|
Llyfr y Flwyddyn 2006: Gwynfor: Rhag Pob Brad Y wobr i gofiant ond pleidlais Radio Cymru i nofel
Yn 么l y disgwyl cofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans a ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2006.
Fodd bynnag, llyfr arall, nofel gan Manon Rhys, oedd 'dewis y bobl' fel petai - yn dilyn pleidlais ymhlith gwrandawyr 成人论坛 Radio Cymru!
O'r diwrnod y cyhoeddwyd Gwynfor: Rhag Pob Brad cyn y Nadolig y llynedd bu'r darogan yn gryf ymhlith beirniaid ac adolygwyr mai hwn fyddai yn ennill prif wobr y diwydiant llyfrau Cymraeg.
A nos Fawrth Gorffennaf 11, 2006, derbyniodd y newyddiadurwr sydd newydd ei ddyrchafu yn ddirprwy bennaeth newyddion a materion cyfoes y 成人论坛 yng Nghymru ei wobr mewn seremoni yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, lle cyflwynodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan siec o 拢10,000 iddo.
Pleidlais radio Ond i lyfr arall ar y rhestr fer, nofel gan Manon Rhys, Rara Avis, y byddai gwrandawyr 成人论坛 Radio Cymru wedi rhoi yr arian.
Dros yr wythnosau diwethaf gwahoddwyd gwrandawyr Radio Cymru i fwrw'u pleidlais eu hunain ar gyfer dewis enillydd Gwobr y Gwradawyr ac ar 么l gwobrwyo Rhys Evans, cyflwynwyd Gwobr Gwrandawyr 成人论坛 Radio Cymru i Manon Rhys a ddenodd dros 75% trawiadol o'r pleidleisiau - a hynny'n sicr yn mynd i godi cwestiynau yngl欧n a chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn sydd yn un eithaf dadleuol beth bynnag.
Astudiaeth lenyddol gan Dafydd Johnstone oedd y trydydd llyfr a roddwyd gan y beirniaid, Catrin Beard, Elan Closs Stephens a'r Prifardd Ieuan Wyn, ar restr fer llyfr y Flwyddyn.
Deallus a threiddgar Dywedodd Catrin Beard ar ran y tri beirniad mai camp Rhys Evans oedd cyflwyno "astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch".
Ychwanegodd: "Mae'r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeingef ganrif."
Yr awdur Ganed Rhys Evans yng Nghaerfyrddin, fe'i magwyd yn Aberystwyth ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth a Choleg Hertford, Rhydychen.
Ers dros ddegawd, bu'n newyddiadurwr gyda 成人论坛 Cymru a chyn ei ddyrchafiaddiweddar yr oedd yn olygydd gwleidyddol.
Gwynfor: Rhag Pob Brad yw ei gyfrol gyntaf acfe'i cyhoeddfwyd gan Y Lolfa - cyhoeddwyr cyfrol fuddugol y llynedd hefyd.
Enillydd y wobr gyfatebol yn Saesneg oedd Robert Minhinnick am ei lyfr To Babel and Back (Seren).
Trefnir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi Gymreig ac fe'i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Y deg llyfr a ddewiswyd gan y beirniaid ar gyfer y rhestr fer hir: Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard gan Menna Baines, (Gwasg Gomer)
I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies, (Gwasg Gomer)
Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans, (Y Lolfa)
Ll锚n yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 gan Dafydd Johnston, (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Gongl Felys gan Meinir Pierce Jones, (Gwasg Gomer)
Clirio'r Atig a Cherddi Eraill gan Alan Llwyd, (Cyhoeddiadau Barddas)
Omlet gan Nia Medi, (Gwasg Gwynedd)
Digon o Fwydod gan Mihangel Morgan, (Cyhoeddiadau Barddas)
Oni Bai gan Eigra Lewis Roberts, (Gwasg Gomer)
Rara Avis gan Manon Rhys, (Gwasg Gomer)
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|