|
|
|
Abaty Basing a Ffynnon Gwenfrewi Ffynnon sy'n tynnu ymwelwyr o bell |
|
|
|
Y mae dau le difyr o arwyddoc芒d crefyddol y gellir ymweld 芒 hwy tra'n crwydro yn ardal Treffynnon, Sir Y Fflint.
Mae yna waith rhyw ddwy awr a hanner o gerdded hamddenol ond gan ddibynnu am ba hyd y byddwch yn oedi yn Abaty Basing ac wrth Ffynnon Gwenfrewi - neu Gwenffrewi yn 么l sillafiad arall - gall y daith gymryd faint a fynnwch chi o amser ychwanegol.
Y lle gorau i gychwyn yw o'r Maesglas gyda lle i adael y car ar yr ochr dde, pan yn wynebu'r Fflint, rhwng goleuadau traffig ac un o gamer芒u goryrru mwyaf dadleuol y gogledd!
Abaty Basing Mae olion Abaty Basing i'w gweld yn syth wedi ichi ymuno 芒'r llwybr sy'n cychwyn o'r maes parcio ac y mae erbyn heddiw yn rhan o barc treftadaeth gyda saith o henebion cofrestredig ynddo.
Maen nhw'n cynnwys Clawdd Wat a Thomen Castell Treffynnon yn ogystal 芒 Ffynnon Gwenfrewi ac olion Abaty Dinas Basing gyda rhydd fynediad rhwng muriau yr hen abaty ar unrhyw adeg.
Y gred yw mai Iarll Caer a sefydlodd yr Abaty n么l yn 1131 ac yn bensaern茂ol mae'n debyg iawn i abaty Glyn y Groes ger Llangollen.
Brodyr Sistersaidd oedd yma - nes iddyn nhw gael eu hel oddi yno yn sgil Deddf Diddymiad 1536 Harri'r Wythfed.
Bu'r abaty hefyd yn gartref i nifer o feirdd Cymraeg - yn eu plith, Tudur Aled a ganodd i Domas ap Dafydd Pennant a oedd yn Abad yno: ..
Nid anheirdd na'th feirdd na'th fyrddau - na'th g么r Nath gerygl na'th lyfrau.
Ochri gyda'r Saeson Yn ystod brwydrau y drydedd ganrif ar ddeg ochri gyda'r Saeson a wnaeth y mynachod ac oddi yma y daeth caplan Castell Y Fflint.
Yn faterol, yr oedd hynny'n benderfyniad doeth gan i'r abaty ffynnu'n sylweddol o ran arian a thir.
Gellir oedi'n hir rhwng y muriau yn sawru'r awyrgylch ac hyd yn oed fwynhau pryd yn eu cysgod.
Gerllaw mae fferm y gellir ymweld 芒 hi. Am d芒l.
Un o'r Saith Rhyfeddod O ddilyn y llwybr i fyny'r dyffryn gellir un ai fynd yr holl ffordd i Dreffynnon a hamddena yn y dref cyn troi am ffynnon Gwenfrewi sy'n un o 'Saith Rhyfeddod Cymru' - neu gellir mynd yn syth i'r ffynnon gan gyrraedd o fewn rhyw hanner awr.
Treisio Gwenfrewi Mae'r ffynnon yn grandiach lle na'r Abaty erbyn heddiw gyda'r adeiladau a godwyd o'i chwmpas yn cael eu cynnal.
Ar wah芒n i'r adeiladau, ychydig sydd i'w weld o'r ffordd fawr a rhaid talu i fynd at y ffynnon ei hun.
Dydi o ddim yn lle hawdd i dynnu lluniau.
Coelion yn hytrach na ffeithiau Er bod Gwefrewi yn un o seintiau enwocaf Cymru y mae'r hanesion amdani wedi eu seilio ar goelion yn hytrach na hanes go iawn.
Ymhlith y beirdd a gyfeiriodd ati yr oedd Lewys M芒n, Ieuan Brydydd Hir a Thudur Aled.
Fel gyda sawl santes mae tristwch a thrais yn rhan o'i hanes.
Hyd y gellir casglu hi oedd unig blentyn teulu cyfoethog yn y seithfed ganrif a oedd yn 么l rhai yn rhan o deulu brenhinol Powys.
Ei thad oedd Tevyth o Degeingl a Gwenlo, merch Insi, Brenin Powys oedd ei mam
Disgybl Beuno Cysylltir Gwenfrewi 芒 Beuno y bu'n ddisgybl iddo gyda rhai o'r farn ei bod yn nith iddo.
Yr hanes mwyaf cyffredin amdani yw iddi gael ei threisio a'i lladd ond i Feuno ei hadfer.
A hithau yn y t欧 ar ei phen ei hun un diwrnod ymosododd y Tywysog Caradog o Benarl芒g arni i'w threisio.
Er iddi geisio dianc rhagddo tuag at eglwys Beuno daliodd Caradog hi ar lechwedd y mynydd a thorri ei phen.
Melltithiwyd Caradog gan Beuno gan beri iddo ddiflannu i'r awyr. Yna, gan wedd茂o gosododd ben Gwenfrewi yn 么l ar ei hysgwyddau ac adfer iddi ei bywyd.
Yr hanes yw i ffynnon darddu o'r fan lle syrthiodd ei phen ac wedi i Beuno adfer iddi ei bywyd eisteddodd y ddau ger y ffynnon yn gwedd茂o gyda Beuno yn addo y byddai unrhyw un a wedd茂ai wrth y ffynnon yn cael gwellhad.
Pererinion Ers hynny, bu'r ffynnon yn gyrchfan pererinion - ac maen nhw'n dal i ddod yno hyd yn oed heddiw.
Wedi blynyddoedd yn lleien daeth yn abades Gwytherin ac yno y bu farw gyda phererinion yn ymweld a'i bedd yno nes i'w chorff gael ei symud i Amwythig yn 1138.
Tachwedd 3 yw dydd Gwenfrewi yng nghalendr y seintiau.
A beth ddaeth o Garadog? Un farn yw iddo gael ei ladd gan Owain, brawd Gwenfrewi.
Ymhlith yr enwogion 芒 ymwelodd 芒'r ffynnon yr oedd y Dr Samuel Johnson a welodd bobl yn ymolchi yn y dwr yn 1774.
|
|
|
|
|
|