Myfi sy'n gosod y ddeddf i lawr
Mae'n ddyddiau'r cŵn yma yn Nhŷ Hywel gyda'r mwyafrif llethol o'r aelodau naill ai ar eu gwyliau neu'n gweithio yn eu hetholaethau.
Mae 'na ambell i aelod i weld yn NhÅ· Hywel. Yn y ffreutur heddiw roedd Peter Black yn sgwrsio gyda rhai o swyddogion ei blaid. O'i Drydar rwy'n synhwyro mai trafod cynnwys ei fesur preifat i gynyddu hawliau trigolion parciau preswyl oedd Peter.
Un arall sydd yma'r yw'r dirprwy lywydd, David Melding. Mae yntau wrthi'n paratoi ar gyfer ymchwiliad gan bwyllgor mae'n cadeirio i awgrym Carwyn Jones y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae hwn yn bwnc sy'n creu cyffro mawr ymhlith cyfreithwyr a bargyfreithwyr fel Carwyn ond sy'n pery tipyn o grafu pen i bawb arall.
Cam synhwyrol yw hwn yn ôl Carwyn i sicrhau bod cyfreithiau Cymru yn cael eu gweinyddu gan bobol sydd wedi eu trwytho yn y Gyfraith Gymreig. Digon teg efallai, er y gellid nodi mai digon tila yw cyfraith Cymru hyd yma.
Wrth gwrs dim ond yn y meysydd datganoledig y byddai'r awdurdodaeth Gymreig yn gweithredu. Rwy'n cyffredinoli braidd wrth ddweud y byddai'r Awdurdodaeth Gymreig yn gyfrifol am gyfraith sifil ac Awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gyfrifol am y gyfraith droseddol ond dyna'n fras fyddai'r sefyllfa.
Mae 'na gynsail i'r fath yna o awdurdodaeth ddeublyg yng Nghymru. Dyna oedd y sefyllfa rhwng Statud Rhuddlan a'r Deddfau Uno gyda chyfraith Hywel yn gweithredu'n gyfochrog a chyfraith droseddol Lloegr.
Dydw i ddim yn sicr bod cyfundrefn gyfreithiol oes y clêr yn addas iawn ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain! Serch hynny mae'r ddadl yn tynnu sylw at un o wendidau mawr y setliad datganoli yng Nghymru sef y diffyg eglurdeb ynghylch beth yn union sydd wedi ei ddatganoli a beth sy ddim.
Yn bennaf oherwydd gwaith Confensiwn Cyfansoddiadol yr Alban roedd mesur datganoli'r Alban yn gwbwl eglur. Rhestrwyd nifer cyfyngedig o bynciau yr oedd San Steffan yn cadw iddi hi ei hun a throsglwyddwyd popeth arall. Dilynwyd yr un patrwm yng Ngogledd Iwerddon ac mae gan y ddwy diriogaeth ei hawdurdodaethau cyfreithiol ei hun.
Ni chynhaliwyd Confensiwn Cyfansoddiadol yng Nghymru. Yn hytrach cafodd llond crochan o gawl Kilbrandon ei ail-dwymo yng nghegin gefn pencadlys Llafur Cymru gan gynhyrchu mesur sy'n ddiarhebol ei aneglurder.
Dyna, mae'n debyg, sy'n gyfrifol am y sefyllfa ryfeddol lle mae'r ddeddf gyntaf i'w gymeradwyo gan y Cynulliad ers y refferendwm i gynyddu ei bwerau yn cael ei herio yn y llysoedd gan y Twrne Cyffredinol.
Onid oes angen sortio'r cawlach yna allan cyn hyd yn oed ystyried y cwestiwn o awdurdodaeth?
SylwadauAnfon sylw
Mae deddf gog iwerddon ychydig yn wahanol i deddf yr alban. ond yndy, mae o llawer mwy eang na yng nghymru.
Mae yna 2 opniwn yma yng nghymru. un syn deud bod y deddf 2006 yn cyfin dros ben - ond mae na eraill sydd yn deud eu fod o yn eithaf eang. dwi yn mawr gobeithio neith y llys bendefynnu hyn yn mis hydref i ni gael gwybod lle da nin sefyll. dwi yn rhagweld y fydd y llys yn gadael i ni gael deddf eang - gan ddefnyddio y refferendwm fel esgus on wrth gwrs maen dibynnu pa rai syn sefyll ar yr achos.
Problem byr dymor yw hwn. dwi bron yn sicr y bydd deddf llywod cymru arall ar ol silk yn enwedig os oes na glymblaid ar ol yr etholiad.
_______________________________________
Yna gyda system gyfreithiol arwahan - na mae hwn yn ddadl sydd ei angen asap. os dydy rhai cyrff cyhoeddus methu deall bod yna gyfreithiau wahanol rhwng lloegr a chymru - dani mewn sefyllfa difrifol. dyna y prif bwynt tu ol gwahanu.
ond mae rhai eraill megis economi: cael diwydiant cyfreithiol yma yng Nghaernarfon (dwin cymeryd mai yma fydd yr uchel lys yng nghymru) nid yn Llundain. Ac hefyd fysa fon siawns i ni wella pethau yn ymneud ar iaith a moderneiddio y llysoedd.