Cwrteisi a'r Gymraeg
Mae'n annhebyg eich bod wedi llwyddo i osgoi'r ffaith bod Cymdeithas yr Iaith yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant eleni. Mae hen ddigon wedi ei hysgrifennu ynghylch hynny ond efallai mai'r hyn sy'n nodweddu'r Gymdeithas fwyaf yw ei gwydnwch. Tra bod mudiadau iaith eraill wedi ymddangos ac yna diflannu ar hyd y blynyddoedd erys y Gymdeithas fel rhyw fath o graig yr oesoedd gydag Adferwyr, Cymunedwyr, Cyfeillion ac eraill yn mynd a dod o'i chwmpas.
Un o'r mudiadau iaith mwyaf byrhoedlog oedd un o'r enw "Y Cymry Rhydd". Os ydw i'n cofio'n iawn, Robat Gruffudd, y Lolfa wnaeth sefydlu'r grŵp ac roedd y syniad yn un digon syml. Fe fyddai'r aelodau yn gwrthod siarad Saesneg o dan unrhyw amgylchiadau. Am wn i ein cwrteisi naturiol fel Cymry Cymraeg oedd yn gyfrifol am fethiant y mudiad.
Mae'n rhan o fytholeg Lloegr bod y Cymry yn troi at y Gymraeg yn unswydd er mwyn siarad am Saeson y tu ôl i'w cefnau. Yn fy mhrofiad y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'r Cymry Cymraeg yn tueddu bod yn ddigon parod, yn rhy barod efallai, i droi at y Saesneg i wella'r gwmnïaeth.
Roeddwn yn meddwl am hyn mewn cyfarfod rhai wythnosau yn ôl - y fath o gyfarfod anffurfiol lle nad yw cyfieithu yn cael ei ddarparu. Roedd y mwyafrif yn yr ystafell yn Gymry Cymraeg rhugl a fyddai'n siarad yr iaith yn naturiol a'i gilydd. Roedd eraill yn deall rhyw faint o Gymraeg a'r rheiny a fyddai'n cael eu hystyried yn ddi-Gymraeg yn bobol oedd wedi eu haddysgu yng Nghymru ac felly wedi astudio'r Gymraeg o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol fach hyd at oedran TGAU.
Oes angen dweud beth oedd iaith y cyfarfod - ac eithrio ambell i "fore da" a "diolch yn fawr"?
Dau gwestiwn sy gen i yn fan hyn.
Yn gyntaf pwy oedd yn bod yn gwrtais a phwy oedd yn bod yn anghwrtais yn yr achos hwn?
Yn ail, os ydw i'n gallu straffaglu i siarad Ffrangeg ddegawdau ar ôl mi ei hastudio am dair blynedd yn yr Ysgol Uwchradd - beth ddiawl sy'n mynd ymlaen mewn gwersi Cymraeg yn ein hysgolion Saesneg?
Yr wythnos hon cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn sefydlu er mwyn ceisio gwella safon dysgu Cymraeg fel ail iaith. Hen bryd hefyd. Efallai y caiff e ryw effaith.
Yn sicr mae'n rhaid gwneud rhywbeth.
SylwadauAnfon sylw
Gobeithio y bydd Gweithgor Leighton Andrews yn troi Cymraeg ail iaith yn bwnc craidd. Dyna'r peth cyntaf tuag at godi safon. Ar hyn o bryd, gall plant wneud "cwrs byr" TGAU, sef rhyw un wers yr wythnos, heb obaith yn y byd o godi digon o iaith i fod yn siaradwyr. Mae Cymraeg a Saesneg i fod yn gyfartal, ond yn yr ysgol maen nhw'n gwbl anghyfartal.
A beth am fod yn fwy creadigol? Beth am greu cwrs wlpan yn unswydd i bobl ifanc, neilltuo dwyawr y dydd am un tymor cyfan ar ddechrau blwyddyn 7, wedyn dilyn rhai o'u pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Neu gallech chi gynnig cwrs wlpan dros yr haf cyn y 6ed dosbarth.
Dyma chi wedi crisialu y broblem fwyaf sydd yn wynebu'r iaith Gymraeg - sef y rhai sy'n meddu ar yr iaith ond ddim yn ei siarad hi. Mae hyn yn achosi penbleth - pam nad ydy rhai siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd.
