
Rwy'n sefyll fy nhir. Wedi'r cyfan gallai Aelodau'r Cynulliad wneud rhywbeth ynghylch y cerflun. Does 'na ddiawl o ddim y maen nhw'n gallu gwneud ynghylch yr Euro!
SylwadauAnfon sylw
Mae rhai y tu fas i Eglwys Gadeiriol Sant Pedr yn Llundain ers degawdau
Pam ddim? mae na ryw ddyfais or oes glo tu allan - felly pam ddim defaid?
Ond hefyd dwi or farn bod y stepiau tu allan ir Senedd yn edrych yn wag ag yn oer. Pam ddim comisiynu nifer o gerfluniau o enwogion y genedl yn eistedd arnyn nhw (gwahanol a difyr).
Gwell gennyf fyddai cael cerflyn o Darw Du Cymreig. Byddai dafad yn siwr o atgyferthu yr ystrydebau am Gymru a defaid. Dwi yn siwr y byddai rhai yn honni fod digon o bennau dafad o fewn y Cynulliad yn barod heb gael rhagor tu allan !!!!!!
Cytuno'n llwyr gyda Dewi. Mae golwg tu allan y Senedd yn yn oer a diflas. Ma ise mwy o liw. Beth am ychydig o goed ac ambell flodyn yn ogystal a cherfluniau (lliwgar)