Dathlwn Glod...
Rhywle gartref mae gen i fy nghap o'r ysgol fach. Arno mae bathodyn yr ysgol sef y llythrennau YGC wedi eu gweu yn gelfydd at ei gilydd. Ysgol Gymraeg Caerdydd oedd YGC, er mai Bryntaf oedd ei enw ar lafar, ac yn fy nyddiau hi oedd yr unig ysgol Gymraeg yn y brifddinas. Y deg ar hugain o blant yn fy nosbarth i oedd yr unig rai o'n hoedran oedd yn derbyn ein haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Tipyn o ryfeddod felly yw edrych ar raglen ffair eleni gyda'i llwyfannau amrywiol, stondinau di-ri a'r gweithgareddau Cymraeg wedi trefnu gan amryw sefydliadau - gan gynnwys rhai oedd yn ddigon gelyniaethus i'r Gymraeg tan yn gymharol ddiweddar.
Oherwydd y pwysau ar y Gymraeg yn ei chadarnleoedd mae'n ddigon hawdd weithiau i anghofio'r llwyddiannau ieithyddol a'r brwydrau a enillwyd. Hawdd hefyd yw cymryd yn ganiataol y gwaith anhygoel sy'n cael ei gyflawni gan fudiadau fel y Mentrau Iaith, Mudiad Ysgolion Meithrin a'r Urdd.
Mae'n sbort weithiau gwatwar ynghylch ystumiau ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, ond fe ddylwn ni werthfawrogi nid yn unig y gwaith dros bobol ifanc ond y ffaith bod yr Urdd yn fusnes llwyddiannus sy'n un o'r prif gyflogwyr yng nghymunedau Cymraeg de Ceredigion a Meirionydd.
Ond nid post i ganmol yr Urdd nac unrhyw fudiad Cymraeg arall yw hwn. Yn hytrach canmol gwleidyddion Lloegr a llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar hyd y blynyddoedd yw fy mwriad heddiw!
Un o nodweddion hanes y Deyrnas Unedig, yn enwedig ers sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922, yw pa mor ddi-hid y bu gwleidyddion Lloegr ynghylch cwblhau neu amddiffyn y prosiect unoliaethol.
Ni chafwyd ymgais i rwystro'r Wladwriaeth Rydd rhag torri ei chysylltiadau a'r Deyrnas Unedig yn 1937 a phrin yw'r gwleidyddion sy'n cwestiynu'r gosodiad mai mater i bobol yr Alban yw statws cyfansoddiadol ei gwlad.
Prin iawn yw'r gwladwriaethau democrataidd fyddai'n derbyn bod gan ran o'u tiriogaeth graidd yr hawl i adael. Yn sicr dyw Sbaen ddim - er cymaint y gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghatalonia a Gwlad y Basg ac fe ymladdodd yr Unol Daleithiau rhyfel cartref ynghylch yr union bwnc.
Yn yr un modd nid o San Steffan y mae'r rhan fwyaf o'r pwysau am gydymffurfiaeth ieithyddol yng Nghymru wedi dod. Eironi mawr Brad y Llyfrau Gleision oedd bod y Cymry ar ôl ffieiddio'r Comisiynwyr a'u hadroddiad wedi dilyn yr union drywydd wnaeth gael ei hargymell trwy gofleidio'r Saesneg fel iaith addysg.
Brwydro yn erbyn Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli - cyngor lle'r oedd pob un cynghorydd yn Gymro Cymraeg - wnaeth teulu'r Beasleys a brwydrau yn erbyn cynghorau sir Cymru oedd pob un o'r brwydrau dros addysg Gymraeg ar hyd y blynyddoedd.
Roedd y brwydrau hynny yn bosib eu hennill yn rhannol oherwydd nad oes gan y Deyrnas Unedig, yn wahanol i Ffrainc er enghraifft, gyfansoddiad ysgrifenedig yn datgan bod ganddi iaith swyddogol.
Yn yr un modd mae'n bosib i Alex Salmond lunio llwybr at annibyniaeth i'r Alban oherwydd nad oes 'na gyfansoddiad ysgrifenedig yn ei rwystro rhag gwneud hynny. Mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa sy'n wynebu gwleidyddion Catalonia a Gwlad y Basg.
Yng nghanol hyn oll cafwyd awgrym gan Carwyn Jones yn ddiweddar bod hi'n bryd sefydlu confensiwn neu gomisiwn i lunio cyfansoddiad ysgrifenedig i'r Deyrnas Unedig.
Gellid dadlau bod diffyg cyfansoddiad o'r fath wedi bod o fantais enfawr i genhedloedd llai'r ynysoedd hyn ar hyd y blynyddoedd a bod hwn yn achos o "gochelwch rhag chwi a gewch".
SylwadauAnfon sylw
Tafwyl ta 'cyfryngi-fest'?
Bach yn ddiangen, Dewi - tydi o ddim yn 'gyfryngi-fest' o gwbl. Mae'n drist bod gan lot o Gymry Cymraeg ysfa i labelu popeth Cymraeg sy'n digwydd yng Nghaerdydd fel hyn.
Sylw annheg, Dewi. Mae gas gen i'r ysfa sydd gan gymaint o Gymry Cymraeg i ysgyrnygu ar unrhyw beth Cymraeg sy'n digwydd yn Gymraeg yng Nghaerdydd, fel petai o rywsut yn llai pwysig. Wel, dydi o ddim, so delia efo'r peth.
Hynod o ddiddorol. Mae'n bosib, yn sicr nawr, fod agwedd llai amddifynnol a llai gwrth brydeinig yn fwy priodol o gofio ein bod wedi'r cyfan yn byw ar Ynysoedd Prydain ( ac mae ni yw'r Prydeinwyr gwreiddiol). Mae Alex Salmond ei hun wedi bod yn gneud synau felly yn ddiweddar yn cydnabod fod gwerth i rhai sefydliadau prydeining hydynoed os aiff yr Alban yn annibynnol
Duw a'n gweredo rhag gyfansoddiad Brydeinig.
Byddai'n rhoi ni mewn cawell o Newspeak Llafur newydd o'r hyn sy'n wleidyddol dderbyniol a Jacobiniaeth Brydeinig o 'hawliau cyfartal' byddai'n golygu dim hawliau tiriogaethol i'r Gymraeg rhag ofn fod rhywun o Kent methu cael job yng Nghaerdydd achos nad ydynt yn siarad Cymraeg. Na.
Beth am i Carwyn Jones ganolbwyntio ar lunio cyfansoddiad i Gymru - y wlad y mae'n ei rheoli. Mae hynny'n ddigon o job iddo, cyn dechre mela yng ngyfansoddiad Brydeinig.
Rwy'n weriniaethwr Cymreig ond, Gwell brenhines Loegr na Gweriniaeth Ffrainc.
Ry'n ni'n wirioneddol lwcus bod Lloegr wedi edrych lawr ei thrwyn gymaint arnon ni fel nad ydyn nhw wedi meddwl ei bod yn werth bod yn rhy haearnaidd gyda ni!
Wrth drafod gyda ffrindiau yn Llydaw, mae'n dod yn amlwg yn fuan iawn bod eu sefyllfa nhw yn llawer anos, a bai'r cyfansoddiad yw hynny i raddau helaeth iawn.