Profodd y Pafiliwn newydd ym Mhontrhydfendigaid unwaith eto pa mor hyblyg yw'r ganolfan wrth lwyfannu cyngerdd telynau 'Hud Mil o Dannau' cwta wythnosau ar ôl i Enduro Beicio-Modur Tywi ddefnyddio'r adodd.
Cynhaliwyd y cyngerdd telynau ar Awst 15fed fel rhan o daith genedlaethol a drefnwyd gan y delynores leol Harriet Earis. Profodd y cyngerdd yn boblogaidd iawn, gan ddenu cynulleidfa o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru. Nid oedd hynny'n syndod mewn gwirionedd gan fod y sain a'r olygfa o dros 40 o delynau'n perfformio ar un llwyfan yn arbennig a dweud y lleiaf.
Ymysg y perfformwyr oedd aelodau o'r Ensamble Telynau Rhyngwladol, Ensamble Telynau Sir y Fflint a rhai o delynorion gorau Ceredigion. Roedd Harriet Earis yn hapus iawn â'r noson, "fel rhywun sy'n byw yn Bont, roeddwn yn awyddus iawn i ddefnyddio'r Pafiliwn a rwy'n hynod o falch fod cystal cynulleidfa wedi dod i'n gwylio. Roedd y perfformwyr i gyd yn hoff iawn o'r adnoddau ac yn awyddus iawn i ddychwelyd yn y dyfodol."
Un aelod lleol o'r gynulleidfa oedd, John Watkin o Ffair Rhos, a oedd yn falch i weld y fath ddigwyddiad yn ymweld â'r ardal, "fe wnes i wirioneddol fwynhau'r noson ac mae'n wych cael rhywbeth fel hyn ar ein stepen drws. Fel arfer byddai'n rhaid i ni deithio cryn bellter i brofi'r math yma o adloniant, felly mae'n dda gweld y Pafiliwn yn denu digwyddiadau fel hyn."
Nodiadau:
• Am fwy o fanylion ynglŷn â thaith 'Hud Mil o Dannau' ewch i wefan Harriet Earis www.harrietearis.com
• Am fwy o wybodaeth ynglŷn a Phafiliwn Bont, cysylltwch â'r rheolwr, Owain Schiavone, ar 01974 831 635 neu e-bostio pafiliwnbont@hotmail.com
|