Mae cerflun o Fair a'r Baban Iesu yn Abaty Tyndyrn unwaith eto - yr Abaty sydd wedi cadw orau o holl abatai canoloesol Cymru.
Gosodwyd y cerflun newydd yn eglwys yr abaty fis Chwefror 2008.
Fe'i cerfiwyd gan Philip Chatfield a gomisiynwyd gan Gristnogion lleol, The Friends of our Lady of Tintern a ffurfiwyd i arolygu y gwaith y dechreuwyd arno yn Awst 2006.
Dim ond gweddillion Gwnaed y cerflun o dywodfaen Fforest y Ddena ac mae'n ail gread o gerflun o'r drydedd ganrif ar ddeg nad oes ond ei weddillion ar 么l yn yr Abaty sydd erbyn heddiw dan ofal CADW.
Meddai Hayley Thomas Hill, ceidwad yr Abaty am y cerflun:
"Rydym ni gyd wrth ein boddau i weld cwblhad y prosiect.
"Mae'r cerflun yn arwyddocaol achos mae pob abaty Sisteraidd wedi ei gysegru i Fair a'i Phlentyn felly mae hwn yn gerflun gwerthfawr sy'n dal yma."
Sefydlwyd Abaty Tyndyrn gan fyneich Sisteraidd yn 1131 ac mae'n nodedig am ei bensaern茂aeth goeth a godidog. Fe'i hailadeiladwyd yn helaeth ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg gan Roger Bigod, arglwydd Castell Cas-gwent sydd gerllaw.
Ynmweliad Wordsworth Ymhlith yr enwogion y gwnaeth yr olion mawreddog argraff arnyn nhw yr oedd y bardd Saesneg William Wordsworth a ymwelodd 芒'r abaty gyda'i chwarae, Dorothy, yng Ngorffennaf 1798.
O Fryste, lle'r oedden nhw yn aros gyda chyfeillion, y teithiodd y ddau yno gan groesi Afon Hafren ar y fferi a cherdded wedyn i fyny Dyffryn Wysg gan dreulio dwy noson yn Nhyndyrn ond gan gerdded yn 么l i Gas-gwent rhwng y ddwy noson!
Dychwelodd y ddau wedyn i Fryste.
Yn dilyn yr ymweliad hwnnw y cyfansoddodd ei gerdd adnabyddus y bu cenedlaethau o blant ysgol yn ei hastudio, Lines Composed a Few Miles Above Tintern Abbey.
Pan ymwelodd y dyddiadurwr Francis Kilvert a'r Abasy dywedodd ei fod bron a bod yn "rhy berffaith" i fod yn ddarlun hyd yn oed!