Wedi i'r band gael eu henwebu ar gyfer pedair gwobr fe gipion nhw wobrau 'Band a ddaeth fwyaf i amlygrwydd yn 2005', 'Sesiwn C2 gorau' a'r 'EP neu'r Sengl Orau' am eu sengl gyntaf 'Pwer y Fflwer / Lisa Magic a Porva'.
Rhyddhawyd y sengl ar label Ciwdod ym mis Tachwedd 2005 ac fe'i cynhyrchwyd gan un o arwyr Meilyr, Euros Childs o'r band Gorky's Zygotic Mynci. Ers hynny, mae'r sengl wedi mynd mor uchel 芒'r ail safle yn siart C2 ac wedi gwerthu wrth y cannoedd ar hyd a lled Cymru.
Yn ogystal, syfrdanodd y band y gynulleidfa ddethol o gerddorion, penaethiaid labeli a newyddiadurwyr gyda set anhygoel o'u caneuon i agor y noson. Yn 么l Meilyr, prif leisydd y gr诺p, "roedd hi'n noson wych. Doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill un wobr, dim ond yn gobeithio y byddem ni'n ennill rhywbeth! Mae'n hyfryd ennill y math yma o beth, ond yn y pen draw chwarae'n stwff ni a'r hwyl 'dan ni'n cael gyda'n gilydd sydd wir yn bwysig."
Yn 么l Meilyr bu 2005 yn flwyddyn wych i'r band gyda "llawer iawn o bobl wedi ymateb yn dda i'r gigs a'r sengl. Mae teithio o amgylch Cymru'n gigio yn gallu bod yn waith blinedig ond pan gewch chi ymateb cadarnhaol mae e wastad yn werth yr ymdrech."
Pwysleisiodd hefyd na fydd y band yn gwastraffu gormod o amser yn dathlu ond yn mynd ati'n syth i recordio deunydd newydd a pharhau i gigio.
Mae haf prysur dros ben o flaen Radio Luxembourg gyda pherfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau a nifer o ymddangosiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan gynnwys ymddangosiad ym Maes B ar nos Sadwrn ola'r 诺yl.
Da iawn nhw.
Gan: Einion Dafydd
Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.
|