Yr oedd y Parchedig Enid Morgan ymhlith y merched cyntaf i'w hordeinio'n offeiriaid.
"Yr oedd fel camu allan o gaets oedd wedi bod yn rhy fach a medru sefyll i'n taldra iawn," meddai wrth gofio'r achlysur ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
Yr oedd hi a gwragedd eraill wedi bod yn ddiaconesau cynt ac ond yn cael cyflawni rhai o ddyletswyddau offeiriaid.
Bu Mrs Morgan yn sôn am arwyddocad y penderfyniad ar Raglen Hywel a Nia ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, Ionawr 11, 2007 - ddeng mlynedd i'r diwrnod ers ordeinio merched yn offeiriaid am y tro cyntaf.
Disgrifiodd y cyfnod cyn y penderfyniad fel "un digon poenus".
Gellir clicio uchod i wrando ar y sgwrs.
Darllenwch hefyd:
|