Lle a phryd
Tafarn y C诺ps, Aberystwyth - 26ain Ebrill 2006
Y bandiau
Richard James, Pwsi Meri Mew a Steady Eddy Steady
Awyrgylch
Tywyll a tanddearol fel arfer yn y C诺ps. Roedd cynulleidfa dda yno o ddechrau'r noson a'r lle'n reit llawn erbyn y brif eitem gyda phawb yn ymateb yn dda i'r holl artistiaid.
Trac y noson
Gallen i enwi nifer o ganeuon Richard James gyda My Heart's on Fire yn gofiadwy, ond am ryw reswm Malu Awyr gan Steady Eddy Steady sy'n aros yn y cof fwyaf. C芒n fachog gyda backtrack effeithiol.
Disgrifiwch y perfformiadau
Steady Eddy Steady:
Canwr-gyfansoddwr cymharol newydd i'r s卯n ydy Steady Eddy Steady a dwi'n cofio ei weld o'n perfformio dan yr enw Endaf Ilan rhyw flwyddyn n么l. Roedd ei set o'n dechrau ffwrdd mewn arddull acwstig draddodiadol gyda dim ond s诺n git芒r a llais ac mae hi wastad yn anodd dal sylw'r gynulleidfa fel hyn. Ar gyfer y caneuon olaf mi wnaeth o gyflwyno backtrack a roedd hyn yn creu s诺n llawer llawnach oedd yn creu mwy o argraff. Llais da a caneuon bachog.
Pwsi Meri Mew
Mae Pwsi Meri Mew yn un o regulars Aberystwyth erbyn hyn yn perfformio yno'n gyson a fel arfer roedden nhw'n hynod o ffynci a hwyliog. Dechreuodd y set gyda cwpl o ganeuon acwstig swynol cyn mynd mewn i'w harddull ffynci/affrobitaidd adnabyddus. Roedd ychwanegiad y bongos ac effeithiau technegol gan Rhys 'Spikes' yn effeithiol. Y gan Gadael sy'n sefyll allan fel un o ganeuon gorau'r set.
Richard James
Mae Richard yn enw a wyneb cyfarwydd iawn i ddilynwyr cerddoriaeth, yn bennaf fel un o aelodau'r Gorkys Zygotic Mynci ac roedd yn amlwg wedi denu llawer iawn o'r gynulleidfa'n arbennig. Ni gawsom ein siomi wrth iddo roi perfformiad gwych yn cynnwys nifer o ganeuon o'i albwm newydd. Cerddoriaeth swynol a hamddenol gyda dylanwad cerddoriaeth gwlad yn amlwg. Roedd y g芒n Tir a M么r yn wych gyda'r gynulleidfa'n gwrando'n astud.
Digon o amrywiaeth yn arddull cerddorol y bandiau yn cynnal diddordeb y gynulleidfa.
Uchafbwynt y noson
Richard James yn perfformio yn Aberystwyth...oes angen gwell uchafbwynt?
Peth gwaethaf am y noson
Rhai pobl oedd yn mynnu siarad wrth y bar yn ystod y perfformiadau. Er nad ydy hyn yn beth anghyffredin mewn gigs yn Nghymru yn anffodus, mae'n dal i fod yn siomedig i'w weld.
Achlysur Roc A R么l
Amser dechrau'r gig yn cael ei wthio n么l oherwydd trafferthion gyda'r trydan. Roedd ond y dim iddi fod yn gig acwstig unplugged!
Beth sy'n aros yn y cof?
Alaw hyfryd My Heart's on Fire.
Talent gorau'r noson
Richard James heb os, ond mae llawer o botensial i'r ddau arall.
Marciau allan o ddeg
9 - pob perfformiad yn ychwanegu i noson dda
Un gair am y gig
Hyfryd
Gan: Owain Schiavone o Aberystwyth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.