Y Cyfri Olaf
Diolch i bawb wnaeth ymateb i'r post ynghylch y Cyfrifiad.
Rwy'n ymddiheuro i bawb wnaeth orfod aros cyn i'w sylwadau ymddangos. Mae gen i ychydig o newyddion da ynghylch hynny. Yn y flwyddyn newydd fe fyddwn yn symud i system o ôl-gymedroli sy'n golygu y bydd eich sylwadau yn ymddangos yn syth. Fe ddylai hynny fod yn haws i chi ac mae'n sicr o fod yn llawer haws i fi!
Rwyf am ddychwelyd at y Cyfrifiad yn y post hwn oherwydd un ystadegyn na chafodd llawer o sylw. Y 19% sy'n gallu siarad yr iaith a'r is-set o 14.65% sy'n gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu oedd yn hawlio'r pennawdau - ac yn haeddiannol felly.
Yr ystadegyn gafodd ei anwybyddu oedd yr un ynghylch y nifer sy'n gallu deall Cymraeg llafar ond dim yn gallu ei siarad. Rhwng 2001 a 2011 cafwyd cynnydd bychan ym maint y grŵp yma o 4.9% o'r boblogaeth i 5.3%.
Nawr mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod y rhain yn bobol a allai fod yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Cymaint haws yw gloywi iaith na'i dysgu o'r dechrau.
Pwy felly yw'r bobol yma? Wel, ac eithrio plant meithrin mae'r ffigyrau'n rhyfeddol o gyson o safbwynt grŵp oedran gan amrywio rhwng 4.9% (75+) a 5.7% (45-64). Yn ddaearyddol mae 'na fwy o amrywiaeth. Dim ond 2.2% yn dweud eu bod yn deall Cymraeg llafar yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent. Roedd dros ddeg y cant o bobol Sir Gaerfyrddin (11.7%) a Sir Fôn (10.7%) yn dweud ei bod yn deall ond dim yn siarad Cymraeg.
Nawr fe fydd presenoldeb Sir Gar ar frig y rhestr yn canu cloch i newyddiadurwyr Cymraeg sydd wedi gweithio yn y gorllewinl. Yn y sir honno ac yn fwyaf arbennig yn Nyffryn Aman y mae rhyw un yn debyg o wynebu'r profiad o bobol yn gwrthod cael eu cyfweld oherwydd safon eu Cymraeg.
Mae hi fel pe bai 'na rhyw gymhlethdod israddoldeb dwfn yn bodoli ynghylch safonau iaith bersonol a thafodiaith yr ardal. Dyw hi ddim yn syndod efallai bod Dyffryn Aman yn un o'r ychydig ardaloedd lle mae methiant rhieni i drosglwyddo'r iaith i'w plant o hyd yn ffactor yn nirywiad y Gymraeg.
Dydw i ddim yn dweud unrhyw beth newydd iawn yn fan hyn. Pwrpas S4C wrth leoli "Heno" yn Abertawe i ddechrau ac yna yn Llanelli oedd ceisio cyrraedd y gynulleidfa hon. Mae'n broblem barhaus ac mae angen meddwl o ddifri yn ei chylch. Does 'na ddim atebion hawdd nac amlwg - ond efallai bod a wnelo natur y ddarpariaeth addysg uwchradd yn y cylch rywbeth a'r peth.
Rwyf am sôn am un grŵp arall cyn cloi sef y 73.3% o boblogaeth Cymru sydd heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl. Roeddwn i ymhlith rhai ohonyn nhw mewn gwasanaeth carolau dros y Sul.
Roedd y gwasanaeth yn ddwyieithog ond yn Saesneg yr oedd bron y cyfan o'r sgwrsio cyn ac ar ôl y gwasanaeth. Digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn ar ddiwedd yr oedfa. Gwahoddwyd aelodau'r gynulleidfa i adrodd Gweddi'r Arglwydd ym mha bynnag iaith yr oeddent yn dymuno. Clywais i neb yn adrodd cyfieithiad Cymraeg 1988 nac un o'r fersiynau Saesneg ychwaith. Rhythmau Pader William Morgan oedd yn llenwi'r capel.
Mae dyn yn teimlo mewn ambell i ardal yng Nghymru bod 'na ryw swîts cudd yn rhywle a fyddai'n gallu newid iaith ardal yn ôl i'r Gymraeg dros nos.
Mae'n bosib mai'r gwaddol yna o Gymreictod sy'n gyfrifol am y ffaith bod addysg Gymraeg wedi tyfu'n gynt yn rhannau o'r de-ddwyrain nac mewn ardaloedd eraill wedi eu Seisnigo. Ta beth am hynny roedd y profiad yn fodd i godi calon ar ddiwedd wythnos ddigon llwm.
SylwadauAnfon sylw
Dyma blogpost ynghylch y cyfrifiad a'r mewnlifiad - ym Mro Morgannwg!
Dyma blogpost ynghylch y cyfrifiad a'r mewnlifiad - ym Mro Morgannwg!
Dyma blogpost ynghylch y cyfrifiad a'r mewnlifiad - ym Mro Morgannwg!
Mae gennym gyrsiau magu hyder yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru. Rhain wedi eu hanelu yn bennaf at bobl Bangor a Chaergybi sydd a gwybodaeth oddefol o'r Gymraeg. Byddai'n braf gweld rhagor o rhain drwy Gymru a bod helpmar gael i wneud pethaubsyml fel sgwennu llythyr at yr ysgol yn Gymraeg.
Vaughan
Ga' i wneud un ple fechan?
Mae'r Gymraeg wedi bod yn werthfawrogol o'r Genhedlaeth Euraidd - y genhedlaeth honno yn yr 1960au a 70au a weddnewidiodd dyfodol yr iaith trwy eu hymdrechion a'u brwdfrydedd. Mawr yw ein dyled iddynt.
Mae'r genedlaeth honno bellach wedi ymddeol neu am ymddeol dros y ddegawd nesaf.
Ga' i ofyn iddynt wneud un hyrddiad arall? Gwn fod nifer fawr ohonynt dal yn weithgar, ond rydym yn lwcus fod ganddom ni'r genhedlaeth hon sy'n iachach na'i rhieni hwythau ac o bosib mewn swyddi o bwys. Fe allent wneud gwahaniaeth.
Nid gofyn ydw i i bobl dorri'r gyfraith ond gofyn ydw i iddynt godi eu pennau uwch ben y parapaet, i beidio brathu eu tafod, i fynd i'r gwely rhyw noson ychydig yn nerfus iddynt herio'r drefn. Fe all nifer o fan weithredoedd mewn cyngor sir, ysgol, busnes, adran lywodraeth, yn y siop, wneud cyfraniad enfawr.
Os nad ydynt wedi cyrraedd y brig bellach, yna mae'n anhebygol y gwnant dros y ddegawd nesaf. Does dim angen poeni am beidio cael dyrchafiad. Beth sydd i'w golli? Nid gofyn ydw i i bobl fod yn fyrbwyll ond gofyn i bobl ddweud a gwneud yr hyn maent wedi deisyfu gwneud ers talwm ond efallai wedi bod yn rhy ofalus neu ofnus.
Mae ganddom ddegawd i newid cwrs yr iaith. Mae'r tancer yn troi ond mae llif cryf yn ei erbyn. Mae angen felly i bob injan a phob aelod o'r criw weithio. Mae hynny'n cynnwys pawb wrth gwrs, ond mae'r Genhedlaeth Euraidd mewn sefyllfa arbennig. Maent mewn swyddi o gyfrifoldeb a does dim rhaid iddynt boeni gymaint am yrfa a ballu. Byddai ei gweithredoedd hwy hefyd yn esiampl i'r genhedlaethau iau.
Un pwynt bach arall i'w gofio. Efalle 19% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, ond mae chwarter y boblogaeth yn fewnfudwyr (Saeson, y rhan fwyaf). Felly, y canran o'r Cymry sy'n medru'r Gymraeg rhywfaint dros 25%.
Diolch am y disgrifiad treiddgar a gwefreiddiol o'r oedfa. Ydi, mae'n canu cloch, ac yn un o'r arwyddion niferus ac amrywiol o obaith sydd i'w gweld mewn nifer o lefydd. Camgymeriad dybryd fyddai caniatau i benawdau tabloidaidd y Cyfrifiad ein gyrru oll i bwll anobaith. Daliwn i gredu!
Sorri am fod yn negyddlyd ond efallai fod y bobol oedd yn siarad Saesneg yn yr eglwys ond yn gweddio yn Gymraeg eisoes wedi eu cyfrif fel rhan o'r 19 y cant.