Ar drothwy ras fawr 2005, fe fydd 成人论坛 Radio Cymru yn darlledu rhaglen arbennig lle bydd y joci hwnnw, a'i deulu yn hel atgofion, a hynny wrth edrych ymlaen i weld ei fab ei hun yn marchogaeth yng nghystadleuaeth eleni.Bydd James Davies yn marchogaeth am yr eildro yn Aintree, a hynny ar gefn ceffyl o'r enw Astonville o stablau teulu enwog y Scudamores.
Yn O Aberteifi i Aintree (sy'n cael ei ddarlledu ar 成人论坛 Radio Cymru ddydd Mawrth, Ebrill 5, 成人论坛 Radio Cymru, 6pm ac yn cael ei ail-ddarlledu ar ddydd Gwener, Ebrill 8, am 12.20pm), bydd Hywel yn s么n am un o uchafbwyntiau ennill y Grand National n么l yn 1985, sef dychwelyd i dre Aberteifi i dyrfaoedd o filoedd o bobl.
"O'n i methu credu'r ymateb gan bobl Aberteifi pan enilles i," meddai. "Fi'n cofio'r diwrnod n么l yn Aberteifi fel tase fe ddoe. Finne a James y mab, oedd ond yn fabi ar y pryd ar gefn cart a ceffyl, gyda dros chwech mil o bobl yn dod i longyfarch. Ro'dd e'n anhygoel."
Mae'n chwedlonol bellach sut yr enillodd lawer o bobl Aberteifi lawer iawn o arian, a'r bwcis yn gwneud colledion anferth.
"O'dd y bwci yn Aberteifi ffeili talu mas am wythnos mae'n debyg," meddai Hywel. "Dim dim ond ras fi o'dd hi yn y diwedd....ond Grand National a enillodd Aberteifi."
Bydd O Aberteifi i Aintree yn adrodd hanes brawd Hywel hefyd, y diweddar Geraint Davies, oedd yn joci dawnus ei hun.
Fe drodd Geraint yn broffesiynol cyn Hywel. Enillodd ef ei ras gyntaf yn 1969 a chael cyfle ei hun ar y Grand National yn 1972, ond yn anffodus fe dynnodd ei geffyl lan cyn y Beechers ar yr eildro o gwmpas y cwrs. Wedi amrywiol anafiadau fe roddodd y gorau i rasio yn 1974, yn 24 oed, gan ddilyn busnes traddodiadol y teulu a mynd i bedoli yn ardal Aberteifi. Erbyn hyn mae mab Geraint, Tomos, yn parhau 芒'r gwaith yn yr ardal.
Ar y rhaglen, bydd mab arall Geraint, Ryan, yn s么n am yrfa ei dad a gyrfa ei ewythr, gan leisio ei edmygedd llwyr tuag at y ddau.
"Arwr o'dd e i fi a hefyd ma' fe'n wncwl i fi," meddai am ei ewythr Hywel, "bod y ddau'n gellid mynd da'i gilydd ro'dd hwnna'n rhywbeth anhygoel. Dad wedd y cynta' o'r teulu i droi'n broffesiynol, yn y pen draw 'nath ei frawd bach Hywel, wireddu ei freuddwydion e, a rho'th hynna cymaint o foddhad i Dad."
Bydd brawd arall Hywel, Dyfrig, sy'n byw yn Aberteifi, hefyd yn cyfrannu, gan s么n am gysylltiad agos y teulu gyda'r byd ceffylau.
"Mae ceffyle a cystadlu yn y gwaed 'da ni fel teulu...a chystadlu gyda'n gilydd ac yn erbyn ein gilydd hefyd yn elfen bwysig, a o'dd Hywel bob amser yn dod i ben a neud pethe'n well na pawb... a fi'n credu fydde fe di dod i ben a chystadlu yn unrhyw faes...tase fe wedi dewis mynd i chware rygbi mi fydde' fe di neud eitha' da fel chwaraewr rygbi hefyd."
Mae modd gwrando ar y raglen hon ar wefan 成人论坛 Cymru'r Byd - cliciwch yma.