1965
Tryweryn / Llyn Celyn Yn ystod y pumdegau penderfynodd aelodau Cyngor Dinas Lerpwl fod angen mwy o ddwr ar y ddinas Yn ystod y pumdegau penderfynodd aelodau Cyngor Dinas Lerpwl fod angen mwy o ddwr ar y ddinas. Dewiswyd boddi rhan o gwm hyfryd Tryweryn ger y Bala, gan ddinistrio pentref Cymraeg Capel Celyn. Fe fu protestio ffyrnig a hynny nid yn unig o du'r pentrefwyr ond trwy Gymru gyfan, gan gynnwys Aelodau Seneddol Cymru. Ofer fu'r cyfan a dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu'r gronfa ddwr. Yn ystod yr adeiladu, sbardunwyd rhai i weithredu'n uniongyrchol ac fe ddifrodwyd offer trydanol a phibau. Er i'r cwm gael ei foddi, fe esgorodd y chwerwder a'r rhwystredigaeth ar benderfyniad i sicrhau hunan-lywodraeth i Gymru. Mae'r ffilm hon yn croniclo'r boddi.
Clipiau perthnasol:
O Taro Naw darlledwyd yn gyntaf 03/02/1993
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|