1930
Dai Francis Comiwnydd, dyn undeb ac un o gewri maes glo'r de Un o blant yr Onllwyn, Dyffryn Dulais, oedd Dai Francis (1911 - 1981 ). Dewisodd yr enw 'Dai o'r Onllwyn' pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1974. Aeth gyda'i dad i'r talcen glo yn 14 mlwydd oed. Ymunodd â'r Undeb a bu'n bwyllgorddyn ac yna yn Gadeirydd y Gyfrinfa. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol yn 1936 a bu'n aelod ohoni ar hyd ei oes. Penodwyd ef yn Brif Swyddog Gweinyddol Undeb Glowyr De Cymru yn 1959, ac yn 1963 yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Glowyr yn Ne Cymru. Ymdrechodd i wella byd y gweithiwr ar hyd ei oes.
Clipiau perthnasol:
O Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 27/05/1990, 15/04/1987
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|