Adar o'r unlliw
Un o ddywediadau enwocaf Enoch Powell oedd bod pob gyrfa gwleidyddol yn diweddu mewn methiant. Yn sicr roedd hynny'n wir am yrfa Powell ei hun wrth iddo droi'n ffigwr fwyfwy ymylol yn sgil ei araith enwog yn proffwydo y byddai 'na 'afonydd o waed' o ganlyniad i fewnfudo i Brydain.
Ganwyd Powell union ganrif yn ôl - ac mae canmlwyddiant ei eni wedi arwain at gyhoeddi yn ail-asesu gwahanol agweddau o'i fywyd a'i ddaliadau.
Dyw darllen araith 1968, sydd wedi ei chynnwys yn ei chyfanrwydd yn y gyfrol, ddim yn brofiad cysurus. Does dim dwywaith ei bod hi'n hiliol a dyw'r esgusodion bod Powell wedi "mynd dros ben llestri" neu "wedi ei ddal lan yn ei rethreg ei hun" ddim yn dal dŵr.
Mae'n amhosib cyfiawnhau na maddau'r araith heddiw. Dyw hynny ddim yn golygu bod hi'n ddiwerth ceisio deall y cymhellion.
Mae bywyd Powell yn awgrymu nad casineb hiliol oedd wrth wraidd ei ddaliadau. Wedi'r cyfan, roedd wedi gwneud ei enw seneddol trwy ei ymosodiadau chwyrn ar luoedd arfog Prydain am gam-drin trigolion rhai o drefedigaethau'r Ymerodraeth. Yn hytrach syniad rhamantus o 'Loegr' fel lle oedd â thraddodiadau unigryw o ddemocratiaeth a rhyddid oedd yn sylfaen i'w gredo.
Prydain oedd Powell yn golygu wrth 'Loegr' ond doedd cymysgu rhwng y ddwy na chredu yn eu hunigrywiaeth ddim yn anarferol hyd yn oed yn y 1960au. Dadl Powell oedd y byddai mewnfudwyr naill ai'n gwrthod cymhathu â chymdeithas unigryw 'Lloegr' neu yn ei newid er gwaeth trwy wneud hynny.
Mewn un ystyr credu yn y geidwadaeth fwyaf pur bosib oedd Powell gan feddwl bod unrhyw newid o gwbwl yn newid er gwaeth. Ystyriwch y dyfyniad yma.
"At the end of a lifetime in politics, when a man looks back, he discovers that the things he most opposed have come to pass and that nearly all the objects he set out with are not merely not accomplished, but seem to belong to a different world from the one he lives in."
Mewn un ystyr roedd Powell yn iawn. Mae mewnfudwyr wedi newid Prydain er gwell neu er gwaeth. Yn sicr maen nhw wedi newid ein gwleidyddiaeth.
Un o'r arolygon barn mwyaf diddorol i mi ddarllen yn ddiweddar oedd un a gomisiynwyd gan gyn ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr Michael Ashcroft.
Mae Ashcroft yn gymeriad dadleuol ond mae'r arolygon a gomisiynir ganddo yn hynod ddiddorol. Maen nhw'n broffesiynol ac yn defnyddio samplau lawer iawn fwy na sy'n arferol. Rhyw fil o bobol sy'n cael eu holi ar gyfer arolygon gan amlaf - mae polau Ashcroft yn holi hyd at ddeg gwaith cymaint. Mae hynny'n golygu bod modd gwneud casgliadau cadarn ynghylch agweddau gwahanol gymunedau a lleiafrifoedd.
Ym mis Ebrill fe holodd Ashcroft sef hwn - "pa rai o'r tair plaid fawr y byddech yn gwrthod pleidleisio iddynt o dan unrhyw amgylchiadau?" Mae'r atebion hyd yn oed yn fwy diddorol. Dim ond 15% oedd yn dweud eu bod yn amharod i bleidleisio i Lafur. 22% oedd y ffigwr i'r Democratiaid Rhyddfrydol tra bod 35% yn dweud nad oeddent yn fodlon pleidleisio i'r Ceidwadwyr o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae'r ystadegyn olaf yna, dybiwn i, yn cynnig esboniad o fethiant y Ceidwadwyr i ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf er gwaethaf amgylchiadau gwleidyddol hynod o ffafriol. Roedd 'na ormod o bobol nad oeddynt yn fodlon pleidleisio i'r Torïaid doed a ddelo. Mae hynny yn broblem enfawr i'r blaid
Dyw e ddim yn syndod efallai bod pobol ddu Mwslemiaid ymhlith y grwpiau sydd fwyaf gelyniaethus i'r Ceidwadwyr. Dywedodd 45% o bobol ddu a holwyd na fyddent fyth yn cefnogi'r Toriaid ac yn Etholiad 2010 dim ond 16% o bleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig wnaeth gefnogi'r Ceidwadwyr.
Yr eironi yw mai Enoch Powell sy'n rhannol, neu hyd yn oed yn bennaf, gyfrifol am hynny.
SylwadauAnfon sylw
Yn sicr, mae'r dyn yn dal yn ddadleuol tu hwnt. Fel y nodwch chi, mae'n weddol eglur nad hilydd mohono, ond mi roddodd ei araith yn 1968 gryn hwb i hiliaeth. Ar un ystyr, saif yr araith honno ar ei phen ei hunan - roedd ei areithiau fel arfer yn batrwm o resymeg oeraidd a ieithwedd academaidd, ond roedd yr araith yma llawn delweddau anhyhfryd ac yn ailadrodd clecs na ellid mo'i brofi (fel y ddynes chwedlonol y rhoddai rhywrai faw drwy dwll llythyron ei ddrws).
Dyn diddorol iawn ydyw hefyd oherwydd ei ddiddordeb mawr yng Nghymru a'r iaith Gymraeg, ond stori arall yw honno.