Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r plant yn cyfarfod eu harwr T Llew Jones yn Aberystwyth ddydd Gwener, Awst 20 Rhywbeth tu fewn sydd eisiau dod allan
Bu'r awdur toreithiog, T. Llew Jones yn diddanu yr hen a'r ifanc yn y Drwm ar bnawn glawog oer o Awst. Yn briodol iawn adroddodd stori am bnawn stormus o fellt a tharanau tra'n ysgolfeistr yn Ysgol Coed y Bryn, pan gafodd e sioc drydan! Er gwaetha'i oedran mae ei lais cyn gryfed 芒 tharan a'i feddwl mor chwim 芒 mellten. Llwyddodd yr elfennau yma i gyfareddu pob aelod o'r gynulleidfa beth bynnag bo'u hoedran.
Darllen, darllen, darllen
Dywed T Llew mai'r brentisiaeth orau ar gyfer stor茂wr yw darllen a meistroli'r iaith.
"Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn yn darllen, darllen, darllen ac yn mwynhau ysgrifennu, dyna lle roedd fy nghryfder i. Roedd mam-gu hefyd yn mwynhau dweud stori ac rwy'n cofio gwrando arni hithau, a'r hen bobl oedd yn dod i'r t欧 ac yn adrodd stor茂au celwydd golau. Doedd dim adloniant pryd hynny, a phrin bod llawer o olau gyda ni. Byddai pawb yn eistedd o gwmpas y t芒n yn siarad ac yn adrodd storis.
"Pan ddechreues i ysgrifennu ar 么l yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gyfnod anodd, doedd neb ishe cyhoeddi llyfrau plant yn y Gymraeg. Bues i o gwmpas sawl cyhoeddwr yn ceisio dwyn persw芒d arnynt i gyhoeddi Trysor Plas y Wernen. Yn y diwedd gwerthes i'r hawlfraint am 拢40 a'r eironi erbyn heddiw yw mae'r llyfr yn ei ddegfed argraffiad!
"Prin iawn oedd y deunydd ar gyfer plant Cymru tan i Alun R Edwards gael y weledigaeth o gyhoeddi llyfrau i blant a'u dosbarthu trwy ysgolion Ceredigion yn gynta', ac yna'r siroedd eraill. Efe yn anad neb oedd yr arloeswr mawr, gan osod seiliau y Cyngor Llyfrau. Bum yn ffodus dros ben wedyn i gael y cyfle i gael sawl blwyddyn bant o'r ysgol er mwyn canolbwyntio ar y llyfrau."
Erbyn heddiw mae T Llew wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau , a 35 ohonynt ar gyfer plant, o ble ddaeth yr holl syniadau yma tybed?
Rhywbeth tu fewn sydd eisiau dod allan
"Rhywbeth tu fewn ichi sydd eisiau dod allan yw stori. Mi fyddwn yn dechrau gyda chymeriad, megis Barti Ddu, neu Twm Si么n Cati. Cymeriadau hanesyddol go iawn ac yn myfyrio amdanynt a darllen am eu hanes. Yna bydde' rhyw ddigwyddiad ffeithiol yn eu hanes yn cydio yn fy nychymyg a dyna ddechrau ehangu ar y stori ac adeiladu arni."
Ei lyfrau i gyd fel plant iddo
Ond pan ofynnwyd iddo pa lyfr sydd orau ganddo, mi atebodd, "Bydde chi ddim yn gofyn wrth fam pa blentyn sydd orau ganddi hi! Ma' nhw i gyd yn blant i mi!"
Mae T Llew yn pryderi am ddylanwad y teledu, a'r ffaith ei fod bellach wedi disodli y "bedtime story". Ond wrth wrando ar arch-ddewin straeon plant Cymru yn hudo ei gynulleidfa, doedd dim angen "special effects" arno na sgrin fawr i ddal sylw plant rhwng 4 a 14 oed.
Wedi gwrandawiad astud, roedd digonedd o blant yn awyddus i'w holi am ei lyfrau, ei ysbrydoliaeth, ac yn awyddus i gael ei lofnod a thynnu llun. Er bod T Llew yn dweud bod "ffynnon ei ddychymyg wedi sychu" gobeithio bydd ei waddol yn sbarduno yr ifanc i sgwennu straeon y dyfodol.
Pa un o lyfrau T. Llew Jones yw eich ffefryn chi? Beth yw eich barn am yr awdur toreithog? Cliciwch yma i gyfrannu.