Myth yw gweld Addysgy Cyfrwng Cymraeg fel llwyddiant ysgubol sy'n chwyldroi niferoedd siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs mae mwy o blant a phobl sydd yn GALLU siarad yr iaith ond hefyd yn penderfynu PEIDIO. Mae'n anodd torri'r cylch gan fod nifer o rieni sy'n gallu siarad Cymraeg ond sy'n siarad Saesneg gyda'i gilydd ond sydd eto'n danfon eu plant i ysgolion Cymraeg (ond yn siarad Saesneg gyda'r plentyn yn y cartref!)
Sut mae cael y rhain i ddefnyddio eu Cymraeg yw'r cwestiwn.
Yr argraff ydw i'n ei gael wrth siarad â rhai cyfoedion sydd wedi mynd drwy'r broses o ddysgu Cymraeg yn ail iaith yw bod safon yr athrawon yn yr ysgolion uwchradd yn isel iawn, a nad yw nifer yn deall cymaint a hynny yn fwy o Gymraeg na'u disgyblion.
Ond yn fy nhyb i beth sydd ei angen yw gochel rhag dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol uwchradd. Erbyn yr ysgol uwchradd mae pawb yn dal dig tuag at unrhyw un sy'n ceisio dysgu unrhyw beth iddyn nhw beth bynnag. Dylid dysgu'r Gymraeg i ddisgyblion tra eu bod nhw yn yr ysgol gynradd. Mae plant bach yn ei chael hi'n llawer haws dysgu ieithoedd newydd na phlant hy^n. (Mae'r plentyn hynaf fan hyn yn sicr wedi dysgu Saesneg o fewn blwyddyn ar iard ysgol gynradd gyfan gwbwl Gymraeg, er nad ydyn ni'n siarad dim o'r iaith gartref!)
Cytuno gyda IMJ o ran ei bwynt olaf. Pryder arall y system addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd yw bod tuedd i blant o gartrefi Cymraeg droi i siarad Saesneg yn enwedig wrth chwarae ar y buarth gan fod mwyafrif y disgyblion mewn sawl ardal yn dod o gartrefi diGymraeg. Naturiol yw troi at iaith y mwyafrif. Er hyn rhaid peidio anghofio llwyddiant enfwr addysg Cymraeg gyda nifer fawr o blant a rhieni didwyll wedi ymddiried mewn system addysg ac wedi elwa oherwydd hynny. weithiau mae angen herio mwy o rieni a gofyn PAM yn union maen nhw eisiau addysgu Gymraeg i'w plentyn. Yn aml mae ofn pechu a thramgwyddo rhagofn swnio'n rhy elitaidd neu snobyddlyd.
Cytuno mae yn y cynradd mae plant yn dysgu iaith orau ond anghytubol o ran peidio parhau hyn yn yr uwchradd. Oes ma rhai disgyblion nad sydd eisiau parhau a'r iaith (neu'n gweld yr iaith fel arf i wrthryfela o fewn ysgol) ond mae canran arall sydd yn datblygu sgiliau a medrau ieithyddol ac yn mynd mlaen i astudio lefel A a graddau - a hynny ar ol dysgu fel ail iaith. Cwestiwn arall i feddwl amdano (yn enwedig o ran system addysg Sir Gar yw pryd y mae disgybl yn troi o fod yn ailiaith i fod yn iaith gyntaf?
Pan ges i fy nghodi yng Gnhaerfyrddin, roed llu o bobol oedd yn honi 'I don't speak it, but I understand it' - ac redd unrhyw un oedd wedi bod i Loeger am fwy na 3 mis wedi collu eu Cymraeg yn llwyr! Dim on cwt fach o'r agwedd yma sydd dal i's weld yng GNhymry, hyd y gwela i, on mae'n rhaid cael gwared arno fe!
Mae'r ateb yn eithaf syml, ac yn ein dwylo ni fel Cymry Cymraeg - rydan ni jest yn gorfod bod yn 'anghwrtais' weithiau.
'Dwi'n meddwl bod yna wahaniaeth De / Gogledd a dweud y gwir - 'dydi ymddangos yn anghwrtais ddim yn poeni'r Gog cymaint a mae'n poeni'r Hwntw.