³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yfwn ni ddwsin o foteli....

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2012

Mae'n swyddfa ni yma ym Mae Caerdydd wedi ei lleoli yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth lle mae isetholiad seneddol i'w gynnal ymhen llai 'na mis. Rwy'n gyrru trwy'r etholaeth dwywaith bob dydd a theg yw dweud mai prin yw'r arwyddion bod 'na etholiad ar fin digwydd. Rwy'n bod yn garedig trwy ddefnyddio'r gair 'prin'!

Newydd gael ei alw'n swyddogol mae'r etholiad seneddol wrth gwrs. Nid felly'r etholiadau i ddewis Comisiynwyr yr Heddlu a does 'na nemor ddim arwydd o'r rheiny chwaith - naill ai yn Ne Caerdydd a Phenarth nac yn unrhyw le arall yr wyf wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Oes 'na gynsail i hyn? Oes 'na bleidlais genedlaethol wedi ei chynnal erioed lle mae cyn lleied o ymgyrchu i weld ar lawr gwlad? Oes!

Yn ôl yn 1881 fe enillodd anghydffurfwyr Cymru un o'u buddugoliaethau gwleidyddol mwyaf trwy sicrhau deddfwriaeth i gau tafarnau'r wlad ar y Sul. Dyw e ddim yn gwbwl wir i honni, fel mae rhai yn gwneud, mai hon oedd y ddeddf gyntaf ers y deddfau uno i drin Cymru fel gwlad ar wahân i Loegr ond roedd hi'n garreg filltir bwysig yn natblygiad cyfansoddiadol Cymru.

Fe barodd y Suliau sych tan 1961 pan roddwyd y cyfle i etholwyr bleidleisio fesul sir ynghylch agor tafarnau ar y Sabath. Y pleidleisiau hynny ynghyd a'r "option polls" yn yr Alban oedd yn caniatáu i gymunedau wahardd alcohol yn gyfan gwbwl oedd yr esiamplau cynharaf o refferenda yn y Deyrnas Unedig.

O dan y drefn newydd roedd y naill ochor neu'r llall yn cael gorfodi pleidlais trwy ddeiseb bob saith mlynedd. Yn ddieithriad fe fyddai plaid y dafarn yn gorfodi pleidlais mewn ardal 'sych'. Tueddu rhoi mewn gwna plaid y capel ar ôl i ardal droi'n 'wlyb'.

Dwyfor oedd caer fechan olaf y dirwestyr i gwympo. Fe ddigwyddodd hynny gydag ad-drefnu llywodraeth leol yn y nawdegau ac fe ddiddymwyd y ddeddfwriaeth yn gyfan gwbwl yn 2003.

Am y deugain mlynedd y parodd y gyfundrefn digon isel oedd y canran oedd yn pleidleisio. Hyd yn oed mewn ardaloedd lle'r oedd y bleidlais yn gystadleuol dim ond mewn tafarndai a chapeli yr oedd deunydd ymgyrchu'r ddwy ochor i'w ganfod. Mae gen i gof bod y nifer oedd yn troi mas i bleidleisio yn llai na deg y cant o'r etholwyr mewn ambell i ardal.

Er cymaint yr hysbysebu gan y Comisiwn Etholiadol ac ymdrechion darlledwyr cyhoeddus rwy'n rhyw amau y gallasai'r un fath o sefyllfa godi yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu. Dyw eu cynnal ym mis Tachwedd ddim yn debyg o helpu.

Mae'n bosib bod y broblem yn deillio o'r ffaith mai hwn yw'r tro cyntaf i etholiad o'r fath gael ei gynnal ac y bydd diddordeb y cyhoedd yn cynyddu wrth i'r gyfundrefn aeddfedu.

Serch hynny os ydy'r nifer sy'n pleidleisio yn isel fe fydd cwestiynau'r codi ynghylch mandad unrhyw gomisiynydd i gyflwyno newidiadau radicalaidd neu amhoblogaidd i'r ffordd y mae ardal yn cael ei phismona.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:49 ar 23 Hydref 2012, ysgrifennodd Daniel:

    'Dyw e ddim yn gwbwl wir i honni, fel mae rhai yn gwneud, mai hon oedd y ddeddf gyntaf ers y deddfau uno i drin Cymru fel gwlad ar wahân i Loegr ond roedd hi'n garreg filltir bwysig yn natblygiad cyfansoddiadol Cymru.'

    Beth oedd y ddeddf neu'r deddfau cyn hwn felly? Dwi'n sicr wedi honni hyn, ond yn falch o gael fy nghywiro.

  • 2. Am 14:00 ar 23 Hydref 2012, ysgrifennodd Penarth a'r Byd:

    Rhai sylwadau pellach ar y stori yma (yn Saesneg) fan hyn:

  • 3. Am 15:19 ar 23 Hydref 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Un enghraifft o ddeddfwriaeth oedd yn effeithio ar Gymru yn unig cyn y 1880au oedd y ddeddf i diddymu'r Sesiwn Fawr yn 1830. Ar y cyfan bwriad deddfau neu gymalau "Cymru yn unig" ar ol y deddfau uno a chyn 1880 oedd dileu gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn hytrach na'u cynyddu nhw - ond mi oedden nhw'n fesurau penodol Gymreig!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.