Bu'r penwythnos Ionawr 13 - 14, 2007, yn un i'r Eglwys yng Nghymru dathlu deng mlynedd ers ordeinio offeiriaid benywaidd yng Nghymru am y tro cyntaf.
Bu gwasanaethau yn Nhyddewi ac yn Llanelwy y prynhawn Sadwrn. Cyhoeddwn yma luniau o'r Offeren Ddathlu yn Llanelwy lle'r oedd yr Esgob Alwyn Rice Jones yn bresennol. Ef oedd Archesgob Cymru yn 1997 yn llywio'r penderfyniad drwy'r Corff Llywodraethol. Arweiniwyd y gwasaneth gan Esgob presennol Llanelwy, y Gwir Barchedig John S Davies a thraddodwyd y bregeth gan Y Tra Barchedig Vivienne Faull, Deon Caerl欧r.