1967
Tryweryn / Ar Fin y Llyn Tristwch y gymdogaeth a foddwyd dan gronfa ddwr Erbyn 1967, 'roedd y dadlau a'r protestio dros foddi Tryweryn wedi mynd heibio ac roedd pentref Capel Celyn wedi diflannu o dan y dwr mewn cronfa a gafodd ei chreu i wasanaethu dinas Lerpwl. Fe benderfynodd y cynhyrchydd teledu, Aled Vaughan, ymweld â'r ardal i holi'r trigolion oedd ar ôl yno. Naw ffarm yn unig oedd bellach ar fin y llyn ac mae'r camera'n ymweld â phob un ohonyn 'nhw : Hafod Wen, Ty Ucha, Penbrynmawr, Bryn Ifan, Gwern y Genau, Boch y Rhaeadr, Craig yr Onwy, Maes y Dail a Ty Nant ac ym mhob un mae'r teuluoedd yn hiraethu am y gymdeithas a fu.
Clipiau perthnasol:
O Ar Fin y Llyn: Tryweryn darlledwyd yn gyntaf 04/08/1967
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|