Llwybr Arfordir Cymru
Ar 5 Mai 2012 cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn swyddogol ar 么l chwe mlynedd o waith datblygu gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.
Mae'r llwybr yn caniat谩u ichi gychwyn eich taith ar lannau Afon Dyfrdwy a dal i fynd am 870 o filltiroedd nes cyrraedd aber yr Afon Hafren ger Casgwent gan wneud Cymru y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr cerdded swyddogol ar hyd pob modfedd o'i harfordir.
Gallwch ddewis deithiau byr neu deithiau hir ar hyd rhannau o'r daith.
Ar y ffordd gallwch fwynhau golygfeydd godidog o'r arfordir a chael cip ar fywyd gwyllt gan gynnwys Adar Drycin Manaw ar Ynys Enlli, Gweilch yn nythu ar aber Afon Dyfi, dolffiniaid ym Mae Ceredigion, colon茂au enfawr o b芒l a mulfrain ar Ynys Sgomer a math prin o degeirian y gors yng Ngwarchodfa Natur Cenfig.
Mae'r llwybr yn mynd drwy ddau Barc Cenedlaethol, 11 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Yn ogystal 芒 cherddwyr, mae rhai rhannau ohoni yn addas i feicwyr, teuluoedd, pramiau, cadeiriau olwyn ac i ymwelwyr ar gefn ceffyl.
Arfordir 'gorau'r byd'
Datblygodd y syniad am y llwybr yn sgil llwyddiant economaidd Llwybr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Arfordirol Ynys M么n ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Cyngor Cefn Gwlad, 16 o awdurdodau lleol a dau barc cenedlaethol i wireddu'r freuddwyd.
Yn 2011 cyhoeddodd Lonely Planet mai arfordir Cymru oedd yr arfordir gorau yn y byd i gerddwyr ymweld ag ef yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae'r holl wybodaeth, gan gynnwys mapiau, i'w chael ar wefan Llwybr yr Arfordir: