1917
Eisteddfod y Gadair Ddu, 1917 Cofio 'cadeirio' Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917 Magwyd Ellis Humphreys Evans (1887 -1917) ar ffarm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ger y Bala. 'Roedd yn fugail ac yn fardd a mabwysiadodd yr enw barddol "Hedd Wyn". Yn 1917 cafodd alwad i ymuno â'r fyddin ac fe anfonwyd ef i Ffrainc gyda'r Royal Welch Fusiliers. Y flwyddyn honno "Yr Arwr" oedd testun y gadair yn Eisteddfod Penbedw ac fe anfonodd Hedd Wyn ei awdl o Ffrainc o dan y ffugenw "Fleur de Lys". Dyfarnwyd y gerdd yn fuddugol, ond fe laddwyd y bardd ym mrwydr Pilkem Ridge cyn iddo gael y cyfle i dderbyn ei gadair. Gan fod yr enillydd wedi marw, gorchuddiwyd y gadair gyda lliain du. William Morris, hanner canrif yn ddiweddarach, sy'n cofio'r achlysur, yn y rhaglen "Yr Arwr".
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Yr Arwr darlledwyd yn gyntaf 31/07/1967
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|