1982
Cymru Ddi-Niwcliar (CND) Cymry yn protestio yn erbyn arfau niwcliar Trefnwyd y rali genedlaethol gyntaf gan yr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear (CND) yn Aberystwyth yn 1961, ac ar y 23ain o Chwefror 1982, fe ddaeth Cymru'n wlad "ddi-niwcliar" yn yr ystyr bod y cynghorau lleol i gyd wedi datgan eu gwrthwynebiad i ynni ac arfau niwclear. Serch hynny, bu dwy atomfa - yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa - yn ogystal â sefydliadau milwrol yng Nghymru drwy gydol y cyfnod hwn. Drwy'r wythdegau bu protestiadau yn erbyn sefydliadau niwcliar, gan gynnwys llochesi rhag ymosodiad niwcliar,. Yn enwocaf oll, bu protest yn erbyn y sefydliad milwrol Americanaidd yng Nghomin Greenham yn Lloegr, lle cychwynnodd merched o Gymru wersyll heddwch a ddaeth yn ganolbwynt i'r mudiad heddwch ym Mhrydain gyfan.
Clipiau perthnasol:
O Heddiw darlledwyd yn gyntaf 07/06/1982
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|