Mewn a Mas
Dyma i chi gyfaddefiad. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers oeddwn i'n fach iawn. Tua wyth neu naw oed oeddwn i pan ddechreuais i gymryd diddordeb rwy'n meddwl.
Coeliwch neu beidio doedd hynny ddim yn anarferol iawn ar y pryd. Wedi'r cyfan roedd plant y chwedegau yn tyfu lan yn negawd Kennedy a King, Fietnam a Prague, Caerfyrddin a Chymdeithas. Anodd oedd peidio talu sylw.
Roedd oes y cyfarfod cyhoeddus wedi dechrau dirwyn i ben ond doedd hi ddim wedi darfod yn llwyr. Rwy'n cofio clywed Jo Grimmond yn siarad yn Neuadd Cory, Ted Heath ym Mhafiliwn Gerddi Soffia a Harold Wilson ym Mharc Ninian, o bobman.
Does un o'r tair mangre yn sefyll heddiw ond roedd y cwestiwn mwyaf yr oedd y tri yn ei drafod yn un digon cyfarwydd - Ewrop - mewn neu mas?
Heno ar CF99 fe fyddwn yn trafod y tebygrwydd rhwng y sefyllfa wnaeth arwain at refferendwm Ewrop yn 1975 a'r sefyllfa heddiw.
Mae 'na un gwahaniaeth pwysig wrth gwrs. Yn ôl yn y saithdegau ac eithrio ambell i ffigwr fel Enoch Powell roedd y dde yn unedig o blaid aelodaeth Prydain o'r farchnad Gyffredin fel y'i galwyd ar y pryd.
Y chwith oedd yn rhanedig. Roedd yr undebau a ffigyrau fel Michael Foot a Tony Benn yn gwrthwynebu bod yn aelod o "glwb cyfalafol" tra roedd y rheiny wnaeth adael Llafur i ffurfio'r SDP ddegawd yn ddiweddarach yn frwd o blaid Ewrop.
Roedd Wilson ei hun rhywle yn y canol yn ceisio cadw ei blaid yn unedig. Er mwyn gwneud hynny fe luniodd fformiwla ryfeddol o debyg i un David Cameron - refferendwm ond dim ond ar ôl cyfnod o ail-negodi.
Yn achos David Cameron mae pwyslais sylwebwyr yn tueddu bod ar yr addewid o bleidlais yn hytrach na'r ail-negodi. Roedd hynny'n wir yn ôl yn saithdegau hefyd ond yr ail-negodi oedd yn allweddol.
Gorau po fwyaf o gonsesiynau y gallai Ewrop eu rhoi o safbwynt canlyniad y refferendwm ond prynu amser oedd Wilson mewn gwirionedd. Hanfod ei gambl oedd y byddai ofnau'r etholwyr ynghylch ffawd Prydain y tu fas i'r farchnad yn drech na'u rhwystredigaeth a biwrocratiaid Brwsel - ond roedd angen amser i'r ofnau hynny ddatblygu.
Dyna'n union a ddigwyddodd gyda busnesau mawrion a chyrff fel y CBI yn rhybuddio am broblemau. Mae'r un actorion yn mentro i'r llwyfan unwaith yn rhagor a phe bawn i'n gorfod proffwydo nawr beth fyddai canlyniad refferendwm byswn i'n mentro swllt - ond dim mwy - y byddai mewn yn trechu mas unwaith yn rhagor.
Roedd hi'n ddiddorol gweld yr arolwg barn gyntaf i awgrymu canlyniad o'r fath yn cael ei gyhoeddi dros y Sul.
Beth sy'n rhaid i'r rheiny sy'n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb wneud i ennill refferendwm? Y peth pwysicaf, dybiwn i, yw cynnig darlun eglur ac atyniadol o ddyfodol Prydain tu fas i'r Undeb Ewropeaidd. Dyw cyfeiriadau annelwig at Singapore a 'phont ar draws Fôr Iwerydd' ddim yn debyg o fod yn ddigon.
Mae gobaith yn gallu trechu ofn weithiau ond rhaid esbonio beth union yw'r gobaith hwnnw.
SylwadauAnfon sylw
Mae 'scare stories" a pethau sy'n cythruddo pobl am Ewrop yn bethau hawdd iawn i feddwl I fyny. Mae cymaint o ammunition wedi cael ei greu gan yr undeb, a'r comisiwn ei Hun dros y blynyddoedd. Does bron neb yn dallt y gwahaniaeth rhwng y ECHR a'r undeb ei hun. Does ond gorfod siarad am fewnlifiad o Twrci, hawliau dynol troseddwyr ac eithafwyr islamaidd, y gravy train, a'r gweddill, ac mae llawer o bobl yn mynd yn wallgof. Mae hyn I gyd yn hawdd iawn ar y stepen drws, Yng ngwyneb y manteision syn anodd eu gwerthu, fel masnach, y basen ni'n cael beth bynnag, heddwch yn Ewrop, sy gynnon ni yn barod a teithio hawdd trwy Ewrop, a does neb yn mynd i stopio pobl rhag gwario Arian fel twristiaid yn eu gwledydd. So os yw'r economi yn gwella, Mae cael pleidlais I dynnu Allan yn eitha hawdd yn fy marn i