04, 05 ac ati
Gan amlaf os oes 'na fuddsoddiad mawr o dramor yn dod i Gymru mae'r Llywodraeth yn awyddus iawn i frolio am y peth. Rhyfedd felly oedd dod ar draws buddsoddiad gwerth pum miliwn o bunnau o'r Dwyrain Pell na chlywyd siw na miw amdano. Buddsoddiad mewn addysg bellach yw hwn ac rwy'n amau taw'r rheswm am y distawrwydd yw nad yw'r Llywodraeth hyd yn oed yn gwybod ei fod yn digwydd.
Pam felly? Wel oherwydd taw utgyrn Seion ac nid utgyrn Sony sy'n seinio!
Mae'r stori'n dechrau yn ôl ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gyda glöwr o Frynaman o'r enw Rees Howell. Go brin fod yr enw yna'n golygu rhyw lawer yng Nghymru'r dyddiau hyn. Mae'n annhebyg y bydd y ffilm yma'n ymddangos yn Odeon, Llanelli na Cineworld, Llandudno yn y dyfodol agos!
Chwi synhwyrwch efallai bod Rees Howell o hyd yn cael ei ystyried yn ffigwr o bwys mewn ambell i fan!
Cenhadwr oedd Howell oedd wedi ei danio gan y diwygiad mawr olaf yn 1904-05. Ar ôl cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica dychwelodd i Gymru gyda'r syniad o agor coleg i hyfforddi myfyrwyr o'r holl genhedloedd i ledaenu'r gair ar ôl dychwelyd adref. Prynodd plasty Derwen Fawr yn Abertawe ac agorodd "Coleg Beibl Cymru" ei ddrysau yn 1924.
Fe ddenwyd myfyrwyr o bedwar ban byd. Yn eu plith roedd meibion ymerawdwr Ethiopia, Haile Selassie. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r meibion hynny pan gafodd yr ymerawdwr ei ddyrchafu'n dduw gan y Rastaffariaid!
Ta beth am hynny am dri chwarter canrif roedd Coleg Beibl Cymru yn lle pwysig a dylanwadol i'r rheiny o gwmpas y byd oedd yn hoff o ffydd cymharol ddigyfaddawd.
Daeth tro ar fyd ac ar ddechrau'r ganrif hon penderfynodd ymddiriedolwyr y Coleg newid yr enw i "Trinity" a symud yr holl siabang i ganolbarth Lloegr. Ac eithrio'r plasty ei hun gwerthwyd y cyfan o'r safle i ddatblygwyr.
A dyna fyddai diwedd y stori oni bai am ŵr o'r enw Yang Tuck Yoong sy'n weinidog ar eglwys â rhai miloedd o aelodau yn Singapore.
I ddefnyddio geirfa'n cyndadau derbyniodd alwad i achub Derwen Fawr. O fewn byr o dro llwyddodd i godi'r £5 miliwn angenrheidiol o'i ffyddloniaid yn Singapore i brynu ac adfer y plasty ac fe fydd y Coleg yn ail agor ei drysau rywbryd eleni.
Pam gwneud hynny? Dyma'r esboniad ar .
"The revival that broke forth in the principality of Wales in 1904 is of special importance because of the power and influence that it generated... We have this prophetic sense that somehow, what God did in that revival in Wales... is going to have a profound effect on us, 100 years later."
Oes 'na wers i Lywodraeth Cymru yn fan hyn? Wel, dim ond un fach efallai.
Honnir yn aml bod proffil rhyngwladol Cymru lawer yn is na rhai'r Alban ac Iwerddon. Mae hynny'n wir. Does gan y Cymry ddim delwedd ym meddyliau tramorwyr fel sydd gan ein cefndryd Celtaidd. Ond efallai bod gennym gysylltiadau diwylliannol a hanesyddol â chymunedau eraill nad ydym yn ymwybodol ohonyn nhw.