Wrth edrych ar draws caeau gwyrddion Abernant, Llanllwni ar 诺yl banc hynod o braf, fe ddaeth pwl o nerfusrwydd drostaf wrth feddwl am y dasg oedd o'm blaen. Y dasg hon oedd cymryd rhan efo'm ci, Don, mewn digwyddiad blynyddol ac un o uchafwbyntiau calendar y clwb ffermwyr ifanc lleol, sef treialon c诺n defaid Llanllwni. Fe gafodd y treialon ei ail sefydlu gan y clwb yn yr wythdegau ac ers hyn wedi mynd o nerth i nerth. Rhaid cyfaddef fy mod erioed wedi bod mewn treialon c诺n o'r blaen ac yn sicr ddim wedi cymryd rhan.
Dw i wedi bod yn hoff o g诺n defaid ers yn blentyn ac fel merch fferm wedi cael cyfle i drin a thrafod c诺n efo gorchmynion sylfaenol. Ond rhaid cyfaddef taw un peth yw trafod ci ar eich fferm adref lle mae'r ci yn adnabod ei amgylchedd a'i ffordd o amgylch, ond, peth cwbl wahanol yw trafod ci mewn treialon c诺n defaid o flaen torf o bobl, defaid a thirwedd gwahanol, ac ar ben hyn cadw'r defaid o dan reolaeth ac yn symud yn y ffordd gywir o amgylch rhwystrau fel y 'maltese cross'.
Fe gefais Don, y ci defaid tri lliw, er mwyn gweithio ar y fferm adref. A rhaid dweud mae e'n gi sydd yn gwrando ar y gorchmynion yn astud. Ci tawel a swil yw, ond pan welith e ddefaid gallaf ddim ond ei gymharu ef 芒 llewpart yn gwylio'i bryd nesaf a'i lygaid ddim yn symud oddi ar y defaid.
Fe floeddiodd yr uchelseinydd fy enw ac wrth gerdded tuag at glwyd y cwrs trwy'r dorf fe glywais ambell 'lwc dda' yn cael ei alw oddi wrth rhai trigolion lleol. Roedd dros 90 o bobl wedi cymryd rhan yn ystod y dydd, rhai yn gwneud yn dda a rhai eraill ddim yn gwneud cystled. Ond nawr, wrth gamu i'r cae fe wnaeth popeth oedd yn rasio o amgylch fy mhen yng nghynt ddiflannu, a fy meddwl i a'r ci ar y dasg o gael y defaid oedd ymhell o'm blaen trwy'r cwrs.
Fe ddiflannodd yr wyth munud i rywle rhwng chwibanu a gwaeddi 'come by' ac 'away' a'r defaid yn symud fel un ar draws y cae. Un yn trio'i lwc ar adegau ac yn mynd a'i phen yn yr aer ond Don yn ddigon o lanc i ddod 芒 hi nol ar y trywydd iawn. Corn y 'landrover' yn twtian a'r amser wedi dod i ben.
Profiad arbennig o dda oedd cael rhedeg Don yn y treialon, ond sioc go iawn oedd cael dod adref efo'r chweched safle!
Edrychaf ymlaen yn frwdfrydig am ddechreuad i dymor newydd o dreialon c诺n defaid ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf a chyfle arall i fi am ffrind cynffon hir i roi cynnig arall arni!
Gan: Nerys Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|