Haf Hirfelyn Gwresog
Mae dyddiau'r cŵn yn ddyddiau peryg i lywodraethau am ryw reswm. Gofynnwch i David Cameron. Nid trafod problemau clymblaid San Steffan yw fy mwriad yn fan hyn - ond mae'n anodd gweld sut ar y ddaear y gall y llywodraeth fynd a'r maen i'r mur ynghylch diwygio Tŷ'r Arglwyddi heb ildio refferendwm. Fe fydd angen hynny er mwyn sicrhau cefnogaeth y blaid Llafur - ac ar ôl llosgi eu bysedd unwaith go brin fod hynny'n apelio at ochr felen y glymblaid.
Yma yn y Bae, y Gweinidog Iechyd sydd dan y lach yn sgil y ffrwgwd ynghylch y sgyrsiau rhwng Marcus Longley a gweision sifil wrth iddo baratoi adroddiad ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd - adroddiad y mae Lesley Griffiths yn mynnu sy'n gwbwl annibynnol.
Mae 'na hen ddigon o ddadansoddi wedi bod ynghylch manylion y ffrae yn barod. Blog Betsan yw'r lle i fynd os am wybod mwy. Yr hyn sy'n ddiddorol i mi yw bod y tair gwrthblaid - am y tro cyntaf yn y Cynulliad hwn wedi cydlynu eu hymosodiadau ar y Llywodraeth.
Dim ond rhyw wythnos sy 'na ers i mi ysgrifennu ynghylch eu methiant i wneud hynny. Nid fy ngeiriau sy'n gyfrifol am y newid. Beth felly sydd wedi darbwyllo Andrew RT Davies a Leanne Wood i gydweithio am unwaith?
Wel mae'n debyg bod ychydig o "shuttle diplomacy" gan Kirsty Williams wedi chwarae rhan yn y peth. Rwy'n deall mai yn ei swyddfa hi y cynhaliwyd y cyfarfod allweddol rhwng y tri arweinydd.
Yn achos Plaid Cymru mae 'na ddau reswm posib arall allai esbonio'r parodrwydd i weithio gyda'r gleision am unwaith.
Yn gyntaf mae'r blaid wedi bod ym mlaen y gad yn y protestiadau yn erbyn newidiadau posib i wasanaethau yn ysbytai Bronglais a'r Tywysog Phillip. Gallai adroddiad Marcus Longley gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r newidiadau hynny. Yn achos Llanelli mae hynny eisoes wedi digwydd.
Does a wnelo'r rheswm arall ddim byd ac iechyd. Wythnos ddiwethaf fe ymosododd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies yn chwyrn ar y ffordd y gwnaeth y Gweinidog Amaeth yn y Llywodraeth ddiwethaf gyflwyno cynllun 'Glastir'. Elin Jones oedd y gweinidog hwnnw ac roedd Plaid Cymru'n gandryll ynghylch yr ymosodiad. Fel mae'n digwydd Elin yw Llefarydd Iechyd Plaid Cymru.
Oes 'na gysylltiad rhwng y ddwy stori? Go brin - ac eithrio mewn un ystyr. Mae unrhyw agosatrwydd rhwng Plaid Cymru a Llafur oedd yn parhau ers dyddiau 'Cymru'n Un' wedi diflannu